- Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Mai 2026
- Cyswllt: Pennaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau
- Ffeiliau PDF
Cynhaliwyd adolygiad diweddar o'r Rheolau a'r Canllawiau ar Ddefnyddio adnoddau'r Senedd, a bydd y Rheolau a'r Canllawiau wedi'u diweddaru yn dod i rym o ddechrau seithfed Senedd. Gellir gweld y rhain fel dogfen PDF ar waelod y dudalen yma.
Mae'r dudalen hon yn rhan o gyfres sy'n cynnwys y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Senedd a'r holl Reolau a Chanllawiau Cysylltiedig.
chevron_right
Mae'r Rheolau a'r Canllawiau hyn yn cynnwys y tair adran ganlynol a dylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd:
1. Cyhoeddir y Rheolau hyn a chanllawiau cysylltiedig gan y Clerc fel prif swyddog cyfrifyddu Comisiwn y Senedd ac wrth arfer pwerau a ddirprwywyd i’r Clerc gan Gomisiwn y Senedd yn dilyn ymgynghoriad.
2. Diben y Rheolau hyn yw sicrhau rheoleidd-dra a phriodoldeb rheolaeth yr arian cyhoeddus a ddarperir i Gomisiwn y Senedd ac y mae’r Clerc yn atebol amdano fel prif swyddog cyfrifyddu Comisiwn y Senedd o dan adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
3. Mae’r Rheolau hyn yn gymwys i’r Aelodau pryd bynnag y maent yn defnyddio adnoddau’r Comisiwn (fel y’u diffinnir yn y Rheolau hyn) ac mae Rheol 9 o God Ymddygiad yr Aelodau yn ei gwneud yn ofynnol cydymffurfio â'r Rheolau hyn.
4. Cyfrifoldeb pob Aelod yw sicrhau ei fod yn deall y rheolau hyn ac yn cydymffurfio â hwy.
5. Nid yw'r Canllawiau a nodir ar ôl pob Rheol yn rhan o'r Rheolau. Eu bwriad yw helpu’r Aelodau a swyddogion y Comisiwn i ddilyn a chymhwyso'r Rheolau. Mae gwybodaeth ychwanegol i helpu’r Aelodau i gydymffurfio â'r Rheolau hyn ar gael hefyd ar fewnrwyd yr Aelodau. Caiff Comisiynydd Safonau y Senedd hefyd roi sylw i’r Canllawiau.
6. Gall yr Aelodau ofyn am wybodaeth/cyngor ymlaen llaw gan staff Comisiwn y Senedd os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a yw gweithgaredd arfaethedig yn ddefnydd a ganiateir o adnoddau'r Comisiwn.
7. Pe bai gan y Clerc, fel y prif swyddog cyfrifyddu, sail resymol dros amau na chydymffurfiwyd â'r Rheolau hyn, mae dyletswydd ar y Clerc, o dan adran 9 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, i gyfeirio'r sail honno at Gomisiynydd Safonau y Senedd y mae'n rhaid iddo drin yr ohebiaeth fel cwyn.
8. At hynny, gall unrhyw berson arall gwyno am y camddefnydd honedig o adnoddau'r Comisiwn i Gomisiynydd Safonau y Senedd.
9. Dylai’r Aelodau hefyd gofio bod etholiadau a refferenda yn gyfnodau o sensitifrwydd gwleidyddol uwch a gellir cymhwyso darpariaethau arbennig yn ystod cyfnodau o'r fath, yn ogystal â darpariaethau mewn Rheolau eraill sy'n ymwneud â chyfnodau etholiad. Rhoddir gwybod i'r Aelodau am ddarpariaethau o'r fath.
10. Dylai’r Aelodau hefyd sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'u rhwymedigaethau o dan statud o ran derbyn rhoddion (gan gynnwys eiddo, cyfleusterau a gwasanaethau) a rhoi gwybod i'r Comisiwn Etholiadol am y rhain.
