Cwynion

Mae Senedd Cymru wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am ein gwasanaeth.

Ein nod yw egluro unrhyw faterion nad ydych yn siŵr yn eu cylch. Os yn bosibl, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau yr ydym efallai wedi'u gwneud. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae gennych hawl i'w gael ac rydym wedi methu â'i ddarparu. Os byddai rhywbeth o'i le arnom, byddwn yn ymddiheuro ac, os oes modd, byddwn yn ceisio unioni'r sefyllfa. Rydym hefyd yn anelu at ddysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth a gawn i wella ein gwasanaethau.

Mae'r wybodaeth isod yn esbonio'r gwahanol ffyrdd y gallwch wneud cwyn a sut y gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein gweithdrefn gwyno.

Cwynion am ymddygiad

Cwynion am ein gwasanaethau​