Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn Aelod o'r Senedd
Dewiswch opsiwn A neu B ond nid y ddau.
A. Adrodd i Gomisiynydd Safonau'r Senedd
neu
B.Cysylltu â gweithdrefnau'r blaid wleidyddol ei hun os yw hynny'n well gennych
Wrth ddilyn llwybr A:
Gellir trafod cyhuddiadau gyda'r Comisiynydd Safonau yn breifat a chyfrinachol. Fodd bynnag, os bydd y Comisiynydd yn ymchwilio, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.
Os yw'r Comisiynydd Safonau yn credu bod digon o sylwedd i gyfiawnhau ymchwiliad pellach, caiff eich cwyn ei hymchwilio'n llawn a chyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Cewch wybod beth sy'n digwydd, a gellir eich gwarchod rhag i'ch enw gael ei gyhoeddi.
Wrth ddilyn llwybr B:
Ar unrhyw adeg, gallwch newid eich meddwl ac adrodd eich cwyn i'r Comisiynydd Safonau. Efallai y bydd angen i chi ddilyn rhai gweithdrefnau ychwanegol o ganlyniad i newid llwybr eich cwyn.
Bydd pleidiau gwleidyddol yn dilyn eu gweithdrefnau eu hunain.

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn staff a gaiff eu cyflogi gan Aelodau o'r Senedd neu Grwpiau Gwleidyddol
Dewiswch opsiwn A neu B ond nid y ddau.
A. Adrodd i Dîm Cymorth Busnes yr Aelodau a fydd yn codi hyn gyda'r Aelod sy'n cyflogi
Gellir trafod cyhuddiadau gyda'r tîm yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad o gan y gweithdrefnau cwyno a fydd yn golygu cynnwys yr Aelod o'r Senedd sy'n cyflogi. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, gall gweithdrefnau disgyblu ddilyn. Byddwch yn cael gwybod beth sy'n digwydd drwy gydol y broses.
neu
B.Cysylltu â gweithdrefnau'r blaid wleidyddol ei hun os yw hynny'n well gennych
Efallai y bydd y blaid wleidyddol am gyfeirio'r cyhuddiad i'r tîm Cymorth Busnes yr Aelodau, dim ond gyda'ch caniatâd y dylai wneud hynny.
Bydd pleidiau gwleidyddol yn dilyn eu gweithdrefnau eu hunain

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn staff a gaiff eu cyflogi gan Gomisiwn y Senedd
Adrodd i Adran Adnoddau Dynol y Senedd neu'r Prif Weithredwr a Chlerc.
Gellir trafod cyhuddiadau yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad o dan y gweithdrefnau cwyno. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, gall gweithdrefnau disgyblu ddilyn.

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn contractwyr neu gynghorwyr allanol sy'n darparu gwasanaethau i'r Senedd
Adrodd i'ch cyflogwr neu Dîm Cymorth Busnes yr Aelodau
Gellir trafod cyhuddiadau yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, efallai y gofynnir i'r unigolyn dan sylw beidio â gwneud gwaith pellach ar ein rhan.