Pwyllgorau
Mae gan bwyllgorau’r Senedd nifer o swyddogaethau, gan gynnwys craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dwyn y Gweinidogion i gyfrif, a chraffu ar deddfwriaeth arfaethedig.
Pwyllgorau Presennol
Mae'r Chweched Senedd wedi'i diddymu.
Disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn Hydref 2026.
Yn yr adran hon
Pwyllgorau yw un o'r prif fecanweithiau sy'n galluogi'r Senedd i gyflawni ei swyddogaethau statudol a chyfansoddiadol.
Yn y Senedd, mae pwyllgor yn cynnwys nifer o Aelodau o'r Senedd o bob plaid wleidyddol a benodir gan y Senedd lawn i gydweithio ar waith manwl ac ymgymryd â swyddogaethau penodol. Y Senedd sydd hefyd yn penderfynu pwy fydd cadeirydd pob pwyllgor. Ni all unrhyw un nad yw'n Aelod o'r Senedd fod yn aelod o un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau'r Senedd.
Rhyngddynt, mae pwyllgorau'r Senedd yn edrych ar y meysydd deddfu y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Y pynciau hyn yw'r meysydd o fywyd Cymru sydd wedi'u datganoli i'r Senedd gan Lywodraeth y DU yn Llundain.