Welsh Parliament Dignity and Respect Policy - Accompanying Guidance on inappropriate behaviour

Cyhoeddwyd 08/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/12/2023   |   Amser darllen munudau

Cwyno

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol yn ymwneud ag urddas a pharch, mae ein gwefan yn egluro'r opsiynau sydd ar gael i chi, gan ddibynnu ar bwy rydych yn cwyno amdano.

 

Gweithdrefnau cwyno

Fel y mae’r polisi Urddas a Pharch yn egluro, mae sawl ffordd o wneud cwyn, yn dibynnu am bwy rydych chi’n cwyno. Mae'r polisi'n cyfeirio at gynnal ymchwiliadau ac mae'r canllawiau hyn yn ceisio egluro sut y caiff y rhain eu cynnal: 

  • Comisiynydd Safonau annibynnol y Senedd sy’n ymchwilio i gwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd, a hynny o dan y Cod Ymddygiad. 
  • Cynhelir ymchwiliadau i gwynion yn erbyn staff a gyflogir gan Aelodau o’r Senedd o dan weithdrefnau Cwyno sefydledig. Cytunir ar y gweithdrefnau hyn gan y Bwrdd Taliadau, ond fe'u hadolygir mewn partneriaeth â'r undebau llafur perthnasol. -
  • Cynhelir ymchwiliadau i gwynion yn erbyn staff Comisiwn y Senedd o dan weithdrefnau Cwyno sefydledig a gytunir mewn partneriaeth ag Ochr yr Undebau Llafur. 

Swyddogion Cyswllt

Rydym yn cydnabod na fydd pawb sy’n dod ymlaen am ddefnyddio gweithdrefn gwyno ffurfiol o’r cychwyn - ac weithiau ddim o gwbl. Os hoffech drafod eich pryderon neu gŵyn bosibl, gallwch siarad â’n Swyddogion Cyswllt hyfforddedig. Maent yn gallu cynnig gwybodaeth a chefnogaeth yn gyfrinachol. 

Ni fydd Swyddogion Cyswllt yn chwarae rhan weithredol mewn cwyn. Fodd bynnag, byddant yn gallu: 

  • trafod eich pryderon gyda chi; 
  • rhoi cyngor i chi ar y ffordd briodol o wneud cwyn os mai dyna yr ydych am ei wneud, ac am yr hyn y gellir ei ddisgwyl os ydych yn gwneud cwyn ffurfiol; 
  • Esbonio sut y caiff ymchwiliad ei gynnal; 
  • Rhoi cyngor i chi ar sut i gael unrhyw gymorth emosiynol y bydd ei angen arnoch - ni waeth a ydych chi'n gweithio yn y Senedd ai peidio. 

Mae’n ofynnol i Swyddogion Cyswllt lynu wrth yr hyn a nodir yn adran gyfrinachedd y polisi Urddas a Pharch. 

Ni fydd Swyddogion Cyswllt yn cofnodi nac yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac ni fyddant yn datgelu eich enw, na dim byd a allai ddatgelu pwy ydych chi, i neb heb eich caniatâd. Os byddwch yn cysylltu â’n Swyddogion Cyswllt yn ysgrifenedig, dim ond hyd nes yr ymdrinnir â’ch ymholiad y cedwir y wybodaeth hon, ac yna bydd yn cael ei gwaredu’n ddiogel.

Bydd yn ofynnol i Swyddogion Cyswllt fonitro patrymau ymddygiad amhriodol y tynnir eu sylw atynt a byddant yn hysbysu Pennaeth Adnoddau Dynol y Senedd ynghylch y rhain heb ddatgelu eich enw na dim byd a allai ddatgelu pwy ydych. Pan fo patrymau ymddygiad amhriodol yn ymwneud ag Aelodau unigol o’r Senedd neu grwpiau gwleidyddol, aelodau o staff neu dimau, bydd y Pennaeth Adnoddau Dynol yn ystyried y materion ac yn rhoi gwybod amdanynt yn y modd priodol. Bydd y Pennaeth Adnoddau Dynol yn ymdrin â’r wybodaeth a geir gan Swyddogion Cyswllt yn unol â deddfwriaeth diogelu data ac amserlen yr adran Adnoddau Dynol o ran cadw gwybodaeth. 

