Y Senedd

Y Senedd

Ymwelwyr sydd ag awtistiaeth

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munudau

Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb a gwella hygyrchedd i bawb mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad blaenllaw yn ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a gwella hygyrchedd i bawb.
Rhan o'r ymrwymiad hwn yw sicrhau bod ein hadeiladau'n hygyrch i ymwelwyr ag awtistiaeth a bod ein staff wedi cael eu hyfforddi i'w croesawu.
Mae'r adran hon wedi cael ei datblygu er mwyn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistiaeth. Byddwn yn parhau i adolygu, diweddaru a gwella gwasanaethau er mwyn gwella'r profiad o ymweld â'n hystâd.

Mae ein hystâd yn cynnwys y Senedd, Tŷ  Hywel a'r Pierhead sydd ym Mae Caerdydd. Mae gwybodaeth i ymwelwyr ag awtistiaeth ar gael isod ar gyfer pob un o'r adeiladau hyn.
Mae gwybodaeth am gyrraedd y Senedd ar gael yma: Sut i'n cyrraedd.

Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd

Mae materion o ran y synhwyrau y dylai rhai ymwelwyr ag awtistiaeth fod yn ymwybodol ohonynt cyn iddynt ymweld â'r Senedd. Efallai y bydd rhai ymwelwyr yn sensitif iawn i oleuadau, synau, arogleuon a chyffwrdd.
Gwybodaeth am faterion synhwyraidd efallai y bydd ymwelwyr yn dod ar eu traws :

Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd  

Materion o ran y synhwyrau ar ein hystâd (fersiwn hawdd ei ddeall)

Larwm Tân y Senedd

Profir y larwm tân ar fore Llun, bore Mawrth a bore Mercher am tua 08.45. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud a ble i fynd. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

 

Cloch y Cyfarfod Llawn yn y Senedd

Am 13.20 a 13.25 ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddisgwyl clywed sŵn y gloch sy'n galw'r Aelodau i'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae hefyd yn canu i alw Aelodau i bleidleisio. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad i osgoi Cloch y Cyfarfod Llawn. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y gloch.

 

Larwm tân y Pierhead

Profir y larwm tân bob bore Llun am 09.30, cyn bod ymwelwyr yn cael dod i mewn. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

 

Larwm tân Tŷ Hywel

Profir y larwm tân bob bore Llun am 09.00. Os clywch y larwm tân unrhyw bryd arall, bydd aelod o'r staff yn dweud wrthych beth i'w wneud. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad er mwyn osgoi'r prawf larwm tân. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y larwm tân.

Cloch y