Mae'n gwneud penderfyniadau ar bethau sy'n effeithio ar fywyd bob dydd yn eich cymuned fel iechyd, ysgolion, trafnidiaeth a'r amgylchedd. Ond nid yw pawb yn ei chael hi'n hawdd esbonio’r Senedd, cael mynediad ati na siarad amdani.
Mae ein hadnoddau yma i newid hynny.
P'un a ydych chi'n weithgar yn eich cymuned, yn addysgwr, neu'n rhywun sydd eisiau helpu eraill i ddeall sut mae'r Senedd yn gweithio, fe welwch chi offer clir ac ymarferol i'ch cefnogi.