Os hoffech gysylltu ag un o’n Swyddogion Cyswllt, gallwch naill ai anfon e-bost atynt ar urddasapharch@senedd.cymru neu gysylltu drwy linell ffôn y Swyddogion Cyswllt ar 0300 200 6145 (os nad oes neb yn ateb eich galwad, gadewch neges llais a bydd rhywun yn eich ffonio'n ôl).

Atebir y llinellau ffôn rhwng 09.00 a 16.30, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond gallwch anfon neges e-bost unrhyw bryd. Os byddwch yn ffonio un o’n Swyddogion Cyswllt mae’n bosibl y bydd rhaid iddynt eich ffonio yn ôl fel y gellir trafod y mater yn breifat. Mae Bethan yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. 

Pryderon ynghylch hysbysu eich rheolwr, eich cyflogwr neu'ch plaid wleidyddol

Pan fydd unigolyn yn ystyried rhoi gwybod am bryderon sy’n ymwneud â’i reolwr, ei gyflogwr neu ei blaid wleidyddol, rydym yn cydnabod y gall hynny achosi gwrthdaro. Gallai'r pryderon ymwneud â chydnabod y gallai fod effaith ar enw da i'r Senedd, ar unigolyn sy'n gwneud cwyn neu y gwneir cwyn amdano, neu ar blaid wleidyddol. Fodd bynnag, fe’ch anogwn i drafod eich pryderon yn gyfrinachol gydag un o'n Swyddogion Cyswllt. 

Mathau o ymddygiad amhriodol

Mae Polisi Urddas a Pharch y Senedd yn ei gwneud yn glir bod ymddygiad amhriodol, a fyddai’n torri’r polisi, yn golygu unrhyw ymddygiad sy’n effeithio’n andwyol ar urddas rhywun arall. Mae’n cwmpasu’r holl ystod o ymddygiad nad yw’n ddymunol – hynny yw, ymddygiad nad yw’n cael ei annog na’i dderbyn gan y dioddefwr, ni waeth a fwriadwyd iddo beri tramgwydd, ac ni waeth a yw’n digwydd mwy nag unwaith neu a yw’n ddigwyddiad unigol. 

Yn y canllawiau hyn, rydym yn disgrifio rhai mathau penodol o ymddygiad amhriodol a fyddai’n torri amodau’r polisi. Os bydd ymchwiliad yn canfod bod y mathau o ymddygiad wedi digwydd, byddant, yn gyffredinol, hefyd yn cael eu cosbi drwy sancsiynau disgyblu, megis rhybuddion neu hyd yn oed ddiswyddo, a/neu'r gyfraith droseddol. Ond mae'n bwysig cofio mai enghreifftiau yn unig yw'r rhain – bydd unrhyw ymddygiad sy'n effeithio ar urddas person arall yn torri'r polisi. 

Ymddygiad sy’n gwahaniaethu: Ymddygiad sy’n effeithio’n andwyol ar urddas rhywun fod yn seiliedig ar oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (neu ei ddiffyg), hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, cysylltiad â lleiafrif, iaith, anabledd neu gyflwr meddygol, crefydd neu gred neu ddiffyg hynny, aelodaeth o undeb llafur neu ddiffyg hynny, amgylchiadau domestig, eiddo, genedigaeth neu nodwedd bersonol arall yr unigolyn. Pan fo hynny’n digwydd, bydd yr ymddygiad hwnnw'n amhriodol ac felly'n torri amodau'r polisi hwn. 

Mewn llawer o achosion, bydd hefyd yn gyfystyr â gwahaniaethu neu aflonyddu anghyfreithlon yn groes i ddeddfwriaeth Cydraddoldeb (sy’n rhoi amddiffyniad cyfreithiol i lawer o’r nodweddion a restrir uchod). Gall hynny arwain at ganlyniadau disgyblu neu atebolrwydd cyfreithiol. 

Gall un weithred o ymddygiad amhriodol yn seiliedig ar lawer o'r nodweddion a restrir fod yn gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon. Gall un weithred hefyd fod yn ddigon i fod yn gyfystyr ag aflonyddu yn groes i ddeddfwriaeth Cydraddoldeb. Ac, fel arfer, bydd un weithred yn torri amodau'r polisi. 

Ymddygiad rhywiol amhriodol: Mae math arbennig o ymddygiad amhriodol yn digwydd pan fydd rhywun yn ymgymryd ag ymddygiad digroeso o natur rywiol tuag at rywun arall. Mae’r math hwn o ymddygiad yn amhriodol ac yn groes i’r polisi, a gall hefyd fod yn gyfystyr â gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu rhywiol yn groes i ddeddfwriaeth Cydraddoldeb, neu droseddau o ymosodiad cyffredin neu ymosodiad rhywiol. Felly, gall arwain at ganlyniadau disgyblu, a/neu gall arwain at atebolrwydd sifil a throseddol. 

