Mynd i gyfarfod Pwyllgor

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/09/2023   |   Amser darllen munudau

Mae croeso i chi eistedd yn yr oriel gyhoeddus i wylio cyfarfod Pwyllgor. 

Ar ddyddiau busnes, cynhelir cyfarfodydd pwyllgor ar foreau Llun, boreau Mawrth a boreau Mercher, trwy’r dydd ar ddydd Iau ac weithiau ar ddydd Gwener. Cynhelir cyfarfodydd pwyllgor yn y Senedd ym Mae Caerdydd neu mewn lleoliadau eraill ledled Gymru. Mae nifer o wahanol bwyllgorau sy’n ymdrin ag ystod o bynciau. Mae manylion am ddyddiadau, lleoliadau, agendâu, papurau a chofnodion i’w gweld ar wefan y Pwyllgorau.

Os ydych am ddod i gyfarfod Pwyllgor, gallwch archebu sedd tair wythnos ymlaen llaw. Mae 30 sedd ar gael yn oriel gyhoeddus pob ystafell bwyllgora yn y Senedd fel arfer, a lle ar gyfer cadeiriau olwyn hefyd. Rydym yn cynghori pobl i archebu eu seddau ymlaen llaw i osgoi cael eu siomi, ond nid oes rhaid archebu bob amser oherwydd mae’n bosibl y bydd seddau ar gael ar y diwrnod – gofynnwch i’r staff wrth y ddesg wybodaeth. Noder: weithiau bydd cyfarfodydd Pwyllgorau yn cael eu cynnal yn breifat.

Oherwydd y galw mawr posibl am seddau ar gyfer rhai Pwyllgorau, cyfyngir archebion ar gyfer grwpiau i 10, a hynny er mwyn gwella cyfleoedd y cyhoedd o ran mynediad. Cedwir y seddau am 15 munud ar ôl i’r cyfarfod ddechrau; yna cânt eu rhyddhau i bobl sydd ar y rhestr wrth gefn. Os ydych yn gwybod y byddwch yn cyrraedd yn hwyr, rhowch wybod wrth archebu’ch seddau fel y gellir cadw’r seddau nes i chi gyrraedd.

Bydd gwefan y Pwyllgorau yn dangos i chi ba beth sy’n cael ei drafod mewn cyfarfodydd Pwyllgorau. Hefyd, bydd copïau o’r agendâu ar gael wrth y ddesg wybodaeth. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Archebu seddau

Gellir archebu seddau i’r cyhoedd hyd at wythnos ymlaen llawn; peth doeth yw archebu ymlaen llaw i sicrhau y cewch sedd: I archebu sedd:

Ymddygiad mewn cyfarfodydd

Mae’n rhaid diffodd sain pob dyfais electronig, fel ffonau symudol, gliniaduron a galwyr.

Mae’n bosibl y cewch eich gwahardd o drafodion y Senedd os byddwch yn ymddwyn mewn modd afreolus neu aflonyddgar neu, fel arall, os byddwch yn tarfu ar allu’r Senedd i gynnal ei fusnes mewn modd priodol.

Ni ddylai pobl sy’n ymweld â’r Senedd:

  • fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau;
  • sarhau ymwelwyr eraill;
  • siarad yn uchel neu darfu ar y cyfarfod;
  • dod a bwyd neu ddiod I mewn I’r cyfarfod;
  • ffilmio neu dynnu lluniau y cyfarfod;
  • defnyddio e-sigaréts yn ystod y cyfarfod.