Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

Goruchwylio Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 19/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/01/2021

Mae craffu’n effeithiol ar waith llywodraeth wrth wraidd unrhyw broses ddemocrataidd.

Ein rôl ni yw goruchwylio gwaith a gwariant Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n gwneud hyn trwy gynnal dadleuon, holi gweinidogion a thrwy waith ymchwilio ein pwyllgorau. 

 

Dadleuon

Mae dadleuon yn caniatáu i Aelodau leisio eich pryderon yn y Senedd, trafod materion amserol a phenderfynu ar gyfreithiau newydd.

Gallant godi unrhyw faterion sy’n peri pryder ac mae’n rhaid i weinidogion Llywodraeth Cymru ymateb.

Yn aml, bydd Aelodau’n pleidleisio ar ôl dadl i weld a oes mwyafrif yn cefnogi neu’n gwrthod unrhyw ddeddfau neu gynigion a drafodwyd.

Gwylio dadleuon byw ac o’r archif

 

Cwestiynau

Mae cwestiynau yn gyfle i Aelodau herio’r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru ar bynciau o’u dewis.

Mae’r Aelodau yn gofyn cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau, fel sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian cyhoeddus a sut mae’n rheoli’r ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu cynnal o ddydd i ddydd yng Nghymru.

Mae cwestiynau i’r Prif Weinidog (FMQs) yn digwydd bob dydd Mawrth pan fydd y Senedd yn eistedd ac maent yn cael eu darlledu’n fyw.

Dysgu mwy am gwestiynau yn y Senedd

 

Pwyllgorau

Mae ein pwyllgorau’n edrych ar waith Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill yng Nghymru mewn meysydd penodol sydd wedi’u datganoli.

Maen nhw’n cynnal ymchwiliadau ac yn llunio adroddiadau, yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac yn archwilio cyfreithiau arfaethedig yn ofalus.

Nhw sy’n penderfynu pa faterion i edrych arnynt ac yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth gan bobl sy’n cael eu heffeithio a sefydliadau arbenigol. Mae pwyllgorau yn adrodd ar eu canfyddiadau i’r Senedd fel y gallant drafod a phleidleisio arnynt. Maen nhw hefyd yn eu cyhoeddi i chi eu gweld.

Fel arfer, mae gan Lywodraeth Cymru chwe wythnos i ymateb i argymhellion pwyllgor.

Mae pwyllgorau’n cynnwys aelodau o bob rhan o’r grwpiau gwleidyddol yn y Senedd yn ogystal ag aelodau annibynnol.

Rhagor o wybodaeth am bwyllgorau