Pobl y Senedd

Mair Rowlands AS

Mair Rowlands AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Bangor Conwy Môn

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mair Rowlands AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Mair wedi dangos ymrwymiad cryf i rymuso pobl ifanc a chymunedau, a hyrwyddo cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg a chynaliadwyedd. Mae ei gwaith arweinyddiaeth yn ymestyn dros addysg uwch, y sector gwirfoddol a llywodraeth leol, ynghyd â chyfraniad gwerthfawr ar fyrddau cymunedol ac elusennol.

Hanes personol

Cafodd Mair Rowlands ei geni a’i magu yng Nghaerdydd cyn symud i ogledd Cymru i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n byw ym Mangor gyda’i phartner a’i phlentyn ifanc, ac mae ganddi angerdd dros gefnogi teuluoedd a chryfhau cymunedau ar draws Bangor, Conwy a Môn.

Cefndir proffesiynol

Mae gan Mair dros ddegawd o brofiad arwain ar draws addysg uwch, y sector gwirfoddol a llywodraeth leol. Cyn ei hetol yn Aelod Senedd roedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, ac yn flaenorol bu’n gweithio ym maes cynaliadwyedd yn y Brifysgol.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Mair ei hethol gyntaf fel cynghorydd Plaid Cymru yn 2012 yn 23 oed. Yn ddiweddarach bu’n Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Hamdden cyn dod yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd yn 28 oed.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Digwyddiadau calendr: Mair Rowlands AS