Llwyfan ar gyfer rhagoriaeth yn cynnwys ystod o gynhyrchion o Gymru ac wedi'u hysbrydoli gan Gymru.
O roddion moethus i'r llyfrau diweddaraf, o gardiau post panoramig i fwydydd a diodydd gorau Cymru, bydd rhywbeth i'w brynu i'ch atgoffa o'ch ymweliad. Hefyd, mae gennym gaffi yn yr adeilad sy’n cynnig amrywiaeth o ddiodydd twym ac oer, prydiau ysgafn, a theisennau a phwdinau danteithiol.