Sefydlwyd Y Pwyllgor Cyllid drwy gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mehefin 2026.
Y Pwyllgor Cyllid
Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf
Cylch Gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 16 Mehefin 2026 i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, a 19 y Senedd. O dan Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru. O dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru. Gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.