Canllawiau i Aelodau o'r Senedd ar Gofnodi Cyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn

Cyhoeddwyd 05/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2022   |   Amser darllen munudau

  • Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2021
  • Perchennog: Y Pwyllgor sy'n gyfrifol am Safonau Ymddygiad
  • Cyswllt: Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno
  • Ffeiliau PDF

 

Mae'r dudalen hon yn rhan o gyfres sy'n cynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd a'r holl Reolau a Chanllawiau Cysylltiedig.

Ymweld y gyfres lawn

Mae'r Canllawiau hyn yn cynnwys y ddau atodiad sy'n dilyn y testun a dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd:

 

1. Cytunodd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar 17 Ionawr 2019 na fydd dim cyllid Comisiwn y Senedd ar gael i gyflogi aelodau'r teulu nad oeddent eisoes wedi'u cyflogi cyn 1 Ebrill 2019. Felly, gwaherddir aelodau rhag cyflogi aelodau o'u teulu eu hunain gyda chymorth arian Comisiwn y Senedd. Fodd bynnag, bydd cyflogau aelodau'r teulu a benodwyd cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau i gael eu hariannu gan y Comisiwn tan ddiwedd y Chweched Senedd, er na chaniateir i gontractau aelodau'r teulu gael eu gwella gan yr Aelod sy'n cyflogi yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn ogystal, gall Aelodau barhau i gyflogi aelodau o deuluoedd Aelodau eraill. Felly, mae'r rheolau ar gofnodi cyflogaeth aelodau’r teulu gyda chymorth arian y Comisiwn yn parhau i fod yn gymwys o dan yr amgylchiadau a amlinellir uchod, ac mae'n dal yn ofynnol i Aelodau gofnodi manylion o'r fath, yn unol â Rheol Sefydlog 3.

2. Diben y canllawiau hyn yw helpu'r Aelodau i gyflawni'r swyddogaethau sydd wedi'u gosod arnynt o dan Reol Sefydlog 3. Serch hynny, nid yw'r canllawiau yn disodli Rheol Sefydlog 3. Yr Aelodau yn unig sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r dyletswyddau sydd wedi'u gosod arnynt, er y cânt ofyn am gyngor y Llywydd, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd neu Gofrestrydd Buddiannau’r Aelodau (drwy Swyddfa Gyflwyno’r Senedd).

3. Dyma brif elfennau Rheol Sefydlog 3 y Senedd:

3.1 – Mae'n rhaid i Aelodau sy'n cyflogi aelodau o deulu (yn unol â'r diffiniad yn  y Rheol Sefydlog) roi hysbysiad o dan y Rheol Sefydlog hon.

3.2 – Yn darparu'r diffiniad o bwy sydd i'w ystyried yn "aelod o deulu" o dan y Rheol Sefydlog hon. (DS. Mae'r gofyniad bod rhaid rhoi hysbysiad yn gymwys i aelodau o deulu Aelodau Senedd eraill hefyd).

3.3 – Yn nodi'r gofynion ynglŷn â'r hyn sydd i'w gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a fydd yn cael ei roi o dan y Rheol Sefydlog hon.

3.4 a 3.5 – Yn darparu manylion y dyddiadau cau ar gyfer rhoi hysbysiadau o dan y Rheol Sefydlog hon.

3.6 – Mae'n rhaid i'r hysbysiad gael ei roi drwy lenwi a llofnodi'r ffurflen a ragnodir gan y Llywydd.

3.7 – Mae'r cofnod o hysbysiadau sy'n cael eu rhoi o dan y Rheol Sefydlog hon yn agored i'r cyhoedd ei archwilio.

3.8 – Mae'r Aelodau o dan ddyletswydd barhaus i sicrhau bod y cofnod o hysbysiadau'n gywir.

4. Edrychir yn fanwl ar y darpariaethau hyn isod.

5. Mae Rheol Sefydlog 3 yn ymdrin â sut mae Aelodau i gofnodi'r ffaith bod aelodau o deulu'n cael eu cyflogi. Mae methu â chofnodi cyflogaeth aelodau o deulu yn fater y caiff y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ymchwilio iddo o dan Reol Sefydlog 22 gan argymell camau os bydd yn gweld bod Aelod heb gydymffurfio â darpariaethau Rheol Sefydlog 3.

Y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn (RhS3)

6. O dan Reol Sefydlog 3, rhaid i unrhyw Aelod sydd ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian y Comisiwn, yn cyflogi, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, berson y mae'r Aelod hwnnw'n gwybod ei fod yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o deulu Aelod arall roi hysbysiad o dan y Rheol Sefydlog hon, a hynny heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir yn Rheol Sefydlog 3.4.

7. Mae darpariaethau Rheol Sefydlog 3 wedi'u modelu ar y darpariaethau yn Rheolau Sefydlog 2 a 5, fel y gwelir yn yr amserau i gofnodi cyflogaeth aelodau o'r teulu.  Yn yr un modd â Rheolau Sefydlog 2 a 5, nid yw'r darpariaethau yn ddewisol nac yn wirfoddol.

Cofnodi Cyflogaeth yn ymarferol

8. Mae'r diffiniad o'r hyn sydd angen ei gofnodi drwy roi hysbysiad wedi'u nodi yn Atodiad A.

9. Mae manylion y materion penodol y mae angen eu cynnwys mewn unrhyw hysbysiad wedi'u nodi yn Atodiad B.

10. Mae dau brif gwestiwn y mae angen i'r Aelodau eu hystyried wrth benderfynu a yw'n ofynnol iddynt roi hysbysiad ffurfiol ynghylch cyflogaeth o dan y Rheol Sefydlog hon. Os ydy yw'r ateb i'r ddau gwestiwn isod, yna fe fydd angen rhoi hysbysiad ffurfiol:

  • Ydy'r person rwy'n ei gyflogi yn 'aelod o deulu' i mi, neu'n 'aelod o deulu' i Aelod Senedd arall?
  • Ydy cyflogaeth yr 'aelod o deulu' yn cael ei threfnu gyda chymorth arian y Comisiwn?

11. Mae Rheol Sefydlog 3.2 yn darparu diffiniad o ystyr aelod o deulu (Atodiad A). Wrth gwrs, dim ond os yw'r Aelod yn gwybod bod y person y mae'n ei gyflogi yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o deulu Aelod arall y mae Rheol Sefydlog 3.1 yn ei gwneud yn ofynnol i'r gyflogaeth gael ei chofnodi.

12. Mae darpariaethau'r Rheol Sefydlog hon hefyd yn datgan yn glir ei bod yn ofynnol nid yn unig i'r Aelodau gofnodi'r manylion wrth iddynt gyflogi aelodau o deulu yn uniongyrchol, ond hefyd wrth gyflogi aelodau o deulu ar sail anuniongyrchol. Mae cyflogaeth uniongyrchol yn haws ei hadnabod, ond cynghorir yr Aelodau i ystyried yn fanylach a allai cyflogaeth aelodau o deulu ddod o dan y categori anuniongyrchol. O ran canllaw, mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r hyn a fyddai'n gyflogaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol. Serch hynny, dylai'r Aelodau nodi nad rhestr gynhwysfawr mo hon, ac mai eu cyfrifoldeb hwy yw cydymffurfio â'r Rheol Sefydlog:

  • Cyflogaeth Uniongyrchol: Cyflogi aelod o deulu fel: aelod o'u Staff Cymorth; derbynnydd mewn swyddfa etholaeth; gweithiwr achosion; ayyb.
  • Cyflogaeth Anuniongyrchol: Cyflogi cwmni bach neu ffyrm y mae aelod o deulu yn ennill budd arwyddocaol ohono neu ohoni, er enghraifft, Aelod sy'n cyflogi ffyrm lanhau fach y mae'r 'aelod o deulu' yn bartner ynddi neu sy'n cyflogi'r 'aelod o deulu' fel glanhawr. Ond does dim rhaid i'r Aelod roi hysbysiad ynglŷn ag aelod o deulu sy'n cael ei gyflogi gan gwmni mawr, megis cyfleustod, dim ond am fod y cwmni hwnnw'n cyflenwi gwasanaethau i'r Aelod.

Y dyddiadau cau ar gyfer cofnodi cyflogaeth - Rheol Sefydlog 3.4 a 3.5

13. Mae Rheol Sefydlog 3.4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelodau roi hysbysiad ffurfiol ynghylch cyflogaeth aelodau o deulu:

(a) cyn pen wyth wythnos ar ôl tyngu'r llw neu roi'r cadarnhad; neu

(b) cyn pen pedair wythnos ar ôl:

(i) y tro cyntaf i'r aelod o deulu gael taliad gyda chymorth arian y Comisiwn,

(ii) y dyddiad y daw'r cyflogai yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o Aelod arall, neu

(iii) y dyddiad y daw'r Aelod yn ymwybodol am y tro cyntaf o'r ffaith bod y cyflogai yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o deulu Aelod arall, p'un bynnag yw'r olaf.

14. Mae'r Aelodau hefyd yn gyfrifol o dan Reol Sefydlog 3.5 am roi hysbysiad ffurfiol ynghylch unrhyw newidiadau yn y manylion sydd wedi'u cofnodi eisoes (er enghraifft newid yn swyddogaeth cyflogaeth yr aelod o deulu) a hynny cyn pen pedair wythnos ar ôl i'r newid ddigwydd.

