Ganwyd Nick
Carter ym 1971 a chafodd ei fagu yng Nghrucywel, Hwlffordd ac Abertawe. Mae
wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd ers dros 20 mlynedd, ac mae'n byw gyda'i
wraig a'u dwy ferch.
Astudiodd Nick
radd arolygu alwedigaethol yng Ngholeg Polytechnig Lerpwl, ac yn ddiweddarach
dysgodd Gymraeg fel oedolyn.
Cymhwysodd fel
Syrfëwr Siartredig ym 1994 a gweithiodd fel ymgynghorydd eiddo masnachol yn
Llundain ac yna ym Mryste, cyn symud i Gaerdydd yn 2002.
Yn 2006,
cydsefydlodd Calan Retail, sef cwmni o ymgynghorwyr eiddo sy'n arbenigo ar
safleoedd manwerthu yng nghanol trefi, sydd wedi bod yn canolbwyntio’n fwy
diweddar ar gefnogi busnesau annibynnol i lywio'r system eiddo yn hyderus.
Yn 2021 cwblhaodd
radd Feistr ran-amser ym maes Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol
Caerdydd. Ymgeisiodd Nick dros Blaid Cymru yn etholiadau Cyngor Caerdydd yn
2017 a 2022, ac ar 7 Mai 2026 cafodd ei ethol yn Aelod o'r Senedd dros Gaerdydd
Ffynnon Taf. Mae’n aelod o Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a
Chwaraeon.
Mae Nick yn
canolbwyntio ar gefnogi etholwyr drwy wrando ac ymgysylltu â chymunedau ledled
Caerdydd Ffynnon Taf, yn enwedig y rhai y mae tlodi’n effeithio arnynt. Mae ei
flaenoriaethau eraill yn cynnwys cefnogi addysg a chyfleoedd i bobl ifanc, mynd
i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a chefnogi'r economi leol a busnesau
annibynnol.
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Nick yn
rhedwr brwd ac yn dilyn tîm pêl-droed Cymru gartref ac oddi cartref. Mae ganddo
gryn ddiddordeb mewn cerddoriaeth fyw, comedi a lleoliadau adloniant ar lawr
gwlad.