Dewiswch opsiwn A neu Bond nid y ddau.
A Adrodd i Gomisiynydd Safonau'r Senedd.
Gellir trafod cyhuddiadau gyda'r Comisiynydd Safonau yn breifat a chyfrinachol. Fodd bynnag, os bydd y Comisiynydd yn ymchwilio, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.
Os yw'r Comisiynydd Safonau yn credu bod digon o sylwedd i gyfiawnhau ymchwiliad pellach, caiff eich cwyn ei ymchwilio'n llawn a chyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Cewch wybod beth sy'n digwydd, a gellir eich gwarchod rhag i'ch enw gael ei gyhoeddi.
neu
B. Cysylltu â gweithdrefnau'r blaid wleidyddol ei hun os yw hynny'n well gennych.
Ar unrhyw adeg, gallwch newid eich meddwl ac adrodd eich cwyn i'r Comisiynydd Safonau. Efallai y bydd angen i chi ddilyn rhai gweithdrefnau ychwanegol o ganlyniad i newid llwybr eich cwyn.
Bydd pleidiau gwleidyddol yn dilyn eu gweithdrefnau eu hunain.
Dewiswch opsiwn A neu B ond nid y ddau..
A. Adrodd i Dîm Cymorth Busnes yr Aelodau a fydd yn codi hyn gyda'r Aelod sy'n cyflogi.
Gellir trafod cyhuddiadau gyda'r tîm yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad a fydd yn golygu cynnwys yr Aelod o'r Senedd sy'n cyflogi. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, gall gweithdrefnau disgyblu ddilyn.
neu
B.Cysylltu â gweithdrefnau'r blaid wleidyddol ei hun os yw hynny'n well gennych.
Efallai y bydd y blaid wleidyddol am gyfeirio'r cyhuddiad i'r tîm Cymorth Busnes yr Aelodau, dim ond gyda'ch caniatâd y dylai wneud hynny.
Bydd pleidiau gwleidyddol yn dilyn eu gweithdrefnau eu hunain
Adrodd i Adran Adnoddau Dynol y Senedd neu'r Prif Weithredwr a Chlerc.
Gellir trafod cyhuddiadau yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, gall gweithdrefnau disgyblu ddilyn.
Adrodd i'r Pennaeth Caffael neu'r Prif Weithredwr a Chlerc.
Gellir trafod cyhuddiadau yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, efallai y gofynnir i'r unigolyn dan sylw beidio â gwneud gwaith pellach ar ein rhan.