11. Yn y Rheolau hyn ac yn y Canllawiau, mae’r ymadroddion isod i’w dehongli fel a ganlyn:
“y Clerc” – yw Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
“Adnoddau’r Comisiwn” – yw unrhyw adnodd, boed yn ariannol neu fel arall, a ddarperir i’r Aelodau gan y Comisiwn, naill ai yn unol ag adran 27(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (darparu eiddo, staff a gwasanaethau i’r Senedd) neu yn unol â’r Penderfyniad;
“y Penderfyniad” – yw unrhyw Benderfyniad wneir gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a lle y darperir adnoddau'r Comisiwn yn unol â'r Penderfyniad, mae'r Rheolau hyn i'w dehongli a'u cymhwyso mewn modd sy'n gyson â'r Penderfyniad;
“dyletswyddau Aelod” – yw gweithgaredd mewn perthynas â busnes a chyfrifoldebau’r Senedd a busnes etholaethol, lle bynnag yr ymgymerir ag ef, yn rhinwedd swydd gyhoeddus Aelod o’r Senedd;
“gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau” – yw gweithgaredd darlledu, ffilmio neu recordio gan Aelod (neu unrhyw berson neu sefydliad ar ei ran) i’w ddefnyddio ar unrhyw fath o blatfform cyfryngau (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol).
Rheol 1 – Atebolrwydd personol
Mae’r Aelodau'n bersonol atebol am ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn sydd ar gael iddynt ac ni chânt eu defnyddio ar gyfer gweithgaredd gwleidyddol plaid nac at ddiben heblaw am gyflawni eu dyletswyddau fel Aelodau.
Canllawiau
Mae'r Aelodau'n bersonol gyfrifol am yr holl gostau yr eir iddynt a'r adnoddau a ddefnyddir yn eu henwau. Gall yr Aelodau ddirprwyo tasgau i eraill, er enghraifft aelodau o'u staff, ond maent yn parhau i fod yn bersonol gyfrifol am y defnydd o adnoddau'r Comisiwn a ddarperir iddynt. Cyn dirprwyo, dylai Aelodau sicrhau eu bod wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau bod eu staff hefyd yn cynnal y Cod Ymddygiad ac yn gweithredu yn unol ag ef (Rheol 19).
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o weithgareddau a fyddai’n torri’r Rheol hon:
- gweithgareddau neu negeseuon personol, busnes neu fasnachol;
- gweithgaredd gwleidyddol plaid o unrhyw fath, megis ceisio effeithio ar gefnogaeth i blaid wleidyddol; gwaith a wneir i blaid wleidyddol neu ar ei chais; trefnu cyfarfodydd gwleidyddol plaid, rhoi cyhoeddusrwydd iddynt neu bresenoldeb ynddynt; neu gynnal trefniadaeth fewnol plaid wleidyddol;
- ymgyrchu i sicrhau canlyniad penodol mewn etholiad i swydd gyhoeddus, neu mewn refferendwm;
- gweithgareddau eraill a allai ddod ag elw ariannol i'r Aelod neu unrhyw berson arall.
Cydnabyddir y gall fod yn anodd weithiau tynnu llinell glir rhwng busnes sy'n ymwneud yn briodol â dyletswyddau Aelodau a gweithgaredd gwleidyddol plaid. Fodd bynnag, er y bwriedir i'r Rheol hon gael ei dilyn yn llym, mae'n annhebygol y bydd cyfeiriad damweiniol at weithgaredd gwleidyddol plaid yn gyfystyr â thorri'r Rheol hon pan fydd Aelod, fel arall, yn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol.
Hefyd, gall camddefnyddio adnoddau’r Senedd fod yn gyfystyr â rhodd i’r Aelod neu ei blaid, a all arwain at atebolrwydd troseddol neu sifil i’r rhai dan sylw. Mae'r rheolau ynghylch rhoddion yn gymwys ar bob adeg ond mae iddynt arwyddocâd arbennig yn y cyfnod cyn etholiad. Dylai’r Aelodau gymryd gofal arbennig i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau manwl a nodir yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 a Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 pan fo’n berthnasol. Dylai’r Aelodau gyfeirio at y Comisiwn Etholiadol ar gyfer canllawiau ar y materion hyn.
Rhaid i Aelodau gydymffurfio â'r gyfraith berthnasol wrth ddefnyddio adnoddau'r Senedd i gyflawni eu cyfrifoldebau.
Rheol 2 – Cyflogi staff a ariennir gydag adnoddau'r Comisiwn
Rhaid i Aelodau sicrhau bod yr holl staff a gyflogir ganddynt gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn yn ymgymryd â gwaith yn ystod eu horiau contract mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod, neu weithgareddau a ganiateir yn ôl y Penderfyniad yn unig.
Canllawiau
Ni ddylai staff cymorth a gyflogir gan Aelod neu Arweinydd Grŵp gymryd rhan mewn gweithgaredd plaid wleidyddol neu ymgyrchu yn ystod eu horiau gwaith dan gontract. Nid yw'r Comisiwn yn cyfyngu staff rhag ymgymryd â gweithgareddau o'r fath y tu allan i'w horiau gwaith ar gontract (gan ystyried amser i ffwrdd o’r gwaith yn lle tâl neu drefniadau oriau hyblyg unrhyw Aelod gyda’i staff), tra byddant ar wyliau blynyddol neu tra byddant ar absenoldeb arbennig di-dâl. Rhaid rhoi gwybod i'r tîm Cymorth Busnes i'r Aelodau o flaen llaw am gyfnodau o wyliau arbennig di-dâl fel bod modd gwneud yr addasiad ariannol priodol.
Mae’n rhaid i Aelodau ystyried pa brosesau y mae angen iddynt eu rhoi ar waith er mwyn gallu dangos bod eu staff yn ymgymryd â gwaith sy’n gysylltiedig â dyletswyddau'r Aelod (h.y. at ba ddiben y gwneir y ddarpariaeth) yn unig yn ystod eu hamser gwaith. Gallai'r broses honno gynnwys cadw cofnodion cywir o oriau a weithiwyd gan bob aelod o staff, ond nid yw’n ofynnol gwneud hynny.
Gall Aelodau neu eu staff, o bryd i'w gilydd, ddal swydd neu rôl arall (e.e. cynghorydd lleol). Pan fo hyn yn codi, dylai’r Aelodau sicrhau nad yw eu staff yn gwneud gwaith yn ystod eu horiau contract y telir amdano gan adnoddau'r Comisiwn ar fusnes sy'n ymwneud yn briodol â rolau eraill o'r fath, oni bai y caniateir hynny gan y Penderfyniad . Mae hyn yn gymwys boed a ddarperir adnoddau gan y corff dan sylw ai peidio.
Rheol 3 – Eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn
Rhaid i eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod yn unig ac yn unol ag amodau’r Comisiwn o ran y defnydd ohonynt. Mae'r eitemau hyn yn parhau i fod yn eiddo i'r Comisiwn a rhaid eu dychwelyd ar unwaith pan ofynnir amdanynt.
Canllawiau
Mae'r rheol hon yn ymwneud ag eitemau a gwasanaethau y mae Aelodau'n eu prynu gydag adnoddau'r Comisiwn neu'n cael eu darparu gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau (er enghraifft, offer TGCh a chontractau gyda darparwyr gwasanaeth).
Mae’n cynnwys, yn benodol, fod yr offer TGCh sy’n cael ei ddarparu gan y Comisiwn yn ddarostyngedig i’r Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh, gan gynnwys defnydd personol cyfyngedig ac achlysurol a ganiateir o dan yr Amodau.
Dylai'r Aelodau gofio bod eitemau a brynwyd gydag adnoddau'r Comisiwn yn dod yn eiddo i'r Comisiwn ac yn parhau’n eiddo i’r Comisiwn ac y dylent hwy a'u staff gymryd gofal da o eitemau o'r fath. Mae Aelodau'n benodol gyfrifol am ddychwelyd eitemau ar ddiwedd eu cyfnod yn y swydd, yn unol â chanllawiau a ddarperir gan y Comisiwn.
Gall Aelodau neu eu staff, o bryd i'w gilydd, ddal swydd neu rôl arall (e.e. cynghorydd lleol). Pan fydd hyn yn digwydd, dylai Aelodau sicrhau nad yw eu staff yn defnyddio eitemau, gwasanaethau na chyfleusterau a ddarperir gan y Comisiwn ar gyfer rolau eraill o'r fath. Mae hyn yn gymwys boed a ddarperir adnoddau gan y corff dan sylw ai peidio.
Rheol 4 – Cadw at weithdrefnau ariannol
Rhaid i Aelodau ddilyn y gweithdrefnau ariannol, a'r mesurau gwrth-dwyll, mewn cysylltiad â gwariant a defnyddio adnoddau'r Comisiwn a gyfathrebir i'r Aelodau gan y Clerc neu'r Comisiwn.
Canllawiau
Mae'r Rheol hon yn ei gwneud yn ofynnol cadw at y trefniadau a'r gweithdrefnau a bennir gan y Comisiwn a/neu'r Penderfyniad (y bydd y Comisiwn yn hysbysu’r Aelodau amdanynt, gan gynnwys ar fewnrwyd yr Aelodau) a fydd yn cynnwys (ond heb ragfarnu effaith gyffredinol y Rheol hon) ganllawiau diwedd y flwyddyn, manylion colledion ariannol, mesurau gwrth-dwyll, trefniadau ynghylch creu a chadw cofnodion (fel diben siwrneiau a’u manylion, oriau gwaith staff a derbynebau ac anfonebau sy'n ymwneud ag eitemau a brynwyd) a darparu gwybodaeth a chyflwyno hawliadau yn brydlon pan ofynnir am hynny, manylion sy'n ofynnol at ddibenion cyfrifyddu neu archwilio'r Comisiwn, neu at ddibenion eraill y gellir gofyn yn briodol am wybodaeth ariannol yn eu cylch, e.e. mewn cysylltiad ag ymchwiliad Safonau.
Rheol 5 – Gwerth am arian, cynaliadwyedd a’r cyfrifoldeb i gynnal enw da
Rhaid i Aelodau ddefnyddio adnoddau’r Comisiwn yn ddoeth, ac:
(a) sicrhau gwerth am arian wrth wario arian cyhoeddus,
(b) parchu rhwymedigaethau'r Comisiwn wrth gyflawni ei swyddogaethau o ran rhoi sylw dyledus i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb ac i’r egwyddor o hybu datblygu cynaliadwy, ac
(c) ceisio diogelu enw da a bri’i Senedd.
Canllawiau
Rhaid i bob Aelod weithredu mewn ffordd sy'n adlewyrchu bod yn rhaid i'r defnydd o adnoddau'r Comisiwn a ddarperir fod yn rhesymol o fewn cyfyngiadau'r adnoddau cyffredinol a ddarperir i'r Aelodau.
Mae'r Rheol hon yn cynnwys gwariant yr Aelodau ar deithio a thynnir sylw at yr egwyddorion ar gyfer gwariant y Comisiwn ar deithiau gan Aelodau a'r darpariaethau ar gyfer teithio yn y Penderfyniad.
Rheol 6 – Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Rhaid i weithgaredd cyfathrebu ac ymgysylltu sy’n defnyddio adnoddau'r Comisiwn gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol.
Canllawiau
Gellir dod o hyn i'r Cynllun yma.
Rheol 7 – Cyfathrebu ac ymgysylltu ag etholwyr gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn
(1) Wrth gyfathrebu ac ymgysylltu â'u hetholwyr gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn, ni ddylai’r Aelodau roi’r argraff eu bod wedi’u hariannu gan blaid wleidyddol na’u defnyddio yn y fath fodd fel y gellid eu gweld fel pe baent yn ceisio effeithio ar gefnogaeth wleidyddol i blaid wleidyddol neu ymgeisydd.
(2) Mae’n rhaid i ddeunyddiau ddatgan yn glir bod Comisiwn y Senedd yn eu hariannu o arian cyhoeddus, ac ni ddylid eu hategu â deunyddiau ychwanegol na chaniateir iddynt ddefnyddio adnoddau’r Comisiwn.
(3) Caniateir un defnydd o logo plaid neu grŵp gwleidyddol anymwthiol ar ddeunyddiau ymgysylltu.
Canllawiau
Byddai’r geiriad hwn yn bodloni’r gofyniad ar gyfer datganiad am gyllid “Mae Comisiwn y Senedd wedi ariannu’r eitem hon o arian cyhoeddus.”
Gall Aelodau gyfeirio at eu hymlyniad gwleidyddol eu hunain mewn ffordd gryno, ffeithiol a chymesur. Caniateir defnyddio logos plaid, grŵp neu logos gwahaniaethol eraill unwaith mewn unrhyw neges a dim ond fel dynodydd ymlyniad Aelod wrth blaid neu grŵp yn y Senedd neu statws heb ymlyniad.
Atgoffir yr Aelodau, wrth arfer eu crebwyll am eu defnydd o logo, lliwiau a ffotograffau mewn deunyddiau ymgysylltu, y bydd y rhain yn cyfrannu i’r ffordd y mae'r deunyddiau hynny'n debygol o gael eu gweld. Dylid cymryd gofal i atal canfyddiad bod y deunyddiau’n rhai gwleidyddol plaid.
Caniateir defnyddio logo'r Senedd pan fydd hynny’n cydymffurfio â chanllawiau arddull y Comisiwn i'w ddefnyddio gan yr Aelodau.
Mae’n rhaid i’r gweithgaredd hyrwyddo gael ei anelu at yr etholaeth a gynrychiolir gan yr Aelod.
Eithrir gohebiaeth drwy lythyr, e-bost neu gyfrwng electronig tebyg â phersonau unigol o'r gofyniad i ddatgan ei bod wedi’i hariannu gan y Comisiwn ond mae unrhyw beth sydd wedi'i gyfeirio i unigolion lluosog neu gynulleidfa ehangach wedi'i gynnwys.
Mae arwyddion ar ffasâd swyddfa Aelod hefyd wedi'u heithrio o'r gofyniad am ddatganiad am gyllid gan y Comisiwn.
Ac eithrio lle y nodir, ni wahaniaethir wrth gymhwyso'r gofynion rhwng deunyddiau ffisegol a digidol.
Enghraifft o ddeunyddiau atodol fyddai deunyddiau ychwanegol wedi'u hatodi i gylchlythyr a ganiateir neu wedi'u hamgáu ag ef.
Rheol 8 – Gwefannau Aelodau
Mae’n rhaid i wefannau sy’n cael eu hadeiladu neu eu cynnal gan ddefnyddio adnoddau’r Comisiwn gael eu defnyddio ar gyfer dyletswyddau Aelod yn unig, ac mae’n rhaid iddynt ddatgan, yn glir, bod Comisiwn y Senedd wedi talu costau’r wefan o arian cyhoeddus.
Canllawiau
Byddai’r geiriad hwn yn bodloni’r gofyniad ar gyfer datganiad am gyllid “Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau’r wefan hon o arian cyhoeddus.” neu “Mae’r wefan hon wedi cael ei hariannu gan Gomisiwn y Senedd.”
Ni ddylai gwefan a ariennir gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn gynnwys na mewnosod cynnwys gwleidyddol plaid. Fodd bynnag, ni fydd y cynnwys a ganlyn, sy'n dangos pwy yw’r Aelod er budd pobl sy’n mynd i'r wefan, yn cael ei ystyried yn gynnwys gwleidyddol plaid o dan y Rheol hon:
(a) Nodi teyrngarwch plaid Aelod, a all gynnwys un logo plaid neu grŵp anymwthiol;
(b) Lincs ar y wefan i un neu ragor o wefannau allanol (heb ddangos cynnwys) sydd â chynnwys gwleidyddol plaid.
(c) Mae ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yr Aelod unigol ei hun wedi'u mewnosod fel cynnwys ar ei wefan ei hun.
Pan gynhwysir lincs, dylai gwefan yr Aelod gynnwys datganiad clir nad yw Comisiwn y Senedd yn gyfrifol am gynnwys sydd wedi’i fewnosod ac nad yw lincs sy’n arwain i wefannau wedi’u hariannu gan adnoddau’r Comisiwn.
Rheol 9 – Diogelu data
Pan fydd gweithgarwch cyfathrebu neu ymgysylltu a ariennir gan y Comisiwn yn arwain at gasglu data personol, mae’n rhaid defnyddio datganiad clir a syml i’w gwneud yn glir na chaiff y data personol a gesglir eu rhannu, ac eithrio pan fo hynny’n angenrheidiol i gefnogi gwaith achos.
Canllawiau
Byddai’r geiriad hwn yn bodloni’r gofyniad ar gyfer datganiad am ddata personol “Diben y data personol a ddarperir mewn ymateb i’r [arolwg/cyhoeddiad] hwn yw llywio fy ngwaith seneddol ac ni chânt eu rhannu, â thrydydd partïon, ac eithrio pan fo hynny’n angenrheidiol i gefnogi gwaith achos.”
Effaith y Rheol hon yw na all data personol etholwyr a gesglir drwy weithgaredd a ariennir gan y Comisiwn fod ar gael i drydydd partïon ac eithrio pan fo hynny’n angenrheidiol i gefnogi gwaith achos. Yn benodol, ni ellir rhannu data personol â phleidiau gwleidyddol cofrestredig na sefydliadau ymgyrchu gwleidyddol.
Gellir rhannu gwybodaeth a gesglir i lywio ymchwil neu ddatblygu polisi at y diben hwnnw, ar yr amod bod y data personol yn y wybodaeth yn ddienw.
Nid yw'r rheol yn atal darparu gwybodaeth y gellir pennu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith, e.e. mewn cysylltiad ag ymchwiliad gan yr heddlu neu ymchwiliad safonau.
Mae’n rhaid i’r Aelodau sicrhau bod eu hysbysiadau preifatrwydd yn adlewyrchu telerau'r datganiad sy’n ofynnol gan Reol 9 yn gywir.
Rheol 10 – Gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau
Yn achos gweithgareddau yn ymwneud â’r cyfryngau:
(a) ni ddylent amharu ar weithgareddau eraill ar ystad y Senedd na rhwystro ymwelwyr rhag cael mynediad;
(b) ni ddylent gael eu cynnal yn y Siambr, yr ystafelloedd pwyllgora, yr orielau cyhoeddus, na mannau nad oes gan y cyhoedd fynediad cyffredinol iddynt oni bai eu bod wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw gan y Llywydd;
(c) os yw’r cynnwys yn ymwneud â gwleidyddiaeth plaid, dim ond yn y mannau cyhoeddus ar ystad y Senedd neu yn swyddfeydd yr Aelod ei hun neu grŵp ei blaid y gellir cynnal y gweithgaredd; ac
(d) ni chaniateir eu cynnal yn unman ar ystad y Senedd mewn perthynas ag ymgyrch etholiadol ar gyfer swydd gyhoeddus.
Canllawiau
Dylid gofyn am gydsyniad y Llywydd mewn perthynas ag 10(b) drwy gysylltu â Swyddfa’r Cyfryngau.
Rheol 11 – Digwyddiadau a noddir gan yr Aelodau
Ni ddylai Aelodau noddi na threfnu digwyddiadau ar ystad y Senedd, neu fel arall gan ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn, sy'n cynnwys:
(a) gweithgareddau neu gyfathrebu personol, busnes neu fasnachol;
(b) gweithgaredd gwleidyddol plaid, gan gynnwys defnyddio logos neu ddulliau brandio plaid, neu ymgyrchu dros ganlyniad penodol mewn etholiad neu refferendwm;
(c) codi arian o unrhyw fath neu weithgaredd lle codir tâl mynediad;
(d) digwyddiadau, arddangosfeydd neu arddangosiadau o ddeunydd sydd ym marn y Clerc, yn debygol o achosi tramgwydd;
(e) cyfarfodydd sefydliadau allanol; neu
(f) weithgareddau eraill a allai ddod ag elw ariannol i'r Aelod neu unrhyw berson arall.
Canllawiau
Diben defnyddio ystad y Senedd gan Aelodau ar gyfer digwyddiadau yw galluogi'r Senedd i fod yn ddeddfwrfa arloesol sy'n rhoi llais pobl Cymru wrth galon yr hyn y mae’n ei wneud drwy ymgysylltu’n ystyrlon a thrwy gynnal busnes y Senedd. Mae'n hanfodol i Aelod sy'n noddi fod yn bresennol / cael ei gynrychioli mewn digwyddiad y mae’n ei noddi neu'n ei drefnu.
Wrth benderfynu a yw rhywbeth yn debygol o achosi tramgwydd, bydd y Clerc yn ystyried, ymhlith pethau eraill, bolisïau Comisiwn y Senedd sy'n ymwneud ag urddas a pharch.
Rheol 12 – Fetio at ddibenion diogelwch
Ac eithrio Aelodau, dim ond unigolion sydd wedi cael eu gwirio o ran diogelwch yn gyntaf ar y lefel briodol all ddefnyddio adnoddau'r Comisiwn.
Canllawiau
Ni chaiff neb, ac eithrio'r Aelodau, ddechrau gwaith sy’n cynnwys defnyddio adnoddau’r Comisiwn cyn bod yn destun fetio ddiogelwch, boed yn Nhŷ Hywel neu yn rhywle arall. Tîm Diogelwch Comisiwn y Senedd sy'n gyfrifol am weinyddu'r polisi fetio diogelwch.
Caiff unigolion sydd heb basys diogelwch ffotograffig fynd i ystad y Senedd fel ymwelwyr.
Ffeiliau PDF