Gwneud cwyn os mai aelod o staff a gyflogir gan Gomisiwn y Senedd ydych chi

Cyhoeddwyd 12/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/11/2020   |   Amser darllen munudau

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn Aelod o'r Senedd

Dewiswch opsiwn A, B neu C, - ond dim ond un

A. Adrodd yn uniongyrchol i'r i'r Comisiynydd Safonau
neu
B. Adrodd i'r Adran Adnoddau Dynol neu'r Prif Weithredwr a Chlerc. Caiff cwynion eu cyfeirio i'r Comisiynydd Safonau a fydd wedyn yn dilyn trywydd A.
neu
C. Cysylltu â gweithdrefnau'r blaid wleidyddol ei hun os yw hynny'n well gennych

Wrth ddilyn llwybr A:
Gellir trafod cyhuddiadau gyda'r Comisiynydd Safonau yn breifat a chyfrinachol. Fodd bynnag, os bydd y Comisiynydd yn ymchwilio, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.

Os yw'r Comisiynydd Safonau yn credu bod digon o sylwedd i gyfiawnhau ymchwiliad pellach, caiff eich cwyn ei hymchwilio'n llawn a chyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Cewch wybod beth sy'n digwydd, a gellir eich gwarchod rhag i'ch enw gael ei gyhoeddi.

Wrth ddilyn llwybr C:
Ar unrhyw adeg, gallwch newid eich meddwl a chyflwyno eich cwyn i'r Comisiynydd Safonau. Efallai y bydd angen i chi ddilyn rhai gweithdrefnau ychwanegol o ganlyniad i newid llwybr eich cwyn.

Bydd pleidiau gwleidyddol yn dilyn eu gweithdrefnau eu hunain

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn staff a gaiff eu cyflogi gan Aelodau o'r Senedd neu Grwpiau Gwleidyddol

Dewiswch opsiwn A neu B ond nid y ddau..

A. Adrodd i'r Adran Adnoddau Dynol neu'r Prif Weithredwr a Chlerc. Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefnau cwyno Comisiwn y Senedd. Caiff hyn ei gyfeirio hefyd at dîm Cymorth Busnes yr Aelodau a fydd yn codi hyn gyda'r Aelod sy'n Cyflogi.

Gellir trafod cyhuddiadau gyda'r tîm Adnoddau Dynol yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad o dan weithdrefnau cwyno'r Comisiwn. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.

Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, gall gweithdrefnau disgyblu ddilyn.

 neu

B. Cysylltu â gweithdrefnau'r blaid wleidyddol ei hun os yw hynny'n well gennych

Efallai y bydd y blaid wleidyddol am gyfeirio'r cyhuddiad i'r tîm Cymorth Busnes yr Aelodau, dim ond gyda'ch caniatâd y dylai wneud hynny.

Bydd pleidiau gwleidyddol yn dilyn eu gweithdrefnau eu hunain

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn staff a gaiff eu cyflogi gan Gomisiwn y Senedd

Adrodd i Adran Adnoddau Dynol y Senedd neu'r Prif Weithredwr a Chlerc.

Gellir trafod cyhuddiadau yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad o dan y gweithdrefnau cwyno. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.

Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, gall gweithdrefnau disgyblu ddilyn.

Adrodd am gyhuddiadau neu wneud cwynion yn erbyn contractwyr neu gynghorwyr allanol sy'n darparu gwasanaethau i'r Senedd

Adrodd i'r adran Adnoddau Dynol, y Pennaeth Caffael neu'r Prif Weithredwr a Chlerc.

Gellir trafod cyhuddiadau yn gyfrinachol a chynhelir ymchwiliad. Ar y cam hwnnw, bydd - yn y rhan fwyaf o achosion - yn angenrheidiol i'r person rydych yn cwyno amdano wybod pwy ydych er mwyn i'r broses fod yn deg.

Yn dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad, efallai y gofynnir i'r unigolyn dan sylw beidio â gwneud gwaith pellach ar ein rhan.