Yn Senedd Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddarparu diwylliant cynhwysol heb achosion o aflonyddu.
Rydym yn disgwyl i'r rhai sy'n gweithio gydag Aelodau o'r Senedd, neu sy'n dod i gysylltiad â hwy, y staff y maent yn eu cyflogi neu gyflogeion Comisiwn y Senedd, gael eu trin ag urddas a pharch.
Yn dilyn y datganiadau a wnaed gan y Llywydd, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ac arweinwyr grwpiau'r pleidiau ym mis Tachwedd 2017 a mis Chwefror 2018, gwnaethom gymeradwyo ein polisi Urddas a Pharch ar 16 Mai 2018.
Gwneud cwyn
Os hoffech wneud cwyn o dan y polisi Urddas a Pharch, mae'r wybodaeth isod yn egluro'r opsiynau sydd ar gael i chi, gan ddibynnu ar bwy ydych chi a phwy rydych yn cwyno amdano:
- Nid wy'n cael fy nghyflogi gan y Senedd nac Aelod o'r Senedd;
- Rwy'n Aelod o'r Senedd;
- Rwy'n aelod o staff a gyflogir gan Aelod o'r Senedd / plaid wleidyddol;
- Rwy'n aelod o staff a gyflogir gan Gomisiwn y Senedd.
Trafodwch eich pryderon â ni
Os nad ydych yn barod i wneud cwyn ar hyn o bryd, ond hoffech drafod eich pryderon, neu os nad ydych yn sicr sut i wneud cwyn, cysylltwch ag un o'n Swyddogion Cyswllt yn gyfrinachol. Mae manylion am rôl ein Swyddogion Cyswllt yn ein dogfen ganllaw Urddas a Pharch uchod, ynghyd â'u manylion cyswllt. Gallwch siarad ag un ohonynt drwy ffonio ein rhif rhadffôn, sef 0800 020 9550.
Rydym yn deall ei bod yn debygol y bydd angen cefnogaeth emosiynol ar unrhyw un sy'n gwneud cwyn o dan ein gweithdrefnau, neu'r rhai y gwnaed honiadau yn eu herbyn. Rhoddir opsiynau yn y wybodaeth isod. Os ydych yn cysylltu â'n Swyddogion Cyswllt, byddant hefyd yn gallu trafod y rhain â chi.