Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon 

Sefydlwyd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon drwy gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mehefin 2026.

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 16 Mehefin 2026 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, cyfathrebu, y Gymraeg, darlledu, y cyfryngau, a chwaraeon.

Rhannu swydd Cadeirydd y Pwyllgor

Rhennir swydd Cadeirydd y Pwyllgor (o dan Reol Sefydlog 17A) rhwng Mair Rowlands AS a Lis McLean AS.

Mae rhannu swydd yn drefniant arloesol ar gyfer un o bwyllgorau’r Senedd ac, yn wir, ar gyfer pwyllgorau seneddol ledled y byd. Mae'r Senedd yn treialu’r broses o rannu swyddi fel rhan o ymdrechion ehangach i gynyddu hyblygrwydd, hygyrchedd ac amrywiaeth o fewn rolau seneddol.

Mae'r Cadeiryddion wedi cytuno ar brotocol sy’n nodi ffyrdd o weithio arfaethedig yr Aelodau sy'n rhannu swydd Cadeirydd pwyllgor, gan gynnig eglurder a thryloywder i Aelodau eraill a swyddogion y Pwyllgor, yn ogystal â’r Senedd yn fwy eang, rhanddeiliaid a'r cyhoedd.

Gwaith wedi’u gwblhau ac adroddiadau cyhoeddedig

Aelodau'r Pwyllgor