15. Oherwydd y gofyniad yn Rheol Sefydlog 3 bod rhaid rhoi hysbysiad ynghylch unrhyw newid yn y manylion sydd wedi'u cofnodi cyn pen pedair wythnos ar ôl i'r newid hwnnw ddigwydd, cynghorir yr Aelodau i adolygu eu hysbysiadau  yn rheolaidd.

16. Mae cynnwys y Cofnod o Gyflogaeth Aelodau'r Teulu ar gael i'w archwilio gan y cyhoedd ar dudalen Cofrestr Buddiannau pob Aelod. Caiff y tudalennau hyn eu diweddaru cyn gynted ag y bo modd ar ôl i newid i gofrestr Aelod ddod i law.

Atodiad A

Diffiniadau o'r categorïau o faterion y mae'n rhaid eu cofnodi yn unol â Rheol Sefydlog 3.

Dyma ofynion Rheol Sefydlog 3:

3.1 O dan Reol Sefydlog 3, rhaid i Aelod sydd ar unrhyw adeg, gyda chymorth arian y Comisiwn, yn cyflogi, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, berson y mae'r Aelod hwnnw'n gwybod ei fod yn aelod o deulu'r Aelod hwnnw neu'n aelod o deulu Aelod arall roi hysbysiad o dan y Rheol Sefydlog hon, a hynny heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir yn Rheol Sefydlog 3.4.

3.2 Yn y Rheol Sefydlog hon:

(i) ystyr "aelod o deulu" yw:

(a) partner Aelod;

(b) plentyn neu ŵyr/wyres Aelod;

(c) rhiant, taid neu nain Aelod;

(d) brawd neu chwaer Aelod;

(e) nai neu nith Aelod; neu

(f) ewythr neu fodryb Aelod.

(ii) ystyr "partner" yw priod, partner sifil neu un o gwpl p'un ai o'r un rhyw ynteu o'r rhyw arall sy'n byw gyda'i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy'n trin ei gilydd fel dau briod;

(iii) mae'r ymadroddion "plentyn", "ŵyr", "wyres", "rhiant", "taid", "nain", "brawd", "chwaer", "ewythr" a "modryb" yr un mor gymwys i hanner-perthnasau, llys-berthnasau, perthnasau maeth a pherthnasau mabwysiadol ac maent yn gymwys hefyd i bersonau sydd â'r berthynas o dan sylw â phartner yr Aelod;

(iv) ystyr "arian y Comisiwn" yw symiau a delir gan y Comisiwn ar ffurf lwfansau o dan Reol Sefydlog 1.7.

Atodiad B

Manylion y materion penodol y mae angen eu cynnwys mewn unrhyw hysbysiad a fydd yn cael ei roi yn unol â Rheol Sefydlog 3.

Mae Rheol Sefydlog 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelodau gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi:

(i) enw'r Aelod;

(ii) os yw'r cyflogai yn aelod o deulu Aelod arall neu Aelodau eraill, enw'r Aelod arall neu enwau'r Aelodau eraill hynny;

(iii) enw llawn y cyflogai;

(iv) perthynas y cyflogai â'r Aelod (neu, os yw'n briodol, â'r Aelod neu'r Aelodau y cyfeirir atynt yn (ii));

(v) ym mha swyddogaeth y mae'r cyflogai wedi'i gyflogi, gan gynnwys unrhyw deitl swydd;

(vi) y dyddiad y dechreuodd y gyflogaeth;

(vii) os yw'r gyflogaeth wedi dod i ben, y dyddiad y daeth i ben; ac

(viii) yr oriau y mae'r cyflogai wedi'i gontractio i'w gweithio bob wythnos.

Mae hefyd yn ofynnol i'r Aelodau roi hysbysiad ynghylch unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth sydd wedi'i chofnodi. Gan hynny, os bydd manylion y gyflogaeth, sydd wedi'u nodi uchod, yn newid mewn unrhyw fodd, mae'n rhaid i'r Aelodau roi hysbysiad ynghylch y newidiadau hynny.

Rhaid i hysbysiad o dan Reol Sefydlog 3.1 (yr hysbysiad cychwynnol) neu o dan Reol Sefydlog 3.5 (newid manylion) gael ei roi drwy lenwi a llofnodi'r ffurflen sydd wedi'i rhagnodi gan y Llywydd. Gellir cyflwyno’r ffurflen hon i'r Swyddfa Gyflwyno yn electronig neu ar ffurf copi caled.

Ffeiliau PDF