Urddas a Pharch – datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf 16 Chwefror 2018

Cyhoeddwyd 16/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/02/2018

Yn dilyn ein datganiad ar y cyd ar 15 Tachwedd, mae nifer o fesurau wedi’u cymryd gyda'r nod o sicrhau bod y Cynulliad yn sefydliad cynhwysol sy’n rhydd o ymddygiad bygythiol ac aflonyddwch. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau hynny ac yn nodi ein cynllun ar gyfer cwblhau camau nesaf y gwaith hwn cyn toriad y Pasg.

Rydym yn ymrwymedig o hyd i sicrhau nad oes lle i ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym am i bawb sy'n gweithio yma a'r rhai sy'n ymweld â ni, boed hynny mewn swyddfa etholaeth, neuadd bentref neu'r Senedd, deimlo'n ddiogel ac yn rhydd o bob math o aflonyddwch. 

Disgwyliwn i bawb sy'n gweithio yma, Aelodau'r Cynulliad, staff y Comisiwn, staff cymorth Aelodau'r Cynulliad a'n contractwyr, ddangos yr un safonau uchel. 


Yr hyn a gyflawnwyd


Polisi Urddas a Pharch newydd

Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu polisi Urddas a Pharch a fydd yn datgan yn glir ein disgwyliadau o ran ymddygiad personol ac yn nodi'n glir beth yw'r prosesau cwyno, fel bod pawb, pwy bynnag ydynt, yn gwybod sut a ble i drafod unrhyw faterion neu bryderon. Mae Comisiwn y Cynulliad, y Bwrdd Taliadau a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad oll wedi rhoi sylwadau ar y polisi drafft ac rydym ar fin ymgynghori'n ffurfiol â'r undebau llafur, Aelodau'r Cynulliad a'r staff a gyflogir ganddynt. 


Gwasanaeth atgyfeirio cyfrinachol

Sefydlwyd llinell ffôn (0800 020 9550) a blwch post cyfrinachol (UrddasaPharch@Cynulliad.Cymru), a reolir yn ystod oriau swyddfa gan weithwyr proffesiynol o'r adran Adnoddau Dynol, er mwyn helpu unrhyw un sy'n ystyried a ddylent ddilyn y broses o wneud cwyn. Ein nod yw annog staff, ymwelwyr ac unrhyw un i gysylltu â ni os byddant wedi dioddef ymddygiad nad ydynt yn gyfforddus ag ef, neu os ydynt yn dioddef ymddygiad o'r fath ar hyn o bryd. Mae'r gwasanaeth wedi cael ei hyrwyddo drwy sianeli cyfathrebu mewnol ac ar bosteri sydd ar gael ym mhob rhan o ystâd y Cynulliad, gan ategu ein hymrwymiad i ddarparu lle diogel i weithio ynddo ac ymweld ag ef. 


Tudalen gwynion ar y wefan

Rydym wedi gwneud newidiadau dros dro i'r ffordd y cyflwynir gwybodaeth ar ein gwefan am ein gweithdrefnau cwyno, i'w gwneud yn gliriach ac yn fwy hygyrch. Byddwn yn gwneud gwelliannau pellach unwaith y bydd y Cynulliad wedi cymeradwyo'r polisi Urddas a Pharch. Mae ein tudalen gwynion bresennol ar gael yma.


Pleidiau gwleidyddol

Yn dilyn ein datganiad ar 15 Tachwedd, mae'r Llywydd wedi gofyn i'r Comisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans, adolygu sut y gellir sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau'r pleidiau gwleidyddol yn cyd-fynd â'r polisi Urddas a Pharch arfaethedig. Mae'r Comisiynydd wedi cynnal cyfarfodydd cychwynnol gyda grwpiau'r pleidiau er mwyn adolygu eu polisïau, ac mae'n bwriadu rhoi adborth i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad maes o law.


Ymchwiliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, “Creu’r Diwylliant Cywir: Adolygiad o God Ymddygiad Aelodau’r Cynulliad”

Mae ymchwiliad y Pwyllgor yn ystyried y gweithdrefnau presennol ynghylch cwynion yn erbyn Aelodau Cynulliad er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ac yn glir fel bod unigolion yn teimlo y gallant sôn yn hyderus am unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad amhriodol.

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn ystyried:

  • Sut y gellid symleiddio'r weithdrefn gwyno?
  •  A yw'r canllawiau'n glir? A yw'r iaith a ddefnyddir yn syml i'w deall?
  • A yw'r ddogfen yn eich helpu i ddeall pwy y dylech gysylltu â hwy ynghylch gwahanol fathau o gwynion?

Pe byddech yn dioddef ymddygiad amhriodol, a fyddech yn teimlo'n hyderus yn defnyddio'r weithdrefn fel y mae ar hyn o bryd?

Lansiwyd yr ymchwiliad ar 11 Rhagfyr 2017 a bwriedir iddo gael ei gwblhau erbyn mis Mai 2018.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn adolygu'r cosbau sydd ar gael er mwyn sicrhau bod unrhyw achosion o ymddygiad amhriodol yn cael eu trin yn briodol.

Hyfforddiant

Mae rhaglen o hyfforddiant ymwybyddiaeth aflonyddwch yn cael ei chyflwyno. Nid rhaglen untro fydd hon: bydd yn rhan gyson ac annatod o'n rhaglen datblygu proffesiynol parhaus ar gyfer Aelodau a'u staff. Mae pob un o arweinwyr grwpiau'r Cynulliad wedi cytuno i annog eu haelodau i gyflawni'r hyfforddiant hwn. Bydd yr hyfforddiant hwn yn ategu'r trefniadau presennol ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad.

Camau nesaf

Cyn y Pasg, rydym yn bwriadu cyflwyno cynnig trawsbleidiol yn y Cyfarfod Llawn fel bod y polisi newydd, cliriach hwn yn cael ei gymeradwyo'n ffurfiol, ac er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn benodol â'r Cod Ymddygiad i Aelodau. Fel y soniwyd yn flaenorol, bydd hyn yn rhoi’r polisi cyffredinol ar gyfer Urddas a Pharch ar waith i nodi’n glir ein disgwyliadau ynghylch ymddygiad personol ein Haelodau etholedig, staff y Comisiwn a staff cymorth Aelodau’r Cynulliad. Bydd y gwaith arall y sonnir amdano yn y datganiad hwn yn llifo o hyn unwaith y caiff ei gymeradwyo gan y Cynulliad.

Byddwn yn gofyn i'r Bwrdd Taliadau adolygu polisïau a gweithdrefnau eraill ar gyfer staff a gyflogir gan Aelodau er mwyn sicrhau eu bod yn ategu'r polisi Urddas a Pharch newydd. Mae polisïau Comisiwn y Cynulliad hefyd yn cael eu hadolygu am yr un rhesymau. 

Eich barn

Rydym am ddiolch i bawb sydd wedi rhoi eu barn dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi gwneud ein gorau i'w hadlewyrchu yn y camau a gymerwyd hyd yn hyn, neu yn ein cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf. Yn benodol, rydym wedi bod yn adolygu'r cymorth ymarferol ac emosiynol a ddarperir i bawb sy'n rhan o'r broses gwyno. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhoi trefniant ffurfiol ar waith er mwyn sicrhau, yn ogystal â chyfeirio unigolion at y cyngor gweithdrefnol priodol, bod cymorth wyneb yn wyneb ar gael yn barhaus hefyd. 

Yn y cyd-destun hwnnw, rydym yn awyddus i wybod a ydym yn creu'r awyrgylch cywir i alluogi pobl i drafod cwynion am ymddygiad a byddai'n dda gennym glywed eich safbwyntiau fel y gall y Pwyllgor Safonau Ymddygiad eu hystyried yn ei drafodaethau. Bydd y Pwyllgor yn ystyried barn rhanddeiliaid allweddol mewn grŵp trafod ar 27 Chwefror. 

Fodd bynnag, bydd safbwyntiau defnyddwyr yn bwysig cyn i'r Pwyllgor gwblhau ei ymchwiliad. Os ydych yn teimlo bod yna rwystrau penodol sy'n atal pobl rhag gwneud cwynion, gofynnwn i chi roi gwybod i'r Pwyllgor SeneddSafonau@Cynulliad.Cymru. 


Ein Hymrwymiad

Ein bwriad yw parhau i adeiladu ar y fframwaith sydd gennym ar waith er mwyn creu'r diwylliant cywir a sicrhau bod y polisïau, y gweithdrefnau a'r cymorth priodol ar gael yn hawdd i unrhyw un sydd am drafod ei bryderon. Mae'r datganiad hwn a'r gwaith a wnaed hyd yma yn dangos ein hymrwymiad i barhau i gydweithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni ein nodau. Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud er mwyn sicrhau bod y Cynulliad yn lle sy’n rhydd o aflonyddwch. 

Bydd gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn dod i ben yn ddiweddarach yn y gwanwyn ac rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wnaed gan unigolion hyd yn hyn i helpu i lunio datblygiad ein gwelliannau. Felly, rydym yn annog unrhyw un sydd â phrofiad o ddefnyddio ein gwasanaethau i roi adborth i ni fel y gallwn eu gwella'n barhaus.


Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Carwyn Jones AC, Arweinydd Llafur Cymru

Andrew RT Davies AC, Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol

Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru

Neil Hamilton AC, Arweinydd UKIP yng Nghymru

Kirsty Williams AC, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru