Pobl y Senedd

Lis McLean AS

Lis McLean AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Pontypridd Cynon Merthyr

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Lis McLean AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Am fwy na 20 mlynedd, mae ffocws Lis wedi bod ar ddatblygiad y Gymraeg drwy’r celfyddydau a threftadaeth. Mae Lis yn angerddol dros y ffordd y mae’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn cyfoethogi bywydau pobl.   Ar ôl gadael yr ysgol, treuliodd 17 mlynedd heb ddefnyddio’r Gymraeg. Fe wnaeth ailgysylltu â’i hiaith a’i diwylliant a rhoi ymdeimlad newydd o berthyn ac o hunaniaeth iddi. Teimlodd ei hyder yn codi ac agorodd gyfleoedd i ymgysylltu â diwylliant, cwrdd â phobl newydd, a meithrin rhwydweithiau cymdeithasol newydd. Roedd hi am i eraill gael y profiadau buddiol hynny hefyd, ac am gyflwyno’r Gymraeg i bawb.  Mae angerdd Lis dros y Gymraeg a diwylliant wedi dangos iddi sut y gall cymunedau ddefnyddio diwylliant i gyfoethogi bywydau, datblygu sgiliau newydd, gwella llesiant, a mynd i’r afael â thlodi.   Mae profiadau bywyd Lis, hefyd wedi dangos bod materion sylfaenol sy’n effeithio ar allu pobl i ffynnu mewn bywyd bob dydd. Mae iechyd meddwl a llesiant yn hynod bwysig. Ni all cymunedau deimlo eu bod wedi’u grymuso heb fynediad at wasanaethau iechyd o ansawdd uchel, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, yn ogystal ag addysg dda.

Hanes personol

A hithau wedi astudio Economeg ym Mhrifysgolion Aberdeen ac Abertawe, aeth Lisbeth ymlaen i addysgu Economeg ac Astudiaethau Busnes. Mae ei chefndir mewn addysg wedi llywio ei gwaith yn y trydydd sector, gan ddod â dealltwriaeth strategol o sut i gefnogi unigolion a chymunedau i dyfu, ffynnu, a dod yn fwy hunangynhaliol.Yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, mae gwaith Lisbeth yn canolbwyntio ar feithrin partneriaethau, cefnogi mentrau cymunedol gwreiddiol, a chryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae ei hymroddiad a’i harweinyddiaeth wedi gadael effaith barhaol ar Ferthyr a thu hwnt.Mae’n parhau i bledio’r achos mai cymunedau cynaliadwy yw’r rhai sy’n cael eu hadeiladu o’r gwaelod i fyny - drwy iaith, hunaniaeth, ac uchelgais gyffredin am ddyfodol gwell.

Cefndir proffesiynol

Roedd Lisbeth McLean yn arweinydd cymunedol am dros 20 mlynedd, gweithiodd gyda phobl Merthyr Tudful i hyrwyddo’r Gymraeg, datblygu’r gymuned, a grymuso’n lleol.  Fel Prif Swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful a Phrif weithredwraig Canolfan a Theatr Soar, mae hi wedi chwarae rhan flaenllaw mewn creu cyfleoedd i bobl o bob oed ymgysylltu â’r iaith a’r diwylliant mewn ffyrdd ystyrlon ac ymarferol.  Yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, a sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, mae gwaith Lisbeth yn canolbwyntio ar feithrin partneriaethau, cefnogi mentrau cymunedol gwreiddiol, a chryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn bywyd bob dydd. Mae ei hymroddiad a’i harweinyddiaeth wedi gadael effaith barhaol ar Ferthyr a thu hwnt.Mae’n parhau i bledio’r achos mai cymunedau cynaliadwy yw’r rhai sy’n cael eu hadeiladu o’r gwaelod i fyny - drwy iaith, hunaniaeth, ac uchelgais gyffredin am ddyfodol gwell.

Hanes gwleidyddol

Doeddwn i erioed wedi disgwyl dod yn wleidydd, ond wrth godi arian i adfywio Capel Soar ym Merthyr, gwelais yn uniongyrchol pa mor hanfodol yw gwleidyddiaeth wrth lunio cymunedau. Sylweddolais sut mae polisi a strategaeth yn dylanwadu ar gyllid, datblygiad, a chyfleoedd pobl yn eu bywydau bob dydd.Ar ôl Brexit, penderfynais gamu ymlaen yn wleidyddol, ar ôl aros yn niwtral am flynyddoedd wrth arwain sefydliad trydydd sector.  Gwahoddodd ffrind fi i gynhadledd Plaid Cymru, ac fe adawais wedi fy ysbrydoli gan ba mor agos oedd fy ngwerthoedd yn cyd-fynd â’i pholisïau. Des i’n fwyfwy ymroddedig, gan fynychu cynadleddau a digwyddiadau pryd bynnag y gallwn.Dros amser, sylweddolais werth fy mhrofiad proffesiynol a phersonol. Dw i wastad wedi anelu at wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ac roedd dod yn Aelod o’r Senedd yn teimlo fel estyniad naturiol o’m gwaith cymunedol.Dw i am gryfhau’r cysylltiad rhwng cymunedau a’r llywodraeth, gan sicrhau bod gan bobl lais gwirioneddol yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Digwyddiadau calendr: Lis McLean AS