Y cymorth sydd ar gael i chi: gwneud cwyn neu roi gwybod am ddigwyddiad

Cyhoeddwyd 03/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2020   |   Amser darllen munudau

Gall gwneud cwyn neu roi gwybod am ddigwyddiad fod yn anodd yn emosiynol a bod gofyn dewrder i’w wneud. Mae canllaw isod i’ch cynorthwyo a’ch cefnogi os byddwch byth yn y sefyllfa hon. Rydym yn eich annog i siarad â rhywun.

I unrhyw un sy’n gwneud cwyn neu’n rhoi gwybod am ddigwyddiad:

Os ydych yn teimlo y byddai’n gwneud lles i chi gael cymorth gan ymarferydd meddygol, cysylltwch â’ch meddyg teulu.

Efallai y byddwch yn teimlo bod angen cymorth wyneb yn wyneb arnoch i’ch helpu’n emosiynol yn ystod ymchwiliad i gŵyn. Gallwch drafod hyn gyda ni y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni er mwyn i ni wneud trefniadau.

Os nad ydych yn gweithio yn y Senedd, gallwch hefyd drafod y mater neu ofyn am gymorth gan y canlynol:

  • eich rhaglen cymorth i weithwyr;
  • cynrychiolydd yr undeb llafur;
  • rheolwr, cydweithiwr neu’ch adran Adnoddau Dynol chi.

Os ydych yn gweithio yn Senedd Cymru

Mae’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr, ar 0800 174 319 ar gael i Aelodau o’r Senedd, staff a gyflogir gan Aelodau o’r Senedd a’r Grwpiau Gwleidyddol a staff Comisiwn y Senedd. Bydd cynghorwyr hyfforddedig yn rhoi cymorth ac arweiniad emosiynol i chi. 

Gallwch gysylltu â Nyrs Iechyd Galwedigaethol y Senedd drwy’r tîm Cymorth Busnes i Aelodau neu ein hadran Adnoddau Dynol.

Cymorth arall sydd ar gael:

Staff a gyflogir gan Gomisiwn y Senedd:

Eich adran Adnoddau Dynol; cynrychiolydd yr undeb llafur; cydweithiwr neu reolwr.
Staff a gyflogir gan Aelodau o’r Senedd neu’r Grwpiau Gwleidyddol;
Cymorth Busnes i’r Aelodau; eich cyflogwr, cydweithiwr neu reolwr; cynrychiolydd yr undeb llafur; eich Rheolwr Busnes neu’ch plaid wleidyddol.

Aelodau o’r Senedd:

Cymorth Busnes i’r Aelodau; eich Rheolwr Busnes neu’ch plaid wleidyddol; cynrychiolydd yr undeb llafur; cydweithiwr.

Cymorth pellach

Mae’r Samariaid ar gael i’ch helpu os ydych chi’n teimlo iselder, yn teimlo bod pethau’n mynd yn ormod neu’n cael teimladau negyddol. Nid ydynt yn helpu gyda theimladau o hunanladdiad yn unig, ond os ydych chi’n cael y teimladau hyn rydym yn eich argymell yn gryf i gysylltu â nhw ar unwaith. Y rhif ffôn yw 116 123 ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.