Datganiad am ymdrin ag ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 15/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/11/2017

Fel y rheini sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros ymddygiad yr Aelodau a'n pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae’n destun gofid mawr inni y gallai ymddygiad amhriodol Aelodau o'r sefydliad hwn fod wedi effeithio ar unigolion.

Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad eisoes yn gwahardd y math o ymddygiad amhriodol sydd wedi denu sylw'r cyhoedd yn ddiweddar a'n nod yw sicrhau bod pawb - Aelodau'r Cynulliad, staff a'r cyhoedd - yn hollol glir ynghylch hynny.

Fodd bynnag, rydym yn mynd i weithio gyda'n gilydd i egluro a chryfhau ein gweithdrefnau i sicrhau bod unigolion yn teimlo'n fwy hyderus i roi gwybod am honiadau o ymddygiad amhriodol, a bod yr honiadau hyn yn cael eu hymchwilio'n drylwyr ac yn deg - i bawb dan sylw.

Fel ein cam ymarferol cyntaf, bydd Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i ddatblygu Polisi Parch ac Urddas a fydd yn nodi nad oes unrhyw le i ymddygiad amhriodol yn y sefydliad hwn. Bydd penderfyniad yn cael ei roi gerbron y Cynulliad i ymgorffori'r polisi o fewn y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad hefyd yn adolygu’r sancsiynau sydd ar gael os oes achos o dorri’r Cod.

Mae'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn cwmpasu ymddygiad yr Aelodau tuag at bawb, pwy bynnag ydynt, a bydd y Comisiynydd Safonau yn defnyddio'r polisi wrth edrych ar bob cwyn. P'un a ydych yn gweithio ar ystâd y Cynulliad ai peidio, bydd y Comisiynydd yn ymchwilio i bob cwyn yn erbyn Aelod Cynulliad. Gellir trafod cwynion yn gyfrinachol ac yn breifat, ac ni chaiff eich enw ei wneud yn gyhoeddus. Rydym yn annog unrhyw un sydd am gwyno am ymddygiad amhriodol Aelod Cynulliad i fynd at Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad.

At hynny, bydd unrhyw honiad a gaiff Clerc y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch Aelod yn torri'r Cod yn cael ei gyfeirio ar unwaith at y Comisiynydd. Fel arweinwyr ein grwpiau, rydym yn derbyn rhagdybiaeth y byddwn yn cyfeirio unrhyw honiadau o dorri'r Cod yn y dyfodol at y Comisiynydd. Ym mhob achos, bydd hyn yn amodol ar gael caniatâd yr achwynydd.

Gall staff Comisiwn y Cynulliad a Staff Cymorth yr Aelodau gael mynediad at linell gymorth gyfrinachol 24 awr ar hyn o bryd os oes ganddynt unrhyw broblem y maent am siarad amdani. Fodd bynnag, rydym yn derbyn y dylid gwneud mwy i wneud y broses o roi gwybod am gŵyn yn haws. Felly, bydd Comisiwn y Cynulliad, mewn ymgynghoriad â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'r Comisiynydd Safonau, yn hyrwyddo pwynt cyswllt y gall unrhyw un, pwy bynnag ydynt, sydd wedi cael profiad o ymddygiad amhriodol fynd ato am gyngor ar y gweithdrefnau a'r cymorth sydd ar gael.

Bydd y Llywydd hefyd yn gofyn i'r Comisiynydd Safonau adolygu sut y gall polisïau a gweithdrefnau'r pleidiau gwleidyddol gyd-fynd â Pholisi Parch ac Urddas newydd y Cynulliad a fydd yn ffurfio rhan o'r Cod.

I'r rhai sy'n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae'n bwysig eu bod yn cael eu gwarchod gan yr un disgwyliadau, a'u bod hefyd yn ddarostyngedig iddynt. Bydd Comisiwn y Cynulliad, y Bwrdd Taliadau, pleidiau gwleidyddol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i sicrhau bod yr un egwyddorion o ran ymddygiad fel y'u nodir yn y Polisi Parch ac Urddas yn berthnasol i Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad, staff Comisiwn y Cynulliad a staff Llywodraeth Cymru, a bod y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag unrhyw gwynion rhwng aelodau o staff yn ymgorffori'r un safonau tegwch, trylwyredd a chefnogaeth â'r hyn a geir mewn achosion sy'n ymwneud â'r Aelodau.

Rydym i gyd yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb dros sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amgylchedd diogel i'r rhai sy'n gweithio yma, i'r rhai sy'n ymweld â'r ystâd ac i unrhyw un sy'n ymwneud â'n Haelodau neu ein cyflogeion.

 

Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Carwyn Jones AC, Arweinydd Llafur Cymru

Andrew R T Davies AC, Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol

Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru

Neil Hamilton AC, Arweinydd UKIP yng Nghymru

Kirsty Williams AC, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru