Sefydlwyd Y Pwyllgor Deddfwriaeth drwy gynnig yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mehefin 2026.
Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf
Deddfwriaeth Sylfaenol
Biliau a gyflwynir yn y Senedd
Gall Senedd Cymru basio Deddfau ar unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).
Cydsyniad Deddfwriaethol
Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisoes wedi'i ddatganoli i Senedd Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol na fydd yn gwneud hynny fel arfer heb gael cydsyniad Senedd Cymru. Bydd y Senedd yn rhoi'r cydsyniad hwn drwy gyfrwng Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae'r Senedd yn ystyried Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol drwy graffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.
Ceir adroddiadau ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o dan ‘Adroddiadau cyhoeddedig’ isod.
Is-ddeddfwriaeth
Yng Nghymru, Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt mewn deddfau galluogi fel Deddfau gan Senedd Cymru, Mesurau'r Cynulliad a Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth ddirprwyedig hefyd, am fod y ddeddf alluogi yn dirprwyo'r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth eilaidd hefydd.
Cylch Gwaith
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 16 Mehefin 2026 i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol fel y’u nodir yn Rheol Sefydlog 21 a Rheol Sefydlog 26C, ac ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â deddfwriaeth, o fewn cymhwysedd neu’n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.