Pobl y Senedd

Huw Thomas AS

Huw Thomas AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Caerdydd Penarth

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Huw Thomas AS

Bywgraffiad

Etholwyd Huw i'r Senedd ym mis Mai 2026 fel aelod Llafur Cymru dros Gaerdydd Penarth. Yn dilyn hynny, cafodd ei wneud yn llefarydd Llafur dros Gyllid, Democratiaeth, Dinasyddiaeth a'r Gymraeg.

Ganwyd a magwyd Huw yn Aberystwyth i deulu Cymraeg ei iaith, lle y meithrinwyd ymrwymiad cryf i wasanaeth cyhoeddus o oedran cynnar, gan ei rieni a oedd yn athrawon. Mae ganddo radd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Rhydychen a gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Aberystwyth.

Cyn symud i faes gwleidyddiaeth amser llawn, adeiladodd Huw yrfa ym maes rheoli prosiectau, gan weithio yn y sectorau awyrofod a thrafnidiaeth gynaliadwy. Yn ddiweddarach gwasanaethodd fel Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, gan arwain gwaith y sefydliad ledled y wlad.

Etholwyd Huw yn Gynghorydd dros Sblot yng Nghaerdydd yn 2012 a gwasanaethodd fel Arweinydd Cyngor Caerdydd rhwng 2017 a 2026. O dan ei arweinyddiaeth, cododd Cyngor Caerdydd fwy na 1,500 o dai cyngor newydd, ehangwyd y rhaglen fwyaf ers cenedlaethau o adeiladu ysgolion, amddiffynnwyd gyllid addysg a gwasanaethau cymdeithasol, a helpwyd i sefydlu Caerdydd fel dinas flaenllaw o ran y Cyflog Byw Go Iawn. Gweithredodd ei weinyddiaeth raglenni datblygu economaidd uchelgeisiol gan gynnwys cwblhau'r Sgwâr Canolog, dechrau’r gwaith ar Arena Dan Do newydd â chapasiti o 16,500, a chreu a dylunio rhwydwaith Cledrau Croesi Caerdydd. Yn ystod ei gyfnod yn y Cyngor cymerwyd camau sylweddol hefyd i fynd i'r afael â newid hinsawdd, a chyhoeddwyd Argyfwng Hinsawdd yn 2019, adeiladwyd fferm solar newydd yn Lamby Way, gosodwyd rhwydwaith gwresogi ardal cyntaf y ddinas, gwnaed welliannau parhaus mewn cyfraddau ailgylchu, a phlannwyd dros 150,000 o goed ledled y ddinas.

Fel Arweinydd y Cyngor, bu Huw yn arwain yr awdurdod drwy heriau sylweddol, gan gynnwys pandemig COVID-19, yr argyfwng costau byw a phwysau parhaus ar gyllid llywodraeth leol. Gweithiodd yn agos gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru, undebau llafur a phartneriaid cymunedol i ddarparu gwasanaethau a chefnogi trigolion ledled y brifddinas.

Mae Huw yn byw yn yr etholaeth gyda'i wraig a'u dau o blant. Mae'n angerddol dros fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, cryfhau gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod gan bawb, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau, y cyfle i ffynnu.

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Digwyddiadau calendr: Huw Thomas AS