↓ Pryd mae'r Senedd yn cyfarfod?
↓ Pryd bydd y Senedd ar doriad?
↓ Pryd cafodd etholiad diwethaf y Senedd ei gynnal?
↓ Pwy enillodd etholiad y Senedd?
↓ Faint o bobl a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Senedd?
↓ A fydd etholiadau'r Senedd yn digwydd yn amlach o hyn allan?
↓ Ym mha ffordd y gwnaeth y Senedd (Senedd Cymru) newid yn 2026?
↓ Pam oedd angen rhagor o Aelodau ar y Senedd?
↓ Pwy yw'r Aelodau yn fy etholaeth i?
↓ A yw’r Senedd yn gallu codi trethi yng Nghymru?
↓ A oes nifer ofynnol o Aelodau er mwyn i'r Cyfarfod Llawn ddigwydd?
↓ A yw’n bosibl i bleidiau gwleidyddol ddiweddaru eu rhestrau?
↓ A fydd Aelodau'n cael newid pleidiau yn ystod eu tymor neu newid i eistedd fel Aelod annibynnol?
↓ A oedd angen ehangu adeilad y Senedd i greu lle i'r Aelodau ychwanegol?
↓ Ym mha ffordd y gallaf rannu eich gwybodaeth?
Cwestiynau Cyffredin
Ble mae’r Senedd?
Mae'r Senedd wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd.
Mae’r adeilad ar agor i’r cyhoedd drwy’r flwyddyn ac mae mynediad am ddim. Wedi dod i mewn, bydd digon i’ch difyrru a’ch diddori – gallwch fwynhau arddangosfeydd, ymuno â thaith dywys, gwylio busnes y Senedd yn fyw, neu ymlacio yn ein caffi.
Rhagor o wybodaeth: Beth Sy'n Digwydd yn y Senedd.
Cofiwch, nid oes angen i chi ddod i Fae Caerdydd i wylio trafodaethau ein Haelodau yn y Cyfarfod Llawn. Gallwch wylio’r darllediadiadau byw o’r sesiynau neu eu gwylio ar-lein ar Senedd.tv.
Pryd mae'r Senedd yn cyfarfod?
Rhagor o wybodaeth am amserlen y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau: Amserlen wythnosol
Rhagor o wybodaeth am ddyddiadau tymhorau’r Senedd: dyddiadau toriad
Y Cyfarfod Llawn
Mae’r holl Aelodau’n cyfarfod yn wythnosol yn y Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Dyma lle byddan nhw'n siarad ar eich rhan, yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn trafod materion o bwys a phleidleisio arnyn nhw, ac yn pasio deddfau sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Fel arfer, caiff y Cyfarfod Llawn ei gynnal ar ddydd Mawrth a dydd Mercher yn ystod y tymor.
Mae croeso i'r cyhoedd ddod i’r Senedd i’w wylio yn y cnawd, neu ei wylio ar-lein ar Senedd.tv.
Pwyllgorau
Rhagor o wybodaeth am amserlen y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau: Amserlen wythnosol
Rhagor o wybodaeth am ddyddiadau tymhorau’r Senedd: dyddiadau toriad
Mae'r rhan fwyaf o’r Aelodau yn aelodau o bwyllgorau, sy'n cyfarfod bob wythnos neu bob yn ail wythnos yn ystod y tymor.
Pwyllgorau yw’r grwpiau bach o Aelodau sy’n ystyried pynciau neu faterion penodol. Bydd Aelodau’n edrych yn fanwl ar faterion ac yn clywed yn uniongyrchol gan y cyhoedd ac arbenigwyr. Yn y Pwyllgorau mae llawer o waith manwl y Senedd yn digwydd.
Mae’r pwyllgorau fel arfer yn cyfarfod ar ystad y Senedd ym Mae Caerdydd, ond gallan nhw hefyd gyfarfod mewn mannau eraill ledled Cymru, lle bo’n berthnasol.
Mae Pwyllgorau fel arfer yn cyfarfod yn gyhoeddus a gallwch wylio’r trafodion ar Senedd.tv.
Pryd bydd y Senedd ar doriad?
Dyma linc i’n tudalen dyddiadau toriad, sy’n dangos pryd y bydd y Senedd ar doriad.
Pwy sy'n arwain y Senedd?
Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru. Rhun ap Iorwerth yw Prif Weinidog presennol Cymru ac arweinydd Plaid Cymru, sef y blaid fwyaf yn y Senedd ar ôl etholiad y Senedd yn 2026.
Bob wythnos, yn ystod y Cyfarfod Llawn, bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau oddi wrth Aelodau eraill ynglŷn â pholisi, gwariant a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’r ffordd caiff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu rhedeg o ddydd i ddydd.
Caiff y Cyfarfod Llawn ei gadeirio gan y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd, sy'n eistedd ym mlaen y Siambr yn wynebu'r Aelodau eraill. Yn debyg i Lefaryddion mewn seneddau ledled y byd sydd, rôl y Llywydd yw sicrhau bod y Senedd yn cael ei rhedeg mewn ffordd deg ac effeithiol. Mae’r Llywydd yn rheoli dadleuon, yn cadw trefn, ac yn sicrhau bod pob Aelod sydd am siarad yn cael gwneud hynny. Y Llywydd presennol yw Huw Irranca-Davies.
Rhagor o wybodaeth: Pwy yw pwy yn y Senedd?
Pryd cafodd etholiad diwethaf y Senedd ei gynnal?
Cafodd etholiad diwethaf y Senedd ei gynnal ar 7 Mai 2026.
Archwiliwch ganlyniadau etholiadau blaenorol y Senedd, gan gynnwys isetholiadau.
Pwy enillodd etholiad y Senedd?
Plaid Cymru gafodd y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd yn 2026 (43) a chafodd ffurfio Llywodraeth Cymru o ganlyniad. Enillodd Reform UK 34, enillodd Llafur Cymru 9, enillodd y Ceidwadwyr Cymreig 7, enillodd Plaid Werdd Cymru 2 ac enillodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 1.
Rhagor o wybodaeth: Etholiad y Senedd: dadansoddiad cychwynnol o'r canlyniadau
Faint o bobl a bleidleisiodd yn etholiad diwethaf y Senedd?
Bwriodd dros 1.2 miliwn o bobl bleidlais yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Yn seiliedig ar bleidleisiau dilys, y ganran a bleidleisiodd oedd 51.6 y cant. Y ffigur ar gyfer yr etholiad yn 2021 oedd 46.6%. Dyma'r lefel uchaf o bleidleisiau mewn etholiad Senedd. (Mae 'pleidleisiau dilys' yn golygu papurau pleidleisio na chafodd eu difetha na'u gwrthod).
Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio erthygl sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am niferoedd y bobl sydd wedi pleidleisio yn etholiadau blaenorol y Senedd a sut mae’r ffigurau’n cymharu ag etholiadau cyffredinol y DU.
A fydd etholiadau'r Senedd yn digwydd yn amlach o hyn allan?
Byddant. O 2026 ymlaen, bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.
Ym mha ffordd y gwnaeth y Senedd (Senedd Cymru) newid yn 2026?
Yn yr etholiad ar 7 Mai 2026 fe welwyd y newid mwyaf i'r Senedd ers 25 mlynedd. Dyma'r newidiadau allweddol:
- 96 o Aelodau: O 2026, mae gan y Senedd 96 Aelod. Cyn hyn, roedd ganddi 60.
- System bleidleisio newydd: Cafodd Aelodau o'r Senedd eu hethol drwy system rhestr gyfrannol gaeedig. Mae hynny’n golygu bod pleidleiswyr yn pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
- Etholaethau newydd: Mae gan Gymru 16 etholaeth, yn lle'r 40 etholaeth a phum rhanbarth oedd ganddi o'r blaen. Cafodd yr etholaethau newydd eu creu drwy baru’r 32 etholaeth sydd gan Gymru ar gyfer Senedd y DU. Mae chwe Aelod o’r Senedd wedi cael eu hethol ym mhob etholaeth.
- Rheolau newydd: O 2026, bydd yn rhaid i bob un sy'n ymgeisio mewn etholiad yng Nghymru fyw yng Nghymru.https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/etholiad-y-senedd-2026-beth-yw-fformiwla-d-hondt-a-sut-mae-n-gweithio/
- Etholiadau amlach: Bydd etholiadau’r Senedd bellach yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.
Pam oedd angen rhagor o Aelodau ar y Senedd?
Mae'r Senedd wedi bod â’r un nifer o Aelodau ers 25 o flynyddoedd, er gwaethaf y cynnydd yn ei phwerau.
Erbyn hyn, mae gan y Senedd bwerau deddfu llawn a'r gallu i godi trethi yng Nghymru, ond nid oedd yn gallu gwneud hynny pan gafodd ei chreu ym 1999.
Bydd cael mwy o Aelodau'n gwella gallu'r Senedd i edrych ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru ar faterion mawr fel y gwasanaeth iechyd, addysg a thrafnidiaeth a’u herio, gan roi llais cryfach i'ch cymuned pan gaiff y penderfyniadau hyn eu gwneud.
Bydd y newidiadau’n cryfhau’r Senedd ac yn ei pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Senedd Cymru yw'r senedd leiaf yn y DU ac un o'r lleiaf yn Ewrop. Mae cynyddu nifer yr Aelodau i 96 yn golygu bod Cymru’n fwy cyson â gwledydd o faintioli tebyg, fel yr Alban sydd â 129 o Aelodau a Gogledd Iwerddon sydd â 90.
Mae llawer o ymchwil wedi digwydd i weld a oes gan y Senedd ddigon o Aelodau.
Yn 2011, cafwyd pleidlais gyhoeddus (refferendwm) ynghylch a ddylai'r Cynulliad ar y pryd gael rhagor o bwerau deddfu. Roedd 63.5% o bleidleiswyr o blaid y newid.
Yn 2015, cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad adroddiad a edrychodd ar ddyfodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Galwodd yn unfrydol am ragor o Aelodau, gan ddweud nad oedd gan y Cynulliad ddigon o bwerau a’i fod yn cael ei or-ymestyn.
Mewn ymchwil flaenorol gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd a'r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd, roedd pob un yn cydnabod yr angen am newid a thwf.
Pwy yw'r Aelodau yn fy etholaeth i?
Ddim yn siŵr beth yw enw eich etholaeth na phwy yw eich Aelodau?
Gallwch ddefnyddio eich cod post i gael yr atebion.
Roedd yr etholaethau'n wahanol cyn 2026 - rhagor o wybodaeth: Beth yw’r etholaethau newydd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026?
A yw’r Senedd yn gallu codi trethi yng Nghymru?
Ydy, mae’r Senedd yn gallu codi rhai trethi yng Nghymru. Mae bron i bedair rhan o bump o gyllid Llywodraeth Cymru yn dod yn uniongyrchol drwy’r grant bloc gan Lywodraeth y DU. Daw gweddill y cyllid o fenthyca a threthi datganoledig: Cyfraddau Treth Incwm Cymru (14.3%), ardrethi annomestig (4.3%), Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi (1.6%).
Mae datganoli trethi wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Yn ystod y Chweched Senedd, gwnaeth arwain at dwf cyfatebol o 3.8% mewn cyllid o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, mae’r datblygiad o ran ehangu’r pwerau hyn wedi bod yn araf. Ond, gyda threthi ychwanegol newydd ar y bwrdd, bydd llunwyr polisi yn y Seithfed Senedd yn cael y cyfle i lywio taith datganoli cyllidol Cymru ymhellach.
Rhagor o wybodaeth: Datganoli cyllidol yng Nghymru.
A oes nifer ofynnol o Aelodau er mwyn i'r Cyfarfod Llawn ddigwydd?
Nid oes cworwm – sef nifer ofynnol o Aelodau – ar gyfer cynnal y Cyfarfod Llawn. Ond, o dan Reol Sefydlog 12.46, nid yw pleidlais yn ddilys oni bai bod o leiaf 10 Aelod yn cymryd rhan. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys Aelodau sy'n cofnodi eu bod yn ymatal yn y bleidlais.
Os bydd Aelod o'r Senedd yn gadael ei sedd, a fydd is-etholiad ynteu a fydd y sedd yn mynd i’r person nesaf ar restr y blaid?
Ni fydd is-etholiad os bydd Aelod yn gadael ei sedd rhwng etholiadau'r Senedd. Os bydd Aelod yn gadael ei sedd yn ystod y tymor, bydd y sedd yn mynd i’r person cymwys nesaf ar restr y blaid wleidyddol a oedd wedi ennill y sedd honno.
Os yw'r Aelod yn cael ei ethol fel ymgeisydd annibynnol, neu os nad oes rhagor o bobl gymwys ar restr y blaid wleidyddol, bydd y sedd yn aros yn wag tan etholiad nesaf y Senedd.
Rhagor o wybodaeth am sut mae rhestrau pleidiau yn gweithio.
A yw’n bosibl i bleidiau gwleidyddol ddiweddaru eu rhestrau?
Nac ydy. Unwaith y byddant yn derfynol, ni ellir diweddaru rhestrau pleidiau gwleidyddol trwy gydol y tymor. Byddant yn aros yn sefydlog fel yr oeddent ar adeg etholiad y Senedd.
A fydd Aelodau'n cael newid pleidiau yn ystod eu tymor neu newid i eistedd fel Aelod annibynnol?
Nid oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth a fyddai'n atal Aelod rhag newid plaid neu newid i eistedd fel Aelod annibynnol. Ar hyn o bryd, ymdrinnir ag aelodaeth grwpiau gwleidyddol yn y Senedd yn Rheolau Sefydlog (1.3) y Senedd. Bydd gan bleidiau gwleidyddol eu barn eu hunain am y mater hefyd.
Os bydd Aelod o'r Senedd yn gadael ei sedd (er enghraifft, drwy ymddiswyddo neu anghymhwyso) ar ôl newid i blaid wleidyddol wahanol, bydd y sedd yn mynd i’r ymgeisydd cymwys a pharod nesaf ar restr y blaid a oedd wedi ennill y sedd yn wreiddiol.
Felly, pe bai rhywun a gafodd ei ethol yn Aelod dros Blaid A yn ymuno wedyn â Phlaid B, ac yna'n ymddiswyddo, byddai’r sedd yn mynd i'r person nesaf ar restr Plaid A.
Beth sy’n digwydd os yw ymgeisydd wrth gefn ar restr un o’r pleidiau yn newid plaid wleidyddol? A fydd yr ymgeisydd hwnnw’n dal i gael ei ethol os yw’r Aelod presennol yn ymddiswyddo o’r sedd?
Os yw ymgeisydd wrth gefn ar restr un o’r pleidiau yn ymddiswyddo o’r blaid honno neu’n newid plaid wleidyddol yn ystod tymor y Senedd, gall y blaid berthnasol atal ei enw rhag cael ei gyflwyno fel y person nesaf i lenwi sedd wag.
Mae hyn ond yn berthnasol os nad yw’r person dan sylw yn aelod o’r blaid wleidyddol a gyflwynodd y rhestr mwyach. Hefyd, rhaid i’r blaid roi gwybod i’r Swyddog Canlyniadau Etholaethol pan fydd y sedd wag yn codi nad yw enw’r person dan sylw yn cael ei gyflwyno i gymryd y sedd. Bydd y Swyddog Canlyniadau Etholaethol wedyn yn cynnal unrhyw wiriadau angenrheidiol cyn rhoi gwybod i’r Llywydd am y person nesaf ar y rhestr a fydd yn cymryd y sedd wag.
Mae’r broses hon wedi’i nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, adran 11.
A oedd angen ehangu adeilad y Senedd i greu lle i'r Aelodau ychwanegol?
Cafodd Siambr y Senedd ei newid i greu lle ar gyfer y 96 o Aelodau. Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2025 ac fe gafodd ei gwblhau yng ngwanwyn 2026.
Roedd dyluniad gwreiddiol y Siambr, gan y penseiri Rogers Stirk Harbour + Partners (RSHP), yn caniatáu lle i ehangu pe bai cynnydd yn nifer yr Aelodau ryw ddydd. Er hynny, roedd angen gwneud gwaith i osod pethau fel desgiau ac offer TGCh.
Rhagor o wybodaeth: 20 mlynedd ers agor adeilad y Senedd: Y tu mewn i Senedd Cymru.
Ym mha ffordd y gallaf rannu eich gwybodaeth?
Ewch draw i'n gwefan adnoddau i lwytho neu archebu ein deunydd gwybodaeth gyhoeddus / llyfrynnau a thaflenni.