Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae diddordebau gwleidyddol Vikki yn cynnwys: addysg; materion
amgylcheddol; materion gwledig; ynni; cynllunio; trafnidiaeth a'r economi; mynd
i'r afael â thlodi; adfywio cymunedol; a diwylliant a threftadaeth.
Hanes personol
Cafodd Vikki ei geni a’i magu yn Aberdâr, a chafodd ei haddysg yn Ysgol
Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru. Yna, aeth i Brifysgol
Cymru, Caerdydd, lle enillodd radd baglor mewn Hanes Rhyngwladol a Hanes Cymru,
yn ogystal â gradd meistr mewn Hanes Cymru Fodern. Wrth astudio yng Nghaerdydd,
enillodd Vikki wobr Charles Morgan yn sgil ei chyfraniad i faes Hanes Cymru.
Cefndir proffesiynol
Roedd Vikki yn athrawes Hanes yn Ysgol Gymunedol Cenydd Sant yng
Nghaerffili rhwng 2000 a 2016. Ymgymerodd ag amryw rolau bugeiliol yno, gan
wasanaethu’n fwyaf diweddar fel Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth. Mae
Vikki hefyd wedi gweithio fel mentor ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac wedi
eistedd ar y panel derbyn ar gyfer cwrs TAR Hanes Prifysgol Cymru y Drindod
Dewi Sant.
Hanes gwleidyddol
Ymunodd Vikki â'r Blaid Lafur yn 17 oed ac mae wedi dal sawl rôl yn ei
hetholaeth, gan gynnwys Swyddog Menywod a Chadeirydd y Blaid Lafur
Etholaethol. Roedd Vikki yn Aelod o’r
Senedd dros Gwm Cynon rhwng 2016 a 2026 ac mae’n cynrychioli Pontypridd Cynon
Merthyr ers 2026. Etholwyd Vikki yn Gadeirydd Grŵp Llafur Cymru yn y Senedd rhwng 2017 a
2024, cadeiriodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad rhwng 2021 a 2024 a hi oedd y
Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch rhwng 2024 a 2026. Ar hyn o bryd, Vikki yw
Prif Chwip y Grŵp
Llafur a hi yw llefarydd y Grŵp
Llafur ar yr Amgylchedd, Materion Gwledig, Ynni a Thrafnidiaeth.