Pobl y Senedd

Steven Rodaway AS

Steven Rodaway AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Reform UK

Grŵp Reform UK Wales

Gŵyr Abertawe

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Steven Rodaway AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Yn gwasanaethu'n falch fel Aelod o'r Senedd dros Gŵyr Abertawe, yn cynrychioli Reform UK.

Gwasanaethodd ym Myddin Prydain cyn adeiladu gyrfa lwyddiannus mewn rolau arweinyddiaeth uwch yn rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd.

Arweiniodd dimau mawr, rheoli gweithrediadau cymhleth, a goruchwylio cyllidebau sylweddol mewn amgylcheddau rhyngwladol heriol.

Mae wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus, ymgysylltu â'r gymuned, a chynrychioli buddiannau etholwyr lleol.

Hanes personol

Cefais fy ngeni a'm magu yng Ngŵyr ac rwy'n falch o alw'r rhan hon o Gymru yn gartref imi. Fel tad a Chymro, rydw i bob amser wedi credu mewn gwasanaethu eraill a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gymdeithas. Rwy'n parhau i fod â chysylltiad agos â'r gwerthoedd, y bobl a'r cymunedau a'm lluniodd.

Cefndir proffesiynol

Yn dilyn fy ngwasanaeth ym Myddin Prydain, dilynais yrfa mewn uwch-arweinyddiaeth a rheolaeth weithredol, gan weithio ar draws rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd. Aeth y rôl hon â mi o gwmpas y byd, lle cefais brofiad helaeth o arwain timau amrywiol, rheoli gweithrediadau ar raddfa fawr, a chyflawni canlyniadau llwyddiannus mewn amgylcheddau cymhleth dan bwysau uchel.

Hanes gwleidyddol

Ar hyn o bryd rwy’n gwasanaethu fel Aelod o'r Senedd dros Gŵyr Abertawe, yn cynrychioli Reform UK. Yn y rôl hon, rwy'n ymroddedig i wrando ar etholwyr, sefyll dros eu buddiannau, a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Fy ffocws yw darparu atebion ymarferol a chynrychiolaeth effeithiol i'r bobl a'r cymunedau rwy'n eu gwasanaethu.

Gwerthoedd a Gweledigaeth

Rwy'n credu mewn cyfrifoldeb personol, teuluoedd cryf, cymunedau ffyniannus, a llywodraeth sy'n gwasanaethu'r bobl yn hytrach na'r sefydliad gwleidyddol. Fy ngweledigaeth yw Cymru gryfach a mwy llewyrchus, wedi'i gwreiddio yn egwyddorion parhaol teulu, cymuned a gwlad.

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Digwyddiadau calendr: Steven Rodaway AS