Cytunodd y Senedd ar God Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau o'r Senedd newydd a chanllawiau cysylltiedig, a ddaeth i rym ar ddechrau'r Chweched Senedd, ar 24 Mawrth 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y Cod newydd mewn erthygl newyddion, ac adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Pwrpas hanfodol y Cod Ymddygiad hwn yw cynnal enw da’r Senedd a'r ethos agored ac atebol sy'n angenrheidiol i atgyfnerthu hyder y cyhoedd yng ngonestrwydd Aelodau o'r Senedd yn y ffordd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau cyhoeddus pwysig.
Mae'r Cod hwn yn berthnasol i holl Aelodau o'r Senedd. Rhaid i Aelodau gydymffurfio ag ef. Mae rheolau pellach ar gynnal busnes y Senedd, gan gynnwys y Rheolau Sefydlog a chanllawiau'r Llywydd, i'w gweld yma.
Mae'r Senedd wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion. Os oes gennych unrhyw bryderon am ymddygiad Aelod neu os ydych am wneud cwyn, cysylltwch â’r Comisiynydd Safonau. Os oes gennych unrhyw bryderon sy'n gysylltiedig â Chomisiwn y Senedd neu os ydych am wneud cwyn, ymwelwch â'n tudalen Cwynion.