Mae gan Tom swyddfa hefyd yn:
80 High Street,
Gorseinon
SA4 4BL
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae gan Tom
ddiddordeb brwd ym myd addysg ac mae ei gefndir yn y maes hwn, ar ôl gweithio
fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol gynradd Gymraeg. At hynny, bu’n
gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,
gan oruchwylio, a chynnal gwaith craffu ar gyllideb addysg y Cyngor, sy’n
gyllideb gwerth miliynau o bunnoedd. Mae gan Tom ddiddordeb mawr hefyd yn
strwythurau a datblygiad llywodraeth leol, gan y bu’n Arweinydd Grŵp Cyngor ym Mhen-y-bont ar Ogwr am 4
blynedd.
Hanes personol
Magwyd Tom ym
Mhenllergaer, Abertawe a Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, gan fod ei rieni wedi
gwahanu. Graddiodd Tom o Brifysgol Abertawe gyda BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth
yn 2013, a parhaodd i fyw yn Abertawe am nifer o flynyddoedd cyn symud i
Ben-y-bont ar Ogwr yn 2016, lle mae'n byw gyda'i ddyweddi, Sadie.
Cefndir
proffesiynol
Mae Tom – sy'n
siaradwr Cymraeg ail iaith – wedi cael amrywiaeth o rolau yn ystod ei fywyd
proffesiynol. I ddechrau, daeth yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn ysgol
gynradd Gymraeg. Aeth yn ei flaen wedyn i gwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol
Abertawe. Ar ôl graddio, aeth i weithio fel Swyddog Cyswllt Cymunedol yn ei
ranbarth, sef Gorllewin De Cymru, cyn trefnu ymgyrchoedd a gweithio gyda
gwirfoddolwyr yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Cyn ei ethol yn Aelod o’r
Senedd dros Orllewin De Cymru, roedd Tom yn Rheolwr Swyddfa Aelod Seneddol
Pen-y-bont ar Ogwr.
Hanes
gwleidyddol
Cyn cael ei ethol
i'r Senedd yn 2021, etholwyd Tom i ward Brackla fel un o Gynghorwyr Bwrdeistref
Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 2017, lle mae'n arwain y Grŵp Ceidwadol ar y Cyngor.
Asedau’r Cyfryngau