Gall ymddygiad 'o natur rywiol' olygu ymddygiad llafar, ymddygiad nad yw'n llafar, neu ymddygiad corfforol, gan gynnwys, er enghraifft, awgrymiadau rhywiol annerbyniol, sefyll yn rhy agos, jôcs rhywiol, arddangos ffotograffau neu luniau pornograffig, gofyn am ffafrau rhywiol, gwneud penderfyniadau ar sail ffafrau rhywiol yn cael eu derbyn neu eu gwrthod, neu anfon negeseuon e-bost gyda deunydd o natur rywiol, yn ogystal â chyffwrdd a thrais a gymhellir yn rhywiol. 

Aflonyddu troseddol: Gall ymddygiad digroeso fod yn gyfystyr ag aflonyddu troseddol (yn ogystal â thorri amodau’r polisi) os gwneir rhywbeth i’r un person fwy nag unwaith.  (Os gwneir rhywbeth i un person unwaith yn unig, ond fe'i gwneir hefyd i berson arall, gall hynny hefyd fod yn gyfystyr ag aflonyddu gan ei fod yn dangos patrwm o ymddygiad). Mae unrhyw ymddygiad sy'n achosi braw neu ofid i'r dioddefwr, ac y byddai rhywun rhesymol yn ystyried ei fod yn debygol o gael yr effaith honno, yn gyfystyr ag aflonyddu. 

Bwlio: Byddai bwlio person arall yn ymddygiad amhriodol yn groes i’r polisi. O ran "bwlio", rydym yn golygu ymddygiad annerbyniol parhaus (neu un weithred annerbyniol ddybryd), y mae’r unigolyn sy'n ei brofi yn ystyried ei fod yn dramgwyddus, yn gam-drin, yn fygythiol, yn faleisus, yn sarhaus neu'n ymwneud â chamddefnyddio pŵer. Gall orgyffwrdd â mathau eraill o ymddygiad amhriodol, pa un a gânt eu disgrifio yn y polisi neu'r canllawiau hyn ai peidio, a gall rhai ohonynt gynnwys atebolrwydd troseddol neu atebolrwydd o ran y gyfraith sifil. Gall bwlio hefyd arwain at ganlyniadau cyfraith cyflogaeth, boed yn fwlio rhwng gweithwyr neu gan gyflogwyr tuag at gyflogeion.

Fel arfer, bydd bwlio yn digwydd dros gyfnod. Mae fel arfer yn fwy na bod yn ddig neu ddadlau yn achlysurol. Fodd bynnag, fel y nodir uchod, gall un weithred fod gyfystyr â bwlio, os yw'n ddigon difrifol. 

Mae bwlio cudd hefyd yn ymddygiad amhriodol. Gall gweithredoedd bwlio cudd gynnwys, er enghraifft:

  • tanbrisio ymdrechion rhywun yn gyson; 
  • allgáu rhywun; 
  • gwneud bywyd rhywun yn anodd, e.e. peidio â rhannu gwybodaeth bwysig, gwrthod hyfforddiant, neu ddyrannu gwaith iselradd neu amhriodol yn barhaus, neu bennu baich gwaith neu amserlenni afresymol. 

Amwysedd o ran rheoli priodol ac ymddygiad amhriodol

Yng nghyd-destun cyflogaeth, gall fod amwysedd rhwng rhai mathau o ymddygiad amhriodol a chamau rheoli dilys. Er enghraifft, nid oes neb yn hoffi beirniadaeth o'u perfformiad yn y gwaith rhyw lawer, ac felly byddai beirniadaeth o'r fath yn “ddigroeso”. Fodd bynnag, mae’n hollol briodol i gyflogwyr a rheolwyr llinell weithredu i ymdrin â materion yn ymwneud ag ymddygiad, perfformiad, presenoldeb neu faterion cyflogaeth eraill ymhlith eu staff - ar yr amod eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n cyd-fynd â chyfraith gyflogaeth a’r polisïau sefydliadol perthnasol, a’u bod yn ceisio parchu urddas yr aelod o staff wrth fynd i’r afael ag unrhyw broblemau yn effeithiol.