Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cafodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ei sefydlu gan y Senedd i drafod materion a nodir o dan Reol Sefydlog 22, yn enwedig unrhyw gwynion a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau. Mae’r Pwyllgor hefyd yn gyfrifol am adolygu’r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau’r Senedd, y canllawiau ar y cod a’r gweithdrefnau cwyno, ynghyd â’r rheolau ar gyfer lobïo.

Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn dymuno cyflwyno deddfwriaeth cyn 2026 i gyflwyno proses ‘Adalw’ ar gyfer Aelodau o’r Senedd y canfyddir eu bod wedi mynd yn groes i’r broses Safonau yn y Senedd.

Yn dilyn trafodaethau â Chadeirydd y Pwyllgor Safonau, a’i aelodau, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn 2026 ar gyfer datgymhwyso Aelodau ac ymgeiswyr a geir yn euog o dwyllo’n fwriadol drwy broses farnwrol annibynnol, a bydd yn gwahodd y Pwyllgor i wneud cynigion i’r perwyl hwnnw.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cytuno i wahodd yr Aelodau o’r Senedd a gyflwynodd y gwelliant a arweiniodd at Adran 64 yn cael ei phasio yng Nghyfnod 2 o drafodion y Bil, ynghyd â chynrychiolydd o Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig a’r Aelod o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru i gyfrannu at waith y Pwyllgor.

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 22.

Eilyddion y Pwyllgor

Aelodau’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw:

Pan nad oes modd i Aelod weithredu ar fater sy’n ymwneud ag adroddiad gan y Comisiynydd, caiff eilydd weithredu (yn unol a’r hyn a nodir yn Rheol Sefydlog 22.5). Eilyddion y Pwyllgor yw:

Gwaith wedi'u gwblhau ac adroddiadau cyhoeddedig

Aelodau'r Pwyllgor