Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol
Sefydlwyd Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol drwy gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mehefin 2026.
Rydym yn derbyn nifer sylweddol o negeseuon e-bost. Mae pob cais a gwahoddiad yn cael ei ystyried ond nid ydym yn gallu ymateb yn uniongyrchol i bawb. Noder nad yw'r Pwyllgor yn gallu ystyried achosion unigol na chwynion penodol.
Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf
Cylch Gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 16 Mehefin 2026 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion o ran ei gwariant, ei gweinyddiaeth a’i pholisi, gan gwmpasu’r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol, gwaith teg, cydlyniant cymunedol a diogelwch, mynd i’r afael â thlodi, a chyfiawnder cymdeithasol. At hynny, caiff y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol.