Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill

Cyhoeddwyd 05/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/05/2026   |   Amser darllen munudau

  • Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2026
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno
  • Ffeiliau PDF

 

Mae'r dudalen hon yn rhan o gyfres sy'n cynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd a'r holl Reolau a Chanllawiau Cysylltiedig.

Ymweld y gyfres lawn

 

 

Mae'r Canllawiau yn cynnwys y naw adran ganlynol a dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd:

 

1. Cyflwyniad

1. Diben y canllawiau hyn yw cynorthwyo Aelodau o’r Senedd i gyflawni eu dyletswyddau a’u rhwymedigaethau mewn perthynas â chofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill, fel y nodir o dan Adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (‘Deddf 2006’) a Rheolau Sefydlog Senedd Cymru (y Rheolau Sefydlog). Maent hefyd yn cynnwys manylion am fuddiannau y mae'n rhaid i Aelodau eu hadrodd ar wahân i’r Comisiwn Etholiadol.

2. Nid yw’r canllawiau hyn, fodd bynnag, yn disodli Deddf 2006 na’r Rheolau Sefydlog, y mae’n rhaid i’r Aelodau gydymffurfio â hwy wrth gofrestru eu buddiannau a'u haelodaeth yn y lle cyntaf, ac wrth eu hadolygu wedyn, a'u datgan a'u cofnodi. Sylwer hefyd na all unrhyw ganllawiau ysgrifenedig ddarparu ar gyfer pob amgylchiad, ac na ddylid ystyried yr enghreifftiau yn y canllawiau hyn yn rhestr gynhwysfawr.

3. Nid yw’r canllawiau hyn yn cynnwys y rheolau ynghylch rhan Aelodau mewn lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth. Mae'r rhain ar gael ar wahân yn y Canllawiau ar Lobïo a Mynediad at Aelodau o’r Senedd.

4. Mae cyfeiriadau yn y canllawiau hyn at drafodion y Senedd yn golygu unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.

5. Caiff Comisiynydd Safonau’r Senedd roi sylw i’r Canllawiau hyn wrth ystyried unrhyw gwyn.

6. Cytunodd y Senedd ar y canllawiau hyn drwy benderfyniad ar 18 Mawrth 2026 gan gynnwys yr holl drothwyon a gwerthoedd perthnasol y mae'n rhaid cytuno arnynt drwy benderfyniad y Senedd o dan Reol Sefydlog 2 a’i Atodiad.

 

2. Y Cefndir a'r Fframwaith Statudol

7. Mae adran 36 o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Rheolau Sefydlog gynnwys darpariaeth ar gyfer Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau a bod y gofrestr honno i'w chyhoeddi ac ar gael i'r cyhoedd. Mae Deddf 2006 hefyd yn pennu categorïau penodol o fuddiant y mae'n rhaid ymdrin â hwy yn unol â’r Rheolau Sefydlog. Hefyd, mae Deddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddatgan buddiannau ariannol a buddiannau eraill ar lafar (rhaid nodi hynny yn y Rheolau Sefydlog) cyn cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd sy'n ymwneud â'r mater hwnnw. Ar hyn o bryd mae'r darpariaethau hyn wedi'u nodi yn Rheol Sefydlog 2, yr Atodiad i Reol Sefydlog 2, a Rheolau Sefydlog 13.8A, 15.6 ac 17.24A. Y prif elfennau yw:

  • 2.1 – cofrestru buddiannau mewn cofrestr sy'n agored i'w harchwilio gan y cyhoedd;
  • 2.6 – datganiad o fuddiannau cofrestradwy cyn i Aelod gymryd rhan yn nhrafodion y Senedd lle bo'r penderfyniad yn debygol o arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod, sy'n fwy na'r fantais a ddaw i ran yr etholwyr yn gyffredinol;
  • 13.8A ac 17.24A – datgan buddiannau perthnasol ar yr adeg briodol yn ystod unrhyw rai o drafodion y Senedd.
  • 15.6 – datganiad o fuddiannau perthnasol wrth gyflwyno busnes.

8. Trafodir y darpariaethau hyn yn fanwl ym Mhennod 5.

9. Yn ychwanegol at y gofynion a nodir o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi buddiannau penodol eraill yn unol â Rheolau Sefydlog 3, 4, a 5. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 8 o'r canllawiau hyn.

10. Yn unol â Rheol Sefydlog 22.2, pwyllgor cyfrifol (Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ar hyn o bryd) sy’n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o lunio a chynnal y Gofrestr a'r canllawiau perthnasol, a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd. Mae rhagor o wybodaeth am rôl y Pwyllgor Cyfrifol yn Adran 3.2.

11. Yn ogystal â’r dyletswyddau a nodir yn Neddf 2006 ac yn Rheolau Sefydlog y Senedd, mae gan Aelodau rwymedigaethau statudol hefyd i wirio, cofnodi ac adrodd rhai buddiannau'n uniongyrchol i'r Comisiwn Etholiadol, fel y nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (‘PPERA 2000’) ac, os ydynt yn ymgeiswyr unigol[1], i roi gwybod am roddion tuag at eu gwariant ymgyrch etholiadol o dan Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (‘Gorchymyn 2025’). Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn wedi’i nodi ym Mhennod 6.

[1] “Ymgeisydd unigol” yw ymgeisydd mewn etholiad Senedd heblaw ymgeisydd rhestr plaid.

 

3. Methiant i gydymffurfio, a'r drefn gwyno

12. Aelodau unigol o’r Senedd sy'n gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â gofynion Rheolau Sefydlog 2 i 5, ond gallant ofyn cyngor y Llywydd, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, neu Gofrestrydd Buddiannau'r Aelodau (drwy Swyddfa Gyflwyno’r Senedd).

3.1. Beth fydd yn digwydd os na chydymffurfir â'r rheolau?

13. Mae Adran 36(7) o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn drosedd i Aelod gymryd rhan mewn unrhyw drafodion heb fod wedi cydymffurfio â'r gofynion yn Rheol Sefydlog 2.

14. Mae Aelod sy'n euog o drosedd o'r fath yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol. Ni all erlyniad ar sail peidio â chydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog gael ei gychwyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ei hun, neu gyda'i ganiatâd.

15. Mae protocol ar gyfer ymdrin â chwynion am weithredu'n groes i adran 36(7) o'r Ddeddf wedi'i gytuno rhwng Comisiwn y Senedd, Comisiynydd Safonau’r Senedd a’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus. Mae’r protocol yn rhan o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd a Dogfennau Cysylltiedig.

3.2. Rôl y ‘pwyllgor cyfrifol’

16. Mae Rheol Sefydlog 22 yn nodi rôl y Pwyllgor Cyfrifol (Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ar hyn o bryd) mewn perthynas â'r materion yr ymdrinnir â hwy yn y canllawiau hyn. Ei brif rôl yw ymchwilio i unrhyw gŵyn a gaiff ei chyfeirio ato gan y Comisiynydd Safonau, llunio adroddiad ar y gŵyn ac, os yw hynny'n briodol, argymell camau gweithredu. Os cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifol ynghylch methiant i gydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, neu unrhyw benderfyniad gan y Senedd sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill yr Aelodau, caiff y Senedd benderfynu gwahardd Aelod am gyfnod penodol, tynnu hawliau a breintiau oddi arnynt, neu eu ceryddu.

17. Yn ystod y cyfnod tra bo'r Aelod wedi ei wahardd nid oes hawl gan yr Aelod i dderbyn unrhyw gyflog gan y Senedd ac nid oes hawl iddo fod yn bresennol yn y Senedd nac yn unrhyw un o'i bwyllgorau neu is-bwyllgorau. O dan Reol Sefydlog 22.10(ii), caiff y Pwyllgor Cyfrifol ddewis tynnu'n ôl unrhyw hawliau neu freintiau eraill sy'n gysylltiedig â bod yn Aelod o’r Senedd, fel y nodir yn y gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion a sefydlwyd o dan Reol Sefydlog 22.2(iv). Mae'r sancsiynau uchod yn ychwanegol at y posibilrwydd o erlyniad o dan adran 36(7) o Ddeddf 2006.

3.3. Y weithdrefn gwyno

18. Y Comisiynydd Safonau annibynnol sy’n gyfrifol am ystyried cwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd. Mae rhagor o wybodaeth am y weithdrefn gwyno ar gael ar wefan y Comisiynydd Safonau.

19. Dylai’r Aelodau fod yn ymwybodol bod Adran 9 o Fesur Comisiynydd Safonau 2009 hefyd yn gosod dyletswydd ar Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd i gyfeirio mater at y Comisiynydd, os oes gan y Clerc sail resymol dros amau:

  • Bod ymddygiad Aelod o’r Senedd, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn darpariaeth berthnasol, a
  • Bod yr ymddygiad dan sylw yn berthnasol i swyddogaethau'r Clerc o dan adran 138 o Ddeddf 2006 (y Clerc i fod yn brif swyddog cyfrifyddu y Comisiwn).

 

4. Cofrestr buddiannau'r Aelodau: Gwybodaeth gyffredinol

4.1. Pwrpas y Gofrestr o Fuddiannau'r Aelodau

20. Pwrpas y Gofrestr o Fuddiannau'r Aelodau (‘y gofrestr’) yw rhoi gwybod ar sail barhaus i Aelodau o’r Senedd a'r cyhoedd am y buddiannau ariannol hynny a buddiannau eraill y gellid tybio'n rhesymol eu bod yn dylanwadu ar ymddygiad neu weithredoedd yr Aelodau yn y Senedd.

21. Nid darpariaethau dewisol na gwirfoddol yw’r rhain. Fel y sonnir ym Mhennod 3, mae cymryd rhan mewn trafodion, heb gofrestru'r buddiannau a bennir ym mharagraff 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2, yn drosedd o dan Adran 36(7)(a) o Ddeddf 2006.

4.2 Sut y mae cofrestru buddiant?

22. Gall Aelodau gofrestru buddiant drwy gwblhau Ffurflen Gofrestru a Chofnodi Buddiant, sydd ar gael ar fewnrwyd yr Aelodau.

4.3. Pryd ddylech lenwi ffurflen?

23. O dan Reolau Sefydlog 2.3, 3.4 a 5.5, mae'n rhaid i'r Aelodau lenwi Ffurflen Gofrestru a Chofnodi Buddiant, ei llofnodi a'i chyflwyno o fewn wyth wythnos i dyngu'r llw neu roi'r cadarnhad.

24. Cyfrifoldeb yr Aelodau wedyn yw rhoi gwybod am newidiadau yn eu buddiannau cofrestradwy a chofnodadwy o fewn pedair wythnos ar ôl pob newid. Mae'n rhaid i Aelodau ddarparu'r dyddiad y digwyddodd y newid wrth roi gwybod am y newid. Oherwydd hyn, cynghorir yr Aelodau i adolygu eu cofrestr buddiannau yn rheolaidd.

25. Gallai methu â chydymffurfio â'r amserlenni hyn mewn perthynas â'r gofynion o dan Reol Sefydlog 2, fod yn drosedd o dan Adran 36 o Ddeddf 2006.

4.4. Sut y dylai eich ffurflen gael ei llenwi?

26. Caiff y ffurflen ei llenwi ar-lein ar fewnrwyd yr Aelodau, a'i chyflwyno'n electronig. Gellir cwblhau'r ffurflen gofrestru gychwynnol ar gopi caled hefyd.

27. Mae’r ffurflen wedi'i dylunio fel y gellir ei llenwi naill ai gan yr Aelod ei hun, neu gan aelod o staff cymorth. Os caiff y ffurflen ei llenwi gan aelod o staff, mae’n rhaid iddi gael ei hawdurdodi neu ei llofnodi gan yr Aelod cyn ei chyflwyno i'r Swyddfa Gyflwyno.

4.5. Beth fydd yn digwydd i’r ffurflen?

28. Ar ôl i’r ffurflen ddod i law, bydd ei manylion yn cael eu cyhoeddi ar y gofrestr ar-lein cyn gynted â phosibl a bydd copi o'r ffurflen a gyflwynwyd yn cael ei chadw gan y Swyddfa Gyflwyno.

29. Mae cynnwys y gofrestr ar gael i'w cyhoedd ei weld ar wefan y Senedd. Cyhoeddir fersiwn ar-lein wedi'i diweddaru o gofrestr Aelod ar wefan y Senedd cyn gynted â phosibl ar ôl i gofnod cofrestr ddod i law, a chyhoeddir cofrestr wedi'i llunio unwaith y tymor. Gellir sicrhau bod copïau o'r ffurflenni a gyflwynir gan yr Aelodau ar gael drwy'r Swyddfa Gyflwyno ar gais.

30. Mae’r gofrestr ar-lein hefyd yn cynnwys manylion am gyflogaeth aelodau o'r teulu (Rheol Sefydlog 3), yr amser a dreulia’r aelod ar ‘weithgarwch cofrestradwy’ (Rheol Sefydlog 4), aelodaeth o gymdeithasau (Rheol Sefydlog 5), ac unrhyw fuddiannau eraill Aelodau sydd wedi’u cofnodi’n wirfoddol (Rheol Sefydlog 5A).

4.6. Pwy all eich helpu?

31. Mae’r Swyddfa Gyflwyno ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gan Aelodau mewn perthynas â’r rheolau hyn. Fodd bynnag, yr Aelodau eu hunain yn unig sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r gofynion o ran cofrestru a chofnodi buddiannau. Dylai'r Aelodau nodi hefyd na all y canllawiau hyn nac unrhyw gyngor a roddir yn ddiweddarach fod yn ddehongliad pendant o ofynion Deddf 2006 a'r Rheolau Sefydlog, oherwydd y llysoedd sy’n gyfrifol am y dehongliad cyfreithiol terfynol.

32. Gweler isod fanylion cyswllt y Swyddfa Gyflwyno:

Y Swyddfa Gyflwyno
Llawr Cyntaf, Tŷ Hywel,
Senedd Cymru,
Bae Caerdydd
CF99 1SN

E-bost: swyddfagyflwyno@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6170

5. Beth ddylai gael ei gofrestru?

33. Yn unol â’r Atodiad i Reol Sefydlog 2 rhaid i Aelodau o’r Senedd gofrestru eu buddiannau yn y categorïau canlynol (sef ‘buddiannau cofrestradwy’).

34. Cyn ystyried y manylion, dylai'r Aelodau nodi'r ddau ofyniad cyffredinol yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2:

  • Rhaid i unrhyw weithgarwch y ceir tâl amdano ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a chynghori ac ymgynghori gwleidyddol mewn perthynas â swyddogaethau’r Senedd, gael ei gynnwys yng nghategori 1.
  • Mae mwyafrif y buddiannau a bennir yn y categorïau isod yn cynnwys cyfeiriad at fuddiannau y meddir arnynt yn annibynnol gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod neu a roddir iddynt, a rhaid cofrestru’r rhain hefyd os yw'r buddiannau hynny yn hysbys i'r Aelod.

35. Yn ogystal â'r gofynion statudol i gofrestru buddiannau o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi buddiannau mewn perthynas â Rheol Sefydlog 3 (Cofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn), Rheol Sefydlog 4 (Cofnodi'r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy), a Rheol Sefydlog 5 (Cofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau). Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn ym Mhennod 8.

36. Mae diffiniadau o ‘bartner’ a ‘phlant dibynnol’ fel y’u nodir ym mharagraff 4 o’r Atodiad i Reol Sefydlog 2 wedi'u cynnwys yn yr Eirfa ar ddiwedd y canllawiau hyn.

5.1. Categori 1: Cyflogaeth, Swyddi Cyfarwyddwr ac ati â thâl

Swyddi cyfarwyddwyr, cyflogaeth, swydd, masnach, proffesiwn neu alwedigaeth (ac eithrio, yn achos yr Aelod, aelodaeth o’r Senedd) y mae’r Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae partner yr Aelod yn cael tâl amdanynt, neu y mae gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i blentyn yr Aelod unrhyw fuddiant ariannol ynddynt, gan gynnwys:

  • yn achos yr Aelod yn unig, swm y tâl a dderbyniwyd, neu y disgwylir ei dderbyn, am bob gweithgaredd cofrestradwy;
  • enwau cleientiaid lle mae'r buddiant yn cynnwys gwasanaethau sy'n deillio o aelodaeth o'r Senedd, neu sy'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â hynny; ac
  • a yw'r buddiant yn cynnwys unrhyw gwmni cyhoeddus neu breifat neu gorff arall sydd wedi tendro am, yn tendro am, neu sydd â chontract gyda'r Comisiwn neu Lywodraeth Cymru.

37. Rhaid cofrestru manylion pob cyflogaeth y tu allan i'r Senedd ac unrhyw ffynonellau tâl yn y categori hwn. Cynghorir Aelodau i gynnwys fel ‘tâl’ nid yn unig gyflogau a ffioedd, ond hefyd unrhyw dreuliau, lwfansau a buddion trethadwy a dderbynnir, megis car cwmni.

38. Mae buddiannau sydd wedi'u cofrestru o dan Gategori 1 yn ‘weithgareddau cofrestradwy’ at ddibenion Rheol Sefydlog 4. Felly, rhaid i'r Aelodau ddatgan y buddiannau hyn hefyd o dan Reol Sefydlog 4 mewn perthynas â’r buddiannau hyn. Rhaid i’r hysbysiad sy’n ymwneud â chofnodi’r amser a dreulir ar fuddiannau cofrestradwy gael ei wneud ar yr un pryd â chofrestriad o dan Gategori 1. Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion yn Rheol Sefydlog 4 ym Mhennod 8 o'r canllawiau hyn.

Swyddi Cyfarwyddwyr

39. Dylai Aelod ddatgan enw'r cwmni y mae'n dal swydd cyfarwyddwr ynddo a rhoi disgrifiad bras o fusnes y cwmni, lle nad yw hynny'n amlwg o'i enw.

40. Yn ychwanegol at unrhyw swyddi cyfarwyddwyr am dâl, mae gofyn hefyd i Aelodau gofrestru unrhyw swyddi cyfarwyddwyr y maent yn eu dal ac sydd eu hunain heb dâl ond lle mae'r cwmnïau dan sylw yn gysylltiedig â, neu'n is-gwmnïau o, gwmni y mae gan yr Aelod swydd cyfarwyddwr am dâl ynddo.

Cyflogaeth, Swydd, Proffesiwn ac ati am Dâl

41. Dylai Aelodau ddatgan y cyflogwr neu'r cwmni, natur y busnes, a nodi natur y swydd y maen nhw neu eu partner yn ei dal yn y cwmni neu'r gwasanaethau y mae'r cwmni yn talu iddynt amdanynt. Dylai Aelodau sydd â swyddi â thâl fel ymgynghorwyr neu gynghorwyr nodi natur yr ymgynghoriaeth, er enghraifft “ymgynghorydd rheoli”, “cynghorydd cyfreithiol”, “ymgynghorydd seneddol a materion cyhoeddus”.

42. Os yw'r Aelod, neu bartner yr Aelod, yn cael arian cyhoeddus yna dylid nodi hynny hefyd, ynghyd â ffynhonnell yr arian hwnnw (e.e. grantiau ffermio neu gelfyddydau ac ati). Nid yw ‘arian cyhoeddus’, at ddibenion y categori hwn, yn cynnwys cyflogau yn y sector cyhoeddus, ac felly nid oes angen i Aelodau ddatgan hefyd bod person a gyflogir yn y sector cyhoeddus (e.e. athrawon, nyrsys ac ati) yn derbyn arian cyhoeddus. Fodd bynnag, dylid cynnwys unrhyw arian cyhoeddus a dderbyniwyd gan y rhai a gyflogir mewn proffesiynau o'r fath, ac eithrio cyflog (e.e. drwy waith ar gontract ychwanegol).

43. Rhaid i unrhyw weithgarwch y ceir tâl amdano ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a chynghori ac ymgynghori gwleidyddol mewn perthynas â swyddogaethau’r Senedd, gael ei gofrestru. Mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgaredd am dâl sy'n gysylltiedig ag unrhyw drafodion yn y Senedd, pwyllgor neu is-bwyllgor, noddi digwyddiadau yn adeiladau'r Senedd a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru neu unrhyw rai o'i aelodau. Rhaid i Aelodau o’r Senedd sicrhau nad yw gweithgaredd o'r fath â thâl yn torri'r gwaharddiad ar lobïo am dâl neu gydnabyddiaeth (mae rhagor o wybodaeth am reolau'r Senedd mewn perthynas â lobïo ar gael yn y Canllawiau ar Lobïo a Mynediad at Aelodau o'r Senedd).

44. Mae angen cofrestru hefyd fanylion trefniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau am dâl yng nghapasiti’r Aelod fel Aelod o’r Senedd.

Swm y Tâl a Gafwyd

45. Ar gyfer unrhyw fuddiant a gofrestrir o dan y categori hwn mewn perthynas â'r Aelod ei hun, rhaid i'r Aelodau gofrestru swm unrhyw dâl a gafwyd.

46. Nid oes rhaid i Aelodau gofrestru’r canlynol o dan y categori hwn:

  • Enillion a dderbynnir fel Aelod neu ddeiliad swydd ychwanegol yn y Senedd;
  • Enillion partner neu blant dibynnol yr Aelod;
  • Incwm a dderbynnir drwy ddifidendau;
  • Pensiynau (gall Aelodau sy'n pryderu am dryloywder ddatgan buddiannau sy'n ymwneud ag incwm pensiwn o dan Reol Sefydlog 13.8A a 17.24A, lle gall Aelod ddatgan ar lafar unrhyw fuddiant perthnasol sydd gan yr Aelod neu aelod o'r teulu, neu fuddiant y mae’r Aelod neu aelod o’r teulu yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hyn).

47. Ar gyfer unrhyw fuddiant a gofrestrwyd o dan y categori hwn mewn perthynas â'r Aelod ei hun, mae'n ofynnol i Aelodau gofrestru swm y tâl a gafwyd mewn perthynas â phob cofnod gan gyfeirio naill ai at y swm a gafwyd, neu'r swm y disgwylir ei gael. Gellir cofrestru tâl fel un sy'n dod o fewn y bandiau a restrir isod, neu fel ffigur mwy penodol.

  • Band 1: hyd at £100
  • Band 2: rhwng £101 - £500
  • Band 3: rhwng £501 - £1000
  • Band 4: rhwng £1001 - £2500
  • Band 5: rhwng £2501 - £5000
  • Band 6: rhwng £5001 - £10,000
  • Band 7: fesul £10,000 ar ôl hynny

48. Rhaid cofrestru tâl neu lwfansau a geir mewn perthynas ag aelodaeth o unrhyw sefydliad arall ac eithrio'r Senedd, gan gynnwys awdurdodau lleol, Tŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi os yw Aelod yn dal swydd o'r fath ar yr un pryd â'i aelodaeth o'r Senedd.

49. Os yw Aelod yn cael taliad am ei waith ac yna'n ei roi i berson neu sefydliad arall, rhaid i'r Aelod gofrestru'r taliad fel arfer ond gall nodi'r rhodd yn y cofnod.

50. Os oes gan Aelod gytundeb cytundebol am ddeuddeg mis neu fwy ac yn cael taliadau rheolaidd, gallant gofrestru’r taliadau hyn ymlaen llaw yn hytrach nag wrth iddynt eu cael, ar yr amod bod yr Aelod wedyn yn cofrestru (o fewn pedair wythnos) unrhyw amrywiad i'r wybodaeth a ddarparwyd eisoes.

51. Os yw Aelod yn disgwyl tâl ond nad yw'r Aelod yn gwybod yr union swm y bydd yn cael ei gael, rhaid i'r Aelod gofrestru'r swm yn seiliedig ar yr hyn y mae'n disgwyl ei gael. Os bydd y swm a geir mewn gwirionedd yn ddiweddarach yn wahanol, rhaid i'r Aelod ddiwygio'r cofnod o fewn pedair wythnos i'r union swm gael ei gadarnhau.

52. Os yw Aelod wedi gwneud gwaith â thâl gydag eraill, rhaid iddo naill ai amcangyfrif gwerth ei gyfraniad unigol neu ddatgelu'r cyfanswm a dalwyd.

53. Os yw Aelod yn derbyn tâl ar neu ar ôl y dyddiad y daeth yn Aelod, hyd yn oed os gwnaed y gweithgaredd cyn iddo ddod yn Aelod, mae'n rhaid iddo ei gofrestru.

Enwau Cleientiaid (Gwasanaethau)

54. Mae’n ofynnol i Aelodau gofrestru enwau cleientiaid pan fydd y buddiannau y cyfeiriwyd atynt yn y categori hwn yn cynnwys gwasanaethau gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, neu sy'n ymwneud mewn rhyw fodd ag aelodaeth o’r Senedd neu’n deillio o hynny.

55. Mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth am dâl a gofrestrwyd yng Nghategori 1, dylai unrhyw wasanaethau a ddarperir sy’n ymwneud â, neu sy'n deillio o, sefyllfa'r Aelod fel Aelod gael eu cofrestru o dan y categori hwn.

56. Dylid rhestru enwau pob cleient gan gynnwys cwmnïau a phartneriaethau y darperir gwasanaethau iddynt, ynghyd â natur busnes y cleient ym mhob achos. Lle bo Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, yn derbyn tâl gan gwmni neu bartneriaeth sy'n gweithio mewn busnes ymgynghoriaeth ac sydd â'i gleientiaid neu ei chleientiaid ei hun, dylai'r Aelod restru unrhyw rai o'r cleientiaid hynny y darperir gwasanaethau neu gyngor iddynt, un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

57. Mae'r mathau o wasanaethau y bwriedir eu cynnwys yma yn cynnwys y rheini sy'n gysylltiedig ag unrhyw drafodion yn y Senedd, neu wasanaethau eraill sy’n ymwneud ag aelodaeth. Os oes gan Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gleientiaid drwy gymhwyster proffesiynol nad yw’n ymwneud â’r Senedd (er enghraifft fel meddyg, cyfreithiwr neu gyfrifydd) nid oes gofyn i'r Aelod gofrestru enwau'r cleientiaid hynny, cyhyd â'i bod yn glir y tu hwnt i bob amheuaeth nad yw'r gwasanaethau a ddarperir yn cael eu darparu nac yn ymwneud mewn unrhyw fodd â swydd yr Aelod fel Aelod o’r Senedd.

58. O dan y categori hwn, os cyflogir Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, fel cynghorydd yn y Senedd gan gwmni sydd ei hun yn ymgynghoriaeth ac sydd felly yn darparu cyngor a gwasanaethau o'r fath i'w gleientiaid, dylai'r Aelod ddatgelu'r rheini o blith cleientiaid yr ymgynghoriaeth y mae ganddo gyswllt uniongyrchol â nhw i'r diben o ddarparu cyngor neu wasanaethau sy'n ymwneud â'r Senedd neu sy'n elwa yn sgil darparu cyngor neu wasanaethau o'r fath. Lle'r enwir cwmni neu bartneriaeth fel cleient, dylid nodi natur busnes y cwmni neu bartneriaeth.

Contractau gyda Chomisiwn y Senedd nau Lywodraeth Cymru

59. Rhaid darparu manylion o ran unrhyw dâl neu fudd materol y mae'r Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, yn ei gael gan unrhyw gwmni preifat neu gyhoeddus neu unrhyw gorff arall, sydd, hyd y gŵyr yr Aelod, wedi tendro, neu sy'n tendro, am gontract gyda Chomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru, neu sy'n meddu ar gontract o'r fath.

60. Dylai Aelodau gofrestru ffynhonnell pob tâl neu fudd materol a dderbynnir gan unrhyw gwmni neu gorff arall sydd, hyd y gŵyr yr Aelod, wedi tendro, neu sy'n tendro, am gontractau gyda'r Senedd.

61. Mater i'r Aelod yw penderfynu beth sydd yn fuddiant materol, ond byddai angen i unrhyw roddion neu letygarwch nad ydynt yn gofrestradwy o dan Gategori 4 (Rhoddion a Lletygarwch) ond a roddir gan gwmni sydd â chysylltiadau contractiol â'r Senedd neu Lywodraeth Cymru gael ei nodi yn y categori hwn.

5.2. Categori 2: Rhoddion, Lletygarwch, Buddion Materol neu Fantais Faterol

Rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais faterol y mae eu gwerth yn uwch na’r hyn a ragnodir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd, a dderbynnir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, oddi wrth gwmni, sefydliad neu berson ac sy'n deillio o aelodaeth o’r Senedd neu’n sy'n gysylltiedig â hynny mewn unrhyw fodd.

62. Mae'n ofynnol bod rhoddion, lletygarwch neu fuddion materol neu fantais yn cael eu cofrestru os ydynt yn 0.4 y cant o gyflog blynyddol gros sylfaenol Aelod ar ddechrau’r Seithfed Senedd (£305.52).

63. Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA 2000):

  • Members should also be aware that in addition to their reporting obligations to the Senedd under this category, they have a statutory duty under the PPERA 2000 to check, record and report the same gift, hospitality, material benefit or advantage separately to the Electoral Commission. Further information on these requirements can be found in Chapter 6.

64. The specified financial value above which gifts, hospitality and any other benefits must be registered is £305.52. Apart from gifts and hospitality, other material benefits or advantage might include relief from indebtedness, concessionary loans, provision of services, etc. When registering , Members must provide a value, or estimated value, of the gift or benefit.

65. Any gift, or benefit, which in any way relates to membership of the Senedd and which is given gratis, or at a cost below that generally available to members of the public, should be registered whenever the value of the gift or benefit is greater than the amount specified above. Any similar gift or benefit which is received by any company or organisation in which the Member or, to the Member's knowledge, the Member's partner or any dependent child of the Member, has a controlling interest should also be registered.

66. Mae rhoddion a buddiannau materol yn y categori hwn (a chategorïau eraill) wedi'u heithrio rhag yr angen i gofrestru/datgan os nad ydynt yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag aelodaeth o'r Senedd. O ganlyniad nid oes angen cofrestru/datgan rhoddion a dderbynnir gan Aelod ar ran y Senedd cyfan cyhyd â'u bod yn cael eu trosglwyddo i'r Senedd ac y cedwir cofnod o berchnogaeth y Senedd o'r rhodd. Mater i'r Aelod unigol yw penderfynu yn y lle cyntaf a yw'r eithriad hwn yn berthnasol mewn unrhyw achos penodol. Os oes unrhyw ansicrwydd, dylid cofrestru’r rhodd.

5.3. Categori 3: Nawdd Ariannol

Nawdd ariannol:

(a) fel ymgeisydd i’w ethol i’r Senedd, pan fydd y nawdd mewn unrhyw achos, hyd y gŵyr yr Aelod, yn fwy na 25 y cant o gostau etholiad yr ymgeisydd, neu

(b) fel Aelod o’r Senedd oddi wrth unrhyw unigolyn neu sefydliad. Wrth gofrestru buddiant o’r fath, rhaid i’r Aelod ddatgan a yw unrhyw nawdd o’r fath yn cynnwys unrhyw daliad i’r Aelod neu unrhyw fudd materol neu fantais faterol.

67. Mae'r categori hwn yn ymwneud â nawdd gan gwmnïau, undebau llafur, cyrff proffesiynol, cymdeithasau masnach a chyrff eraill. Rhaid i gofrestriadau o dan y categori hwn ddatgan a yw'r nawdd o'r fath yn cynnwys unrhyw daliad i'r Aelod neu unrhyw fudd neu fantais sylweddol, a rhoi gwerth ariannol gwirioneddol neu amcangyfrifedig ym mhob achos.

68. Dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol, fodd bynnag, na ellir defnyddio eu lwfansau a'u tâl fel Aelod o’r Senedd at ddibenion etholiad. Yn ymarferol, golyga hyn na all Aelodau wneud cais i'r Senedd am unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â deunydd etholiadol a threuliau eraill etholiad.

69. O dan y categori hwn, mae'n ofynnol i Aelodau sydd wedi’u hethol fel ymgeiswyr unigol gofrestru ffynhonnell unrhyw gyfraniad tuag at eu costau etholiad sydd yn fwy na 25 y cant o gyfanswm y costau hynny, fel y nodir yn yr adroddiad am wariant ymgyrchu sy'n ofynnol o dan Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025. Nid yw'n ofynnol bod gwariant ymgeiswyr ar restr pleidiau yn gael ei gofrestru, gan fod PPERA 2000 yn trin y gwariant fel gwariant gan y blaid.

70. Mae canllawiau pellach i ymgeiswyr ac asiantau ar wariant a rhoddion ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol ac yng Nghod Ymarfer Treuliau Etholiadau Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2025.

71. Mae is-adran (b) o'r categori hwn yn ymdrin â mathau eraill o nawdd ariannol. Bwriedir i hyn gynnwys unrhyw gefnogaeth reolaidd neu barhaus oddi wrth bersonau, gan gynnwys cwmnïau neu gyrff y mae'r Aelod yn derbyn unrhyw fudd ariannol neu faterol oddi wrthynt, i'w gynorthwyo gyda'i rôl fel Aelod o’r Senedd. Dylid cofrestru nawdd ariannol untro, fel y bo'n briodol, naill ai yn yr adran hon neu o dan gategori 2 “Rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais”

72. Os mai cwmni yw'r noddwr dylid nodi natur ei fusnes. Dylai Aelodau gofrestru unrhyw drefniant nawdd ariannol y mae ganddynt hwy yn bersonol ran ynddo, pa un a ydynt yn derbyn tâl personol ai peidio.

73. Dylai darparu gwasanaethau cynorthwy-ydd ymchwil neu ysgrifennydd y telir ei gyflog, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, gan sefydliad allanol, a/neu ddarparu llety am ddim neu â chymhorthdal i'r Aelod ei ddefnyddio, ac eithrio llety a ddarperir gan y blaid etholaethol yn unig, gael ei gofrestru o dan y categori hwn.

74. Mae llety a ddarperir gan awdurdod lleol neu gorff arall heb unrhyw gost, neu am gost noddedig, i Aelod yn unswydd i’r pwrpas o gynnal cymorthfeydd etholaeth wedi ei eithrio rhag yr angen i gofrestru.

75. Dylai Aelodau hefyd gofrestru a datgan unrhyw roddion ariannol sylweddol a roddir gan gorff neu gwmni ar sail reolaidd i gangen eu plaid yn yr etholaeth lle bo cyswllt uniongyrchol rhwng rhoddion o'r fath â'u hymgeisyddiaeth neu eu haelodaeth nhw o'r Senedd.

76. Dylid ystyried rhoddion yn nawdd ariannol os yw rhoddion o'r fath mewn unrhyw flwyddyn yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag ymgeisyddiaeth person i gael ei ethol i'r Senedd, neu aelodaeth ohono – gan gynnwys cefnogaeth i'r Aelod mewn etholiadau neu brosesau dethol mewnol y blaid – ac yn cyfateb i o leiaf £500 o werth (ac mae'r cyfeiriadau uchod at roddion yn cynnwys un rhodd). Fodd bynnag, nid oes rhaid cofrestru rhoddion a roddir yn uniongyrchol i gangen plaid mewn etholaeth fel mynegiant o gefnogaeth wleidyddol gyffredinol, nad ydynt yn gysylltiedig ag ymgeisyddiaeth yr Aelod neu ei aelodaeth o'r Senedd.

77. Yn yr un modd, nid oes rhaid cofrestru rhodd gan undeb llafur i gangen plaid mewn etholaeth lle nad yw'n gysylltiedig â hyrwyddo ymgeisydd penodol am sedd yn y Senedd neu Aelod penodol. Fodd bynnag, dylid ystyried bod cefnogaeth ariannol i Aelod gan undeb llafur yn dod o dan y categori hwn a dylid ei chofrestru, ar yr amod ei bod yn bodloni’r trothwy perthnasol, hyd yn oed lle bo'r undeb llafur ynghlwm wrth y blaid wleidyddol dan sylw.

78. Gofynion ychwanegol o dan Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025:

  • Dylai’r Aelodau fod yn ymwybodol bod yn rhaid i unrhyw roddion dros £50 a roddir iddynt fel ymgeiswyr unigol i'w wario ar eu hymgyrch o dan Orchymyn 2025 ddod o ffynhonnell a ganiateir a chael eu datgan ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd ar ôl yr etholiad.

79. Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000:

  • Dylai Aelodau sylweddoli, yn ychwanegol at eu rhwymedigaethau adrodd i'r Senedd o dan y categori hwn, bod ganddynt ddyletswydd statudol hefyd o dan PPERA 2000 i wirio, cofnodi ac adrodd yr un nawdd ariannol ar wahân i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhennod 6.

5.4. Categori 4: Ymweliadau Tramor

Yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad gan y Senedd, ymweliadau tramor a wneir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, sy’n deillio o’i aelodaeth o’r Senedd neu sy’n gysylltiedig â hynny mewn unrhyw fodd pan na fydd cost unrhyw ymweliad o’r fath wedi’i dalu’n llwyr gan yr Aelod neu ag arian a ddarparwyd gan y Senedd neu gan Senedd y Deyrnas Unedig neu unrhyw sefydliad y mae’r Senedd yn aelod ohono.

80. Dylai'r Aelod roi dyddiad, cyrchfan a diben yr ymweliad, ac enw'r llywodraeth, corff, cwmni neu unigolyn a dalodd y gost. Rhaid i’r Aelodau hefyd ddarparu gwerth, neu werth amcangyfrifedig, yr ymweliad. Lle'r ysgwyddwyd rhan yn unig o'r gost gan ffynhonnell allanol (er enghraifft, cost llety ond nid y costau teithio), dylid nodi'r manylion hynny'n gryno. Lle trefnwyd ymweliad tramor gan Grŵp Trawsbleidiol, nid yw'n ddigon enwi'r grwp fel noddwr yr ymweliad: dylid enwi'r llywodraeth, corff, cwmni neu berson sy'n talu'r gost yn y pen draw.

81. Nid oes angen cofrestru’r categorïau isod o ymweliadau ond y dylid eu datgan yn nhrafodion y Senedd pan fyddant yn berthnasol:

  • Ymweliadau y telir amdanynt gan, neu yr ymgymerir â hwy ar ran y Senedd neu a wneir ar ran corff rhyngwladol y perthyn y Senedd iddo;
  • Ymweliadau tramor gyda, neu ar ran, un o Bwyllgorau’r Senedd;
  • Ymweliadau a drefnir gan ac y telir amdanynt yn gyfan gwbl gan blaid wleidyddol yr Aelod ei hun.

82. Mae ymweliadau nad oes cysylltiad o gwbl rhyngddynt ag aelodaeth o'r Senedd hefyd wedi'u heithrio rhag yr angen i gofrestru, ond dylid cofrestru ymweliadau sy'n cyfuno dyletswyddau cyhoeddus gyda dibenion preifat onid ymgymerir â'r dyletswyddau cyhoeddus yn ystod ymweliadau y darperir ar eu cyfer gan unrhyw rai o'r eithriadau uchod neu oni bai bo'r Aelod neu bartner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod yn talu'r gost yn llawn.

83. Gofynion ychwanegol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000:

  • Dylai Aelodau fod yn ymwybodol, yn ychwanegol at eu rhwymedigaethau adrodd i'r Senedd o dan y categori hwn, bod ganddynt ddyletswydd statudol hefyd o dan PPERA 2000 i wirio, cofnodi ac adrodd yr un ymweliad tramor ar wahân i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhennod 6.

5.5. Categori 5: Tir ac Eiddo

Unrhyw dir ac eiddo i'r Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, tir neu eiddo i bartner yr Aelod neu i unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, y mae iddo werth sylweddol fel y’i rhagnodwyd mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd neu y ceir incwm sylweddol ohono, ac eithrio unrhyw gartref a ddefnyddir at ddibenion preswylfa bersonol gan yr Aelod, partner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i’r Aelod.

84. Dylai Aelodau nodi natur yr eiddo a'r lleoliad cyffredinol (e.e. “Coetir ym Meirionnydd”, “Fferm laeth yn Nyffryn Clwyd”, “tri eiddo preswyl ar rent yn Ninbych-y-Pysgod”).

85. Mae “gwerth sylweddol” yn golygu swm sy’n cyfateb i gyflog blynyddol gros sylfaenol Aelod o’r Senedd ar ddechrau’r Seithfed Senedd (£76,380) ac mae “incwm sylweddol” yn golygu swm sy’n cyfateb i 10 y cant o gyflog blynyddol gros sylfaenol Aelod o’r Senedd ar ddechrau’r Seithfed Senedd (£7,638). Wrth gofrestru, mae'n ofynnol i Aelodau nodi a ydynt yn cofrestru oherwydd gwerth sylweddol, incwm sylweddol, neu'r ddau. Fodd bynnag, nid oes angen cofrestru symiau penodol.

86. Nid oes diffiniad cwbl eglur o eiddo ‘a ddefnyddir fel preswylfan bersonol’. Mater i'r Aelodau eu hunain fydd barnu a yw eiddo wedi'i eithrio rhag ei gofrestru am y rheswm hwn ai peidio. Mae nifer o ffactorau y dylai'r Aelodau eu hystyried wrth ystyried a oes rhaid cofrestru eiddo ai peidio – maent wedi'u rhestru isod. Dylid pwysleisio nad yw'r ffactorau a restrir yn gynhwysfawr na phenodol, ac y gallai ffactorau eraill fod yn bwysig o dan rai amgylchiadau:

  • P’un a geir incwm sylweddol drwy'r eiddo. Fel rheol, nid yw eiddo y bydd yr Aelod neu bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod yn cael incwm drwyddo (yn enwedig os ydyw'n incwm sylweddol yn ôl y diffiniad uchod) yn un sy'n debygol o'i weld fel un a ddefnyddir fel ‘preswylfan bersonol’.
  • P’un a yw'r eiddo yn cael ei ddefnyddio gan yr Aelod, gan bartner yr Aelod, plant yr Aelod neu deulu agos yn unig.
  • P’un a yw'r dreth gyngor neu'r biliau am wasanaethau ar gyfer yr eiddo yn cael eu talu gan yr Aelod neu bartner yr Aelod neu blant dibynnol.
  • P’un a ddylid cofrestru eiddo, megis fferm, sy'n cael ei ddefnyddio fel preswylfan gan yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod, os oes ganddo werth sylweddol ar wahân i'w ddefnydd fel preswylfan.

87. Mae'n bosibl i Aelod neu bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gael mwy nag un cartref ‘a ddefnyddir fel preswylfan bersonol yr Aelod neu bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod’. Nid oes yn rhaid cofrestru eiddo o'r fath.

88. Wrth gyflwyno cofnod o dan y categori hwn, rhaid i Aelodau hefyd ddatgan a ydynt yn landlord cofrestredig.

5.6. Categori 6: Cyfranddaliadau

Enwau cwmnïau neu gyrff eraill y mae gan yr Aelod, naill ai ar ei ben ei hun neu gyda phartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol, neu ar eu rhan hwy, fuddiant llesiannol ynddynt, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, y mae gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod fuddiant llesiannol ynddynt, mewn cyfranddaliadau y mae eu gwerth ar y farchnad:

(a) yn fwy nag un y cant o’r cyfalaf cyfranddaliadol a ddyroddwyd; neu

(b) yn llai nag un y cant ond yn fwy na swm a bennir mewn unrhyw benderfyniad gan y Senedd.

89. Mae'r gofyniad hwn yn cynnwys unrhyw opsiwn i gaffael cyfranddaliadau. Lle mae'r Aelod, naill ai ar ei ben ei hun, neu gyda phartner neu blant dibynnol yr Aelod, yn fuddiolwr ymddiriedolaeth ddall, rhaid cofrestru hyn hefyd.

90. Rhaid cofrestru yng nghyswllt cyfranddaliadau y mae eu gwerth ar y farchnad yn llai nag 1 y cant o’r cyfalaf cyfranddaliadol a ddyroddwyd lle bo gwerth y cyfranddaliadau hynny ar 5 Ebrill blaenorol yn fwy na 50 y cant o gyflog Senedd blynyddol gros sylfaenol Aelod o’r Senedd ar ddechrau’r Seithfed Senedd (£38,190). Wrth gofrestru, rhaid i Aelodau nodi pa un o'r ddau drothwy sy'n berthnasol i'r cyfranddaliadau sy'n cael eu cofrestru.

91. Pennir gwerth cyfranddaliadau gan bris marchnad y gyfran ar: y dyddiad y cafodd yr Aelod ei ethol i'r Senedd, neu os cafodd ei gaffael ar ôl i'r Aelod gael ei ethol i'r Senedd, dyddiad y caffael; neu ar ôl yr etholiad neu'r caffael cychwynnol, y gwerth ar 5 Ebrill bob blwyddyn.

92. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i'r Aelodau wneud asesiad blynyddol o'u cyfranddaliadau, a chofrestru unrhyw gyfranddaliad sydd â'i werth yn uwch na'r trothwy ar 5 Ebrill, er efallai y bu ei werth yn is na'r trothwy yn flaenorol. Mae'n ofynnol i Aelodau gofrestru cyfranddaliadau o fewn wyth wythnos i'w hethol i'r Senedd, neu o fewn pedair wythnos i brynu'r cyfranddaliadau, neu ar 5 Ebrill bob blwyddyn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

93. Gall Aelodau hefyd nodi bod gwerth y cyfranddaliad ar 5 Ebrill wedi disgyn yn is na'r trothwy. O dan yr amgylchiadau hyn, ni fydd yn rhaid i'r Aelod ddatgan y cyfranddaliadau yn nhrafodion perthnasol y Senedd.

94. Os na ellir canfod y pris ar y farchnad (e.e. oherwydd nad yw'r cwmni wedi'i restru ac nad yw'r cyfranddaliadau ar y farchnad), dylid defnyddio'r gwerth mewn enw.

95. Mae buddiant mewn cyfranddaliadau yn cynnwys cyfranddaliadau opsiwn. Gall fod yn anodd cyfrifo gwerth cyfranddaliadau opsiwn at ddibenion cofrestru, bernir bod eu gwerth yr un fath â gwerth y cyfranddaliadau ar unrhyw adeg benodol. Fel yn achos cyfranddaliadau, rhaid i'r Aelodau wneud asesiad blynyddol o'u cyfranddaliadau opsiwn, a chofrestru unrhyw opsiynau sydd â'u gwerth yn uwch na'r trothwy ar 5 Ebrill, er efallai y bu eu gwerth yn is na'r trothwy yn flaenorol.

96. Mae buddiannau mewn cyfranddaliadau hefyd yn cynnwys buddiannau llesiannol mewn ymddiriedolaethau dall. Dylid cofrestru ymddiriedolaethau dall ynghyd â'u gwerth (os yw'n hysbys).

97. Wrth benderfynu a yw cyfranddaliadau yn gofrestradwy o dan y meini prawf a nodir uchod, dylai Aelodau gynnwys nid yn unig ddaliadau y mae ganddynt hwy eu hunain fuddiant llesiannol ynddynt ond hefyd y rheini lle mae'r buddiant yn cael ei ddal ar y cyd â, neu ar ran, eu partner neu blant dibynnol. Ar gyfer pob cyfranddaliad, dylai'r cofnod ddatgan enw'r cwmni neu'r corff, nodi'n fyr natur ei fusnes a'i gwneud yn glir pa un neu rai o'r meini prawf cofrestru sydd yn gymwys.

5.7. Categori 7: Aelodaeth/Cadeiryddiaeth o gyrff sy’n derbyn cyllid yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru

Aelodaeth neu gadeiryddiaeth gyda thâl neu’n ddi-dâl a ddelir gan yr Aelod neu, hyd y gŵyr yr Aelod, gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol i'r Aelod, ar unrhyw gorff a ariennir yn llwyr neu’n rhannol â chyllid a ddarparwyd gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru, lle y mae'r Aelod yn gwybod, neu y dylai fod wedi gwybod, am y cyllid a ddarparwyd gan Gomisiwn y Senedd neu Lywodraeth Cymru.

98. Mae'r diffiniad o'r term ‘aelodaeth’ yn y categori hwn yn cynnwys y canlynol:

  • Unrhyw un sy'n dal swydd, fel cadeirydd, trysorydd, ymddiriedolwr, cyfarwyddwr, noddwr, llywydd neu is-lywydd sefydliad; ac
  • Aelodaeth o gorff llywodraethu neu fwrdd sefydliad.

99. Dim ond ar gyfer swyddi dylanwadol o fewn cyrff sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru neu Gomisiwn y Senedd y mae’n rhaid cofrestru o dan y categori hwn. Cynghorir Aelodau i gofrestru unrhyw aelodaeth/cadeiryddiaeth cyrff nad ydynt yn derbyn arian o'r fath yn y categori gwirfoddol os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae’r un peth yn berthnasol i aelodaeth ‘gyffredin’ o gyrff sy'n derbyn arian o'r fath, ond lle nad yw aelodaeth yn dod o fewn y diffiniadau a nodir ym mharagraff 98.

100. Mae gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd bwerau ariannu helaeth mewn perthynas â chyrff cyhoeddus ac mae'r categori hwn yr un mor berthnasol i gyrff sy'n derbyn cyllid anuniongyrchol, megis drwy gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru neu awdurdodau lleol.

101. Lle bo Aelod o’r Senedd yn gwybod, neu y dylai wybod, fod gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod, gysylltiad fel aelod neu gadeirydd â chorff gwirfoddol neu gorff arall sy'n derbyn cyllid gan y Senedd neu Lywodraeth Cymru, dylid cofrestru hynny.

102. Gellir ceisio cyngor y Cofrestrydd Buddiannau Aelodau ynghylch a yw corff yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, ond yn y pen draw cyfrifoldeb yr Aelod yw sicrhau ei fod yn ymwybodol o ffeithiau o'r fath.

 

6. Adrodd am Fuddiannau i'r Comisiwn Etholiadol

103. Yn ogystal â'r dyletswyddau a nodir yn Neddf 2006 ac yn y Rheolau Sefydlog, mae cyfrifoldeb statudol ar yr Aelodau i wirio, cofnodi ac adrodd rhai buddiannau'n uniongyrchol i'r Comisiwn Etholiadol, fel y nodir yn PPERA 2000 ac, os ydynt yn ymgeiswyr unigol, i adrodd am roddion tuag at y gwariant ar eu hymgyrch etholiadol o dan Orchymyn 2025.

104. Dylai Aelodau sy'n sefyll fel ymgeisydd ar restr plaid gyfeirio at ganllawiau'r Comisiwn Etholiadol am gyngor ar roddion a benthyciadau a dderbyniwyd tuag at eu hail-ethol ac i dalu am wariant ymgyrch etholiadol y blaid.

105. Anogir aelodau i ddarllen canllawiau'r Comisiwn Etholiadol neu i gysylltu â'r Comisiwn Etholiadol yn uniongyrchol os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynghylch y gofynion hyn.

106. Wrth roi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol am fuddiant, dylai Aelodau hefyd fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Rhaid i unrhyw nawdd ariannol, rhodd, lletygarwch, buddiant materol neu fantais faterol (gan gynnwys unrhyw rodd neu fenthyciad) dros £500 sydd i'w defnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol, naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol, fod o ffynhonnell a ganiateir;
  • Rhaid i wybodaeth ychwanegol gael ei darparu i'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â benthyciadau a roddir iddynt ar gyfer eu defnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol;
  • Mae ganddynt 30 diwrnod o dderbyn rhodd neu ymrwymo i fenthyciad i ddarparu'r adroddiad gofynnol i'r Comisiwn Etholiadol.

6.1. Rhoddion, Lletygarwch, Buddion Materol neu Fantais Faterol

107. Rhaid i'r Aelodau gofnodi unrhyw rodd, lletygarwch, buddiant materol neu fantais faterol (gan gynnwys unrhyw rodd ariannol neu fenthyciad) sydd i'w defnyddio gan yr Aelod mewn cysylltiad â'i weithgareddau gwleidyddol naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol, a'i bod naill ai:

  • Dros £2,230 ac o ffynhonnell a ganiateir (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â rhoddion eraill o'r un ffynhonnell), neu
  • Dros £500 ac o ffynhonnell nas caniateir neu na ellir ei hadnabod.

6.2. Nawdd Ariannol

108. Rhaid i'r Aelodau roi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol os byddant yn cael nawdd ariannol i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol, a'i fod naill ai:

  • Dros £2,230 ac o ffynhonnell a ganiateir (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd â rhoddion eraill o'r un ffynhonnell), neu
  • Dros £500 ac o ffynhonnell nas caniateir neu na ellir ei hadnabod.

6.3. Ymweliadau Tramor

109. Rhaid i'r Aelodau roi gwybodaeth benodol i'r Comisiwn Etholiadol os yw cost taith dramor yn fwy na £2,230 (naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag ymweliadau eraill y telir amdanynt o'r un ffynhonnell), ac os oedd hynny mewn cysylltiad â gweithgareddau gwleidyddol yr Aelod naill ai fel Aelod neu fel aelod o blaid wleidyddol.

110. Fodd bynnag, dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Nid yw gofynion PPERA 2000, o ran caniatâd, yn berthnasol i ymweliadau tramor, ar yr amod nad yw gwerth unrhyw rodd a dderbynnir yn fwy na ‘chostau rhesymol’ yr ymweliad tramor;
  • Nid yw PPERA 2000 yn eithrio rhag hysbysu lle mae cost yr ymweliad tramor wedi'i dalu'n llwyr gan bartner yr Aelod neu blentyn dibynnol yr Aelod;

 

Y Comisiwn Etholiadol
Llawr 3, Tŷ James William
9 Maes yr Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3BD

E-bost: infowales@electoralcommission.org.uk

Ffôn: 0333 103 1929

Canllawiau’r Comisiwn Etholiadol ar roddion i unigolion rheoledig.

Canllawiau’r Comisiwn Etholiadol i ymgeiswyr ac asiantau yn etholiadau’r Senedd.

 

7. Gofynion eraill sy'n ymwneud â Buddiannau'r Aelodau

111. Yn ychwanegol at y gofynion statudol i gofrestru buddiannau o dan Reol Sefydlog 2, rhaid i Aelodau hefyd gofnodi'r buddiannau canlynol:

  • Rheol Sefydlog 3: Cofnodi Cyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn
  • Rheol Sefydlog 4: Cofnodi'r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy
  • Rheol Sefydlog 5: Cofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau

112. Mae'r gofynion o dan y Rheolau Sefydlog hyn wedi'u modelu ar y rheini yn Rheol Sefydlog 2 fel bod, er enghraifft, yr amserlenni ar gyfer datgan buddiannau perthnasol yn union yr un fath. Fel Rheol Sefydlog 2, nid yw'r darpariaethau yn ddewisol nac yn wirfoddol; fodd bynnag, dylai Aelodau nodi nad yw'r gofynion hyn yn cael eu cynnwys yn y sancsiynau troseddol sy'n berthnasol i achosion o dorri rheolau sy'n ymwneud â’r gofrestr buddiannau a datganiadau llafar a nodir o dan Reol Sefydlog 2.

113. Caiff hysbysiadau o dan y Rheolau Sefydlog eu cyhoeddi yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

114. O dan Reol Sefydlog 5A, caiff Aelodau, os ydynt yn dymuno, gofnodi buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill nad ydynt yn dod o fewn unrhyw un o'r categorïau y mae angen eu cofrestru o dan Reol Sefydlog 2 neu eu cofnodi o dan Reolau Sefydlog 3, 4 a 5.

7.1. Cofnodi Cyflogaeth Aelodau o Deuluoedd Aelodau eraill gyda Chymorth Arian y Comisiwn (Rheol Sefydlog 3)

Rhaid i Aelod sydd ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian y Comisiwn, yn cyflogi, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, berson y mae’r Aelod hwnnw’n gwybod ei fod yn aelod o deulu Aelod arall roi hysbysiad o dan Reol Sefydlog 3, a hynny heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn Rheol Sefydlog 3.

115. Yn Rheol Sefydlog 3:

(i) Mae “aelod o’r teulu” yn golygu:

(a) partner Aelod;

(b) plentyn, ŵyr neu wyres Aelod;

(c) rhiant, taid neu nain Aelod;

(d) brawd neu chwaer Aelod;

(e) nai neu nith Aelod; neu

(f) ewythr neu fodryb Aelod

(ii) ystyr “partner” yw priod, partner sifil neu un o gwpl pa un ai o’r un rhyw neu o’r rhyw arall sy’n byw gyda’i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy’n trin ei gilydd fel dau briod;

(iii) mae'r ymadroddion “plentyn”, “ŵyr/wyres”, “rhiant”, “nain/taid”, “brawd”, “chwaer”, “ewythr” a “modryb” yr un mor gymwys i hanner perthnasau, llys-berthnasau, perthnasau maeth a pherthnasau mabwysiadol, ac yn gymwys hefyd i bersonau sy'n perthyn yn yr un modd i bartner yr Aelod;

(iv) ystyr “arian y Comisiwn” yw symiau a delir gan y Comisiwn ar ffurf lwfansau o dan adrannau 20, 21 neu 53 o’r Ddeddf.

116. Rhaid i’r hysbysiad sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 3 gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(1) enw’r Aelod neu’r Aelodau y mae'r gweithiwr yn aelod o’i deulu;

(ii) enw llawn y cyflogai;

(iii) perthynas y cyflogai â’r Aelod neu’r Aelodau y cyfeirir atynt yn (ii);

(iv) ym mha swyddogaeth y mae’r cyflogai wedi’i gyflogi, gan gynnwys unrhyw deitl swydd;

(v) y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth;

(vi) os yw’r gyflogaeth wedi dod i ben, y dyddiad y daeth i ben; ac

(vii) yr oriau y mae’r cyflogai wedi’i gontractio i’w gweithio bob wythnos.

117. Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi:

(i) fewn wyth wythnos i’r dyddiad y bydd yr Aelod yn tyngu’r llw teyrngarwch neu’n rhoi’r cadarnhad teyrngarwch; neu

(ii) fewn pedair wythnos i:

(a) y tro cyntaf i’r aelod o deulu gael taliad gyda chymorth arian y Comisiwn; 

(b) y dyddiad y daw’r cyflogai yn aelod o deulu Aelod arall; neu 

(c) y dyddiad y daw’r Aelod yn ymwybodol am y tro cyntaf o’r ffaith bod y cyflogai yn aelod o deulu Aelod arall,

pa un bynnag yw'r olaf.

118. Os:

(i) oes hysbysiad wedi’i roi o dan Reol Sefydlog 3; a

(ii) bod unrhyw newid wedi bod yn yr wybodaeth a gynhwyswyd yn yr hysbysiad hwnnw,

rhaid i’r Aelod, o fewn pedair wythnos i ddyddiad y newid hwnnw, roi hysbysiad ynglŷn â’r newid hwnnw.

119. Rhaid hysbysu drwy lenwi a llofnodi ffurflen Cofnodi Cyflogaeth Aelodau’r Teulu. Er bod rhaid darparu enw aelod o'r teulu wrth lenwi'r ffurflen, ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi oni bai bod yr Aelod sy'n gwneud yr hysbysiad yn gofyn am hynny’n benodol. Bydd yn cael ei gadw gan y Cofrestrydd a gellir ei ddarparu i'r Comisiynydd Safonau ar gais, heb yr angen am Hysbysiad i Gynhyrchu o dan adran 12 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.

120. Mae'r Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu yn cael ei gadw gan y Swyddfa Gyflwyno. Cyhoeddir y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau’r Teulu yn yr un ddogfen ar-lein â’r Gofrestr Buddiannau; gellir gwneud copïau o gofnodion unigol ar gael ar gais i’r Swyddfa Gyflwyno.

7.2. Cofnodi’r Amser y bydd Aelod yn Ymwneud â Gweithgarwch Cofrestradwy (Rheol Sefydlog 4)

Os yw'n ofynnol i Aelod gofrestru ‘gweithgarwch cofrestradwy’ o dan Gategori 1 (Cyflogaeth am dâl, swyddi cyfarwyddwyr ac ati), rhaid i Aelodau hefyd nodi’r amser y bydd yn ymwneud â’r gweithgarwch hwnnw.

121. Rhaid i'r Aelodau gyfeirio at y categorïau canlynol, fel y nodir yn Rheol Sefydlog 4.3, wrth nodi'r amser a dreulir ar weithgarwch cofrestradwy:

  • Categori 1: Llai na 5 awr yr wythnos;
  • Categori 2: Rhwng 5 ac 20 awr yr wythnos;
  • Categori 3: Mwy nag 20 awr yr wythnos.
  • Categori 4: Gweithgaredd untro, gydag amser penodedig.

122. Dylid datgan buddiant o dan Reol Sefydlog 4 ar yr un pryd ag y cofrestrir buddiant perthnasol o dan Gategori 1. Gellir gwneud hysbysiadau o dan y Rheol Sefydlog hon drwy fod yr Aelodau'n llenwi'r adrannau perthnasol ar y Ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiant. Cyhoeddir yr hysbysiadau hyn yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

7.3. Cofnodi Aelodaeth o Gymdeithasau (Rheol Sefydlog 5)

123. O dan Reol Sefydlog 5, mae gofyn i Aelodau gofrestru eu haelodaeth, neu safle o reolaeth gyffredinol, o gymdeithas breifat neu glwb preifat sydd â gofynion mynediad ar gyfer ymaelodi.

124. Yn dilyn cyngor y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad, cyflwynwyd y Gofrestr Aelodaeth o Gymdeithasau wedi i'r Senedd gymeradwyo Rheol Sefydlog 5 ar 19 Ebrill 2005. Mae Rheol Sefydlog 5 yn disodli'r gofyniad blaenorol yn Rheol Sefydlog 2 a oedd yn mynnu bod Aelodau'n cofrestru aelodaeth o'r Seiri Rhyddion.

125. Yn ei hanfod, mae’r polisi'n adlewyrchu darpariaethau Rheol Sefydlog 2, hynny yw sicrhau bod Aelodau o’r Senedd a’r cyhoedd yn gyson ymwybodol o aelodaeth o unrhyw glybiau neu gymdeithasau preifat y gellid tybio eu bod yn dylanwadu ar ymddygiad neu weithredoedd yr Aelodau yn y Senedd.

126. Enghreifftiau o’r math o gyrff y mae'n rhaid eu cofrestru:

  • Cymdeithasau preifat sydd â gofynion aelodaeth yn ychwanegol at, neu yn lle, taliadau aelodaeth a'r gofyniad i gytuno ar delerau ac amodau aelodaeth – yn enwedig lle mae'r Aelodaeth yn cael ei dethol neu ei gwahodd yn unig (er enghraifft y Seiri Rhyddion, Rotari, y Ford Gron).
  • Clybiau preifat sydd â gofynion aelodaeth yn ychwanegol at, neu yn lle, taliadau aelodaeth a'r gofyniad i gytuno ar delerau ac amodau aelodaeth – yn enwedig lle mae'r Aelodaeth yn cael ei dethol neu ei gwahodd yn unig (e.e. Clybiau Aelodau Preifat, fel y Cardiff and County Club).

127. Enghreifftiau o aelodaeth o'r math o gyrff nad oes yn rhaid eu cofrestru:

  • Cyrff cyhoeddus (er enghraifft Cadw, English Heritage, Historic Scotland)
  • Cymdeithasau preifat sy'n codi tâl aelodaeth yn unig (e.e. yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RAC, AA, RSPB)
  • Cymdeithasau preifat sydd ag amodau a thelerau aelodaeth (er enghraifft, Prifysgolion neu Golegau Addysg Uwch/Bellach, Cymdeithasau Rhieni/Athrawon, Cyrff Crefyddol, Cyrff Proffesiynol)
  • Clybiau preifat sydd ond yn gofyn am danysgrifiad a/neu gytuno i amodau aelodaeth (e.e. Clybiau Hamdden neu Glybiau Pobl Gwaith - cyn belled nad oes unrhyw elfen o aelodaeth sydd drwy wahoddiad neu ddethol yn unig).

128. Os yw Aelodau am gofnodi eu haelodaeth o unrhyw un o'r uchod, neu gorff tebyg, yna gallant wneud hynny o dan y categori gwirfoddol.

129. Gellir gwneud hysbysiadau o dan y Rheol Sefydlog hon drwy fod yr Aelodau'n llenwi'r adrannau perthnasol ar y Ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiant. Cyhoeddir gwybodaeth o'r fath yn yr un ddogfen ar-lein â'r Gofrestr Buddiannau.

7.4. Cofnodi buddiannau eraill Aelodau yn wirfoddol

130. O dan Reol Sefydlog 5A, caiff Aelodau, os ydynt yn dymuno, gofnodi buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill nad ydynt yn dod o fewn unrhyw un o'r categorïau y mae angen eu cofrestru o dan Reol Sefydlog 2 neu eu cofnodi o dan Reolau Sefydlog 3, 4 a 5.

131. Gallai buddiannau o’r fath gynnwys buddiannau ariannol nad ydynt yn dod o dan unrhyw un o’r categorïau gorfodol, neu sy’n is nag unrhyw drothwyon y byddai angen eu cofrestru o dan y categorïau hynny; neu fuddiannau aelodau o’r teulu ac eithrio partneriaid neu blant dibynnol. Mae hefyd yn lle priodol i gofnodi aelodaeth o gymdeithasau neu gyrff eraill nad ydynt yn dod o dan ofynion penodol categori 7 neu Reol Sefydlog 5, a rhoddion neu letygarwch a gynigiwyd ond a wrthodwyd.

132. Gan fod y categori o fuddiannau yn wirfoddol, nid yw’n ddarostyngedig i Adran 36 o Ddeddf 2006 ac ni all yr Aelodau fod yn destun cwyn am beidio â chofrestru rhywbeth yn y categori gwirfoddol neu am fod yn ‘hwyr’ yn gwneud hynny.

 

8. Datgan buddiannau cyn cymryd rhan mewn trafodion

8.1. Pwrpas y datganiadau llafar

133. Diben datganiadau llafar yw sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am unrhyw fuddiant ariannol yn y gorffennol, buddiant ariannol presennol neu fuddiant ariannol yn y dyfodol y gallai eraill eu hystyried, o fewn rheswm, eu bod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod i ddadl neu drafodaeth.

8.2. Pryd y dylai'r Aelodau ddatgan buddiant?

134. Rhannwyd yr achosion lle mae'n ofynnol i Aelodau ddatgan buddiant yn ddau gategori, sy'n destun sancsiynau troseddol ac anhroseddol fel a ganlyn:

Datgan Buddiannau Cofrestradwy (Troseddol)

135. Mae Rheolau Sefydlog 2.6 a 2.7 yn datgan fel a ganlyn:

136. “Yn yr amgylchiadau a bennir yn Rheol Sefydlog 2.7, cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd, rhaid i Aelod ddatgan ar lafar unrhyw fuddiant ariannol sydd ganddo, neu y gall fod yn disgwyl ei gael, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, unrhyw fuddiant ariannol sydd gan bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, neu y gallant fod yn disgwyl ei gael, mewn unrhyw fater sy’n codi yn y trafodion hynny.

137. Rhaid i ddatganiad llafar o dan Reol Sefydlog 2.6 gael ei wneud mewn perthynas ag unrhyw fuddiant a bennir ym mharagraff 5 o'r Atodiad i Reol Sefydlog 2 os gallai penderfyniad penodol yn y trafodion hynny arwain at fantais ariannol uniongyrchol i'r Aelod, neu, hyd y gŵyr yr Aelod, i bartner yr Aelod neu unrhyw blentyn dibynnol sydd gan yr Aelod, a fyddai'n fwy na’r fantais a allai ddod i ran y personau y byddai’r penderfyniad yn effeithio arnynt yn gyffredinol”.

138. Mae cymryd rhan mewn trafodion, heb ddatgan buddiannau cofrestradwy yn unol â'r Rheolau Sefydlog hyn, yn drosedd o dan Adran 36(7)(a) o Ddeddf 2006.

Datgan Buddiannau Perthnasol (Anhroseddol)

139. O dan Reolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, rhaid i Aelod, ar yr adeg briodol, ddatgan ar lafar unrhyw ‘fuddiant perthnasol’ y mae'r Aelod neu aelod o'r deulu yn cael neu yn disgwyl ei gael mewn unrhyw fater sy'n codi yn y trafodion hyn. O dan Orchymyn Sefydlog 15.6, rhaid i Aelodau hefyd ddatgan unrhyw fuddiannau perthnasol wrth gyflwyno busnes.

140. Yn ôl Rheolau Sefydlog 13.8A, 17.24A a 15.6, ystyr ‘buddiant perthnasol’ at y dibenion hyn yw buddiant yr ystyrir yn rhesymol gan eraill ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod i ddadl neu drafodaeth.

141. Yn wahanol i'r gofynion ar gyfer datgan buddiannau cofrestradwy o dan Reol Sefydlog 2.6 a 2.7, nid yw methiant i ddatgan buddiant perthnasol o dan Reolau Sefydlog 13.8A, 17.24A a 15.6 yn drosedd o dan Ddeddf 2006, ond gall fod yn destun cwyn i Gomisiynydd Safonau’r Senedd.

142. Mae siart llif yn esbonio sut y mae'r ddau gategori hyn yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd i’w weld isod.

Siart llif – Datgan buddiant ar lafar a chyfyngu ar bleidleisio

8.3. Datgan buddiannau yn y dyfodol

143. Lle bo angen datganiad llafar o dan Reolau Sefydlog 2.6 a 2.7, dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol bod y gofynion ar gyfer datganiadau o'r fath yn ehangach eu cwmpas na'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â chofrestru buddiannau. Yn ogystal â buddiannau presennol (h.y. y rheini yn y Gofrestr bresennol o fuddiannau a gaffaelwyd yn y pedair wythnos flaenorol), mae gofyn i Aelodau ddatgan y buddiannau a restrir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2 y maent yn disgwyl eu cael cyn cymryd rhan mewn unrhyw drafodion yn y Senedd os yw'r buddiant mewn unrhyw fater y mae a wnelo'r trafodion ag ef.

144. Efallai y bydd buddiannau y disgwylir eu cael yn y dyfodol yn fwy arwyddocaol na'r buddiannau presennol, ac felly mae'n hanfodol bod yr Aelodau'n onest. Lle bo Aelod, er enghraifft, yn trafod is-ddeddfwriaeth neu'n gwneud sylwadau ar fater y gall yr Aelod yn rhesymol ddisgwyl mantais ariannol bersonol ohono o'r math a bennir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2, rhaid gwneud datganiad.

145. Wrth benderfynu a yw buddiant y gellid, o bosibl, ei gael yn y dyfodol yn ddigon pendant fel bod angen ei ddatgan, y gair allweddol yn y rheol y mae'n rhaid i'r Aelod ei gofio yw ‘disgwyl’. Lle bo cynlluniau neu faint ymwneud Aelod mewn prosiect wedi mynd y tu hwnt i obeithion neu ddyheadau amwys ac wedi cyrraedd y cam lle mae yna ddisgwyliad rhesymol y ceir buddiant cofrestradwy, yna dylid gwneud datganiad yn egluro'r sefyllfa.

8.4. Datgan buddiannau perthnasol ar lafar

146. Lle bo angen datganiad llafar o dan Reolau Sefydlog 13.8A and 17.24A, dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol bod rhaid iddynt ddatgan unrhyw fuddiant perthnasol sydd ganddynt hwy neu aelod o'r teulu, neu y disgwylir iddynt hwy neu aelod o'r teulu ei gael, ac y gallai gofynion o'r fath fod yn ehangach eu cwmpas na'r ‘buddiannau cofrestradwy’ a amlinellir ym mharagraff 5 o'r atodiad i Reol Sefydlog 2. Er enghraifft, er nad oes yn rhaid i'r Aelodau gofrestru eu bod yn cyflogi plant dibynnol neu aelodau eraill o’r teulu heblaw am bartneriaid yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2, efallai y bydd gofyn i Aelodau ddatgan cyflogaeth o'r fath, pe gallai eraill ystyried, o fewn rheswm, ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod at y ddadl neu’r drafodaeth.

147. O dan Reolau Sefydlog 13.8A, 15.6 a 17.24A, mae disgresiwn i'r Aelodau benderfynu a yw unrhyw fuddiant sydd gan Aelod neu aelod o'r teulu, neu y mae Aelod neu aelod o'r teulu yn disgwyl ei gael, yn ‘fuddiant perthnasol’. Fel yn achos buddiannau a ddisgwylir yn y dyfodol, felly, mae'n hollbwysig bod yr Aelodau'n onest wrth benderfynu a oes angen gwneud datganiad o dan y Rheol Sefydlog hon ai peidio.

148. Mae'r diffiniad o ‘Aelodau’r Teulu’ at ddibenion Rheolau Sefydlog 13.8A, 17.24A a 15.6, yr un fath ag a gynhwysir o dan Reol Sefydlog 3 sy'n ymwneud â Chofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu (mae’r diffiniad llawn wedi’i gynnwys ym mharagraff 115).

8.5. Sut y dylai'r Aelodau ddatgan buddiannau?

149. Dylai buddiant gael ei ddatgan ar lafar os yw naill ai o fewn categori a bennir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2 neu o fewn cwmpas Rheolau Sefydlog 13.8A a 17.24A, ac os yw'n berthnasol i unrhyw fater y mae'r trafodion yn ymwneud ag ef. (Mae “trafodion y Senedd” yn golygu unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gan gynnwys pleidleisio.)Cyfrifoldeb yr Aelod yw barnu a yw buddiant yn ddigon perthnasol i drafodion penodol fel bod yn rhaid ei ddatgan.

150. Yr egwyddor sylfaenol yw y dylai Aelodau ddatgan buddiannau cofrestradwy a pherthnasol bob tro y maent yn cymryd rhan yn nhrafodion yn y Senedd, fel a ganlyn:

Buddiant cofrestradwy:

  • Mewn Cyfarfod Llawn – cyn i aelod siarad am y tro cyntaf, neu bleidleisio, ar bob eitem berthnasol ar yr agenda ond nid bob tro y mae'n siarad wedyn yn ystod eitem benodol o fusnes.
  • Mewn pwyllgor/is-bwyllgor – ar ddechrau pob cyfarfod.

Buddiant perthnasol:

  • Ar yr adeg briodol yn nhrafodion y Senedd.

151. Ar yr amod bod y manylion (gan gynnwys unrhyw symiau perthnasol) wedi'u cynnwys yng Nghofrestr Buddiannau'r Aelodau, gall yr Aelod gyfeirio at y buddiannau a'r ffaith bod y buddiannau i'w cael yn y Gofrestr, cyn belled â bod y datganiad yn rhoi digon o wybodaeth i alluogi'r gwrandäwr i ddeall pa fuddiant sy'n cael ei ddatgan. Er enghraifft, nid yw ‘Rwy'n cyfeirio Aelodau at fy nghofrestr buddiannau’ yn ddatganiad priodol, tra byddai ‘Rwy'n cyfeirio Aelodau at fy nghofrestr buddiannau mewn perthynas â’m perchnogaeth ar lety gwyliau’ yn briodol.

152. Os yw'r datganiad yn ymwneud â buddiannau nad ydynt yn y Gofrestr neu eu bod yn rhai y mae'r Aelod, (neu, hyd y gŵyr yr Aelod, partner yr Aelod neu blant dibynnol yr Aelod) yn disgwyl eu cael yn y dyfodol, yna bydd gofyn rhoi'r manylion llawn (gan gynnwys unrhyw symiau perthnasol) yn y datganiad.

153. Rhaid i ddatganiad o’r fath nodi’r math o fuddiant dan sylw hefyd. Er enghraifft, ‘Mae gan fy nheulu fuddiannau mewn tir y byddai'r cynllun yn effeithio arnyn nhw’ neu ‘Rwy'n byw yn yr ardal yr effeithir arni gan y cynllun sy'n cael ei ystyried’ neu ‘Rwy'n Aelod o fwrdd un o'r cyrff y byddai'r penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw’. Os oes gan Aelod fwy nag un buddiant yna rhaid datgan pob un.

Datgan Buddiannau Perthnasol cyn Pleidleisio

154. Mae’r diffiniad o ‘gymryd rhan yn nhrafodion y Senedd’ yn cynnwys pleidleisio, ac felly mae’r gofynion ynghylch datgan buddiannau perthnasol yn berthnasol i bleidleisio yn ogystal â siarad.

155. O ystyried y ffactorau sydd fel arfer yn penderfynu sut mae Aelodau yn pleidleisio, mae'r amgylchiadau lle gallai eraill feddwl yn rhesymol bod y penderfyniad i bleidleisio mewn ffordd benodol wedi cael ei ddylanwadu gan fuddiant perthnasol yn debygol o fod yn brin, ac yn sicr yn llai cyffredin nag ar gyfer cyfraniadau llafar. Os oes gan Aelod fuddiant perthnasol, bydd angen iddo ei ddatgan cyn pleidleisio, oni bai am yn yr achosion a ganlyn:

  • mae’r buddiant wedi’i ddatgan eisoes fel rhan o gyfraniad llafar yr Aelod at y ddadl; a/neu
  • mae’r buddiant wedi’i gofrestru gan yr Aelod yn y Gofrestr o Fuddiannau'r Aelodau (ac yn yr achos hwnnw byddai eisoes ar gael i’r cyhoedd). Dylid nodi, fodd bynnag, fod peidio â datgan buddiant perthnasol ar y sail ei fod eisoes wedi'i gofrestru dim ond yn berthnasol mewn perthynas â phleidleisio (er mwyn peidio ag effeithio'n anghymesur ar drafodion) ac nid mewn perthynas â siarad.

Datganiad o ffuddiannau perthnasol wrth gyflwyno busnes

156. O dan Orchymyn Sefydlog 15.6, rhaid i Aelodau hefyd ddatgan unrhyw fuddiannau perthnasol pan fyddant yn cyflwyno busnes. Gwneir hyn drwy lenwi'r adran briodol ar y ffurflen gyflwyno berthnasol. Mae'r lefel o wybodaeth sydd ei hangen yr un fath ag ar gyfer datganiadau llafar, a nodir ym mharagraffau 151-153 uchod. Bydd y wybodaeth a ddarperir gan yr Aelod ynghylch y buddiant sy'n cael ei ddatgan yn cael ei chyhoeddi yn y lle priodol ar wefan y Senedd.

Y prawf 'perthnasedd'

157. Mae'r prawf perthnasedd yn cynnwys dwy ran:

  • A yw'r buddiant yn berthnasol i'r trafodion.
  • A allai eraill yn rhesymol feddwl bod y buddiant yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod[2], h.y. a fyddai'n rhesymol meddwl y byddai geiriau neu weithredoedd yr Aelod wedi bod yn wahanol oni bai am fodolaeth y buddiant.

158. Yn y pen draw, mater i'r Aelodau yw penderfynu a yw'r profion hyn yn cael eu bodloni ai peidio ym mhob amgylchiad penodol. Ym mhob achos, mae’n hanfodol bod Aelodau’n ystyried y rhyngweithio rhwng y buddiant a’r cyfraniad o safbwynt eraill, yn hytrach nag a yw’r Aelodau eu hunain o’r farn bod y buddiant wedi dylanwadu ar eu cyfraniad.

159. Mae’r ffactorau a all ddylanwadu ar a yw'n rhesymol i eraill feddwl bod y buddiant wedi dylanwadu ar y cyfraniad yn cynnwys:

(i) natur y buddiant a pha mor gyffredin ydyw. Er enghraifft, nid oes angen datgan os yw'r buddiant yn gyffredin i bob Aelod, (e.e. buddiant fel cyflog Aelod neu fod yn gyflogwr staff cymorth) neu os yw'r buddiant yn gyffredin i gategori eang iawn o bobl y mae'r Aelod yn perthyn iddynt (e.e. trethdalwyr, rhieni, defnyddwyr y GIG);

(ii) y swyddogaeth y mae'r Aelod yn cymryd rhan ynddi ar y pryd (e.e. fel Aelod unigol, Gweinidog, Cadeirydd Pwyllgor, Comisiynydd neu ddeiliad swydd arall);

(iii) y cyd-destun y mae eu cyfraniad yn cael ei wneud ynddo, e.e. a yw'r Aelod yn codi'n rhagweithiol fater y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef; a

(iv) natur y cyfraniad a'r ffactorau heblaw'r buddiant a fydd wedi dylanwadu arno, gan gynnwys a ellid ystyried bod y cyfraniad yn hyrwyddo buddiant yr Aelod ar draul, neu er anfantais, i eraill.

160. Mae'r un egwyddorion yn berthnasol i ddatganiadau llafar a datganiadau a wneir wrth gyflwyno busnes. Yng nghyd-destun cyflwyno busnes yn benodol, mae’r ail a’r trydydd o’r ffactorau uchod, gyda'i gilydd, yn golygu y byddai'r prawf yn llai tebygol o gael ei fodloni gan Aelod sy’n cyflwyno'n ffurfiol ar ran eraill yn unswydd yn rhinwedd ei rôl fel deiliad swydd – e.e. Gweinidog yn y Llywodraeth, Cadeirydd ar gyfer eu pwyllgor neu Reolwr Busnes ar gyfer eu grŵp gwleidyddol – na chan Aelod sy’n cyflwyno ar ei ran ei hun a/neu sydd wedi rhoi cychwyn i’r broses o gyflwyno'r busnes dan sylw.

161. Ym mhob achos, cyfrifoldeb yr Aelod yn y pen draw yw penderfynu a oes angen datgan buddiant perthnasol mewn unrhyw amgylchiad penodol, a dylai Aelodau geisio cyngor y Cofrestrydd ymlaen llaw os oes ganddynt unrhyw amheuaeth ynghylch a oes angen datganiad.

8.6 Datgan buddiannau y tu hwnt i drafodion y Senedd

162. Yn unol â Rheol 14 y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd:

“Rhaid i Aelodau fod yn agored ac yn dryloyw gydag Aelodau eraill, swyddogion Comisiwn y Senedd a swyddogion unrhyw gorff neu awdurdod cyhoeddus arall, wrth ddatgelu unrhyw weithgareddau a gyflawnir mewn perthynas ag unigolyn neu sefydliad, neu a gyflawnir ar ran unigolyn neu sefydliad, y mae gan Aelod berthynas â nhw, y byddai'n ofynnol i'r Aelod, o dan y Rheolau Sefydlog, eu cofrestru neu eu datgan yn nhrafodion y Senedd.”

163. Mae'r rheol hon yn ymwneud ag Aelodau sy'n ymgymryd â gweithredoedd y tu allan i drafodion y Senedd. Pan fydd Aelodau'n gohebu neu'n delio ag Aelodau eraill, Gweinidogion, swyddogion Comisiwn y Senedd, Gweision Sifil a swyddogion unrhyw gorff neu awdurdod cyhoeddus arall neu gorfforaethau, yna rhaid iddynt sôn am unrhyw fuddiannau sydd ganddynt sy’n gysylltiedig â'r mater dan sylw.

164. Mae'r rheolau ar gyfer datgan buddiannau perthnasol neu gofrestradwy yn nhrafodion y Senedd wedi'u nodi yn y Rheolau Sefydlog. Fodd bynnag, mae rôl Aelod yn ymestyn y tu hwnt i drafodion y Senedd. Felly mae'r rheol hon yn ei gwneud yn ofynnol bod datganiad yn cael ei wneud pan fydd Aelod yn gwneud unrhyw sylwadau llafar neu ysgrifenedig ac yn gweithredu yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Aelod o'r Senedd mewn mater lle mae ganddo fuddiant personol hefyd.

165. Wrth ystyried a oes angen datganiad, efallai y bydd yr Aelodau am ystyried y gofynion ar gyfer datgan buddiannau a nodir yn y Rheolau Sefydlog ac yn y canllawiau hyn.

166. Ni fyddai'r rheol hon yn cwmpasu materion fel gohebiaeth bersonol, gan nad yw'r rhain yn ymwneud â rôl swyddogol Aelod.

 

[2] Mae ‘cyfraniad’ yn y cyd-destun hwn yn cynnwys siarad, pleidleisio a chyflwyno busnes.

 

Geirfa

Aelodau o'r teulu: Mae aelod o’r teulu yn golygu:

  • partner i'r Aelod;
  • plentyn, ŵyr neu wyres Aelod;
  • rhiant, taid neu nain Aelod;
  • brawd neu chwaer Aelod;
  • nai neu nith Aelod; neu
  • ewythr neu fodryb Aelod;

mae’r ymadroddion “plentyn”, “ŵyr”, “wyres”, “rhiant”, “taid”, “nain”, “brawd”, “chwaer”, “ewythr” a “modryb” yr un mor gymwys i hanner perthnasau, llys-berthnasau, perthnasau maeth a pherthnasau mabwysiadol ac maent yn gymwys hefyd i bersonau sydd â’r berthynas o dan sylw â phartner yr Aelod.

Buddiant cofrestradwy: Y buddiannau a bennir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2.

Buddiant perthnasol: Buddiant y gellid ystyried yn rhesymol gan eraill ei fod yn dylanwadu ar gyfraniad yr Aelod at y ddadl neu’r drafodaeth.

Y Comisiynydd Safonau: Person annibynnol a benodwyd gan y Senedd i ddiogelu safonau, cynnal enw da, ac i fynd i'r afael â phryderon.

Deddf 2006: Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Gorchymyn 2025: Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.

Partner: Ystyr “partner” yw priod, partner sifil neu un o bâr, boed o'r un rhyw neu o'r rhyw arall sy'n byw gyda'i gilydd er nad ydynt yn briod, ac sy'n trin ei gilydd fel priod.

Plentyn Dibynnol: Unrhyw berson sydd, pan gofnodir y buddiant, yn iau nag un ar bymtheg mlwydd oed, neu yn iau na phedair ar bymtheg mlwydd oed ac sy'n derbyn addysg llawn amser mewn sefydliad addysgol cydnabyddedig ac:

  • sy'n blentyn i'r Aelod; neu
  • sy'n llys-blentyn i'r Aelod drwy briodas; neu
  • sy'n blentyn a fabwysiadwyd yn gyfreithlon gan yr Aelod; neu
  • sy'n blentyn y mae'r Aelod yn bwriadu ei fabwysiadu'n gyfreithlon; neu
  • sy'n blentyn y bu'r Aelod yn ei gefnogi yn ariannol am o leiaf y 6 mis calendr blaenorol.

PPERA 2000: Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Y Pwyllgor Cyfrifol: Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar hyn o bryd.

Trafodion y Senedd: Unrhyw drafodion y Senedd, unrhyw bwyllgor o'r Senedd neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath.


Canllawiau i Aelodau o’r Senedd ar gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill