Mae pleidleisio yn etholiad y Senedd yn gyfle i chi ddewis pwy sy'n eich cynrychioli chi a'ch cymuned yn y Senedd.
Mewn etholiad y Senedd, mae pobl yng Nghymru yn pleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol i'w cynrychioli yn eu hardal leol (etholaeth) yn Senedd Cymru.
Mae’r aelodau etholedig hyn yn gwneud penderfyniadau ac yn deddfu ar faterion sy’n effeithio ar Gymru, megis iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Caiff Aelodau eu hethol am bedair blynedd, hyd nes y cynhelir etholiad nesaf y Senedd.
Pryd mae Etholiad nesaf y Senedd?
Disgwylir i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ym mis Mai 2030.
Beth yw fy etholaeth?
Rhennir Cymru yn 16 ardal, a elwir yn etholaethau.
Mae gan bob etholaeth chwe Aelod.
Mae gan y Senedd gyfanswm o 96 o Aelodau, sy’n cael eu hethol o bob rhan o'r wlad i gynrychioli pawb yng Nghymru.
Gallwch ddod o hyd i'ch etholaeth drwy nodi eich cod post yn ein map canfod etholaethau.
Pwy all bleidleisio?
Os ydych yn 16 mlwydd oed a throsodd ac yn byw yng Nghymru, rydych yn gymwys i bleidleisio yn Etholiad y Senedd.
Er mwyn gallu pleidleisio, mae angen i chi fod wedi cofrestru.
Mae cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd.
Sut y caiff Aelodau o’r Senedd eu hethol?
Mewn etholiad Senedd, gall pawb sy’n 16 oed a throsodd fwrw un bleidlais dros y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol y maen nhw ei eisiau i gynrychioli eu hetholaeth.
Caiff Aelodau eu hethol gan ddefnyddio system bleidleisio o’r enw ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’.
O dan y system hon, mae nifer y seddi y mae plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennill yn cyfateb yn well i ganran y pleidleisiau y maen nhw’n eu cael.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Sut y caiff Aelodau o'r Senedd eu hethol?
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi bleidleisio?
Ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau, mae'r pleidleisiau yn cael eu cyfrif.
Caiff y gwaith cyfri o ran yr Etholiad ei reoli yn lleol. Mae pryd y cyhoeddir y canlyniadau yn dibynnu ar bob ardal unigol. Fel arfer, bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau'r cyfrif.
Ble alla i weld canlyniadau etholiad y Senedd?
Gallwch weld canlyniadau etholiadau blaenorol y Senedd ar ein gwefan.
A gaf fi bleidleisio dros y Prif Weinidog?
Ni allwch bleidleisio dros Brif Weinidog newydd.
Mewn etholiad i’r Senedd, rydych yn pleidleisio dros y blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol yr hoffech ei weld yn cynrychioli eich etholaeth.
Pwy sy'n dewis y Prif Weinidog?
Rhaid i Aelodau o’r Senedd enwebu Aelod i fod yn Brif Weinidog o fewn 28 diwrnod ar ôl etholiad Senedd.
Fel arfer, caiff enwebiadau eu gwneud yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ôl yr etholiad.
Ar ôl cael ei benodi, bydd y Prif Weinidog yn penodi Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion i weithio yn adrannau Llywodraeth Cymru. Mae'r uchaf o'r rhain yn mynychu cyfarfodydd Cabinet Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth gweler ein blog: Sut mae Prif Weinidog Cymru yn cael ei ddewis?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cael ei ffurfio?
Fel arfer, y blaid sy'n ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd sy’n ffurfio Llywodraeth Cymru.
Beth sy'n digwydd os na fydd yr un blaid yn ennill mwyafrif o seddi?
Os na fydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif o seddi yn yr etholiad, yna gall dwy blaid neu ragor benderfynu gweithio gyda'i gilydd neu ffurfio llywodraeth glymblaid.
Mae hyn yn debygol o ddigwydd os na fydd unrhyw blaid yn ennill rhagor na hanner y seddi.
Pwy yw fy Aelodau o'r Senedd nawr?
Mae gan bawb yng Nghymru chwe Aelod o’r Senedd i’w cynrychioli. Gallwch gysylltu ag unrhyw un ohonynt – wyneb yn wyneb, ar-lein, neu dros y ffôn – dim ots dros bwy y gwnaethoch bleidleisio. Mae pob un ohonynt yn eich cynrychioli yn gyfartal.
Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i'ch Aelodau presennol.