Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig 2022
Nod y Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig yw dangos bywiogrwydd a thalent y bobl sy’n paentio yng Nghymru. Drwy gyfres o arddangosfeydd ar draws deuddeg lleoliad yn y De, y Canolbarth a'r Gorllewin, mae‘r dathliad yn cynrychioli rhai o beintwyr mwyaf arwyddocaol Cymru, yn ogystal â'r rhai sydd wrthi’n ennill eu plwyf. Noddir gan Dawn Bowden AS. Dyddiadau: 15 Rhagfyr 2022 – 9 Chwefror 2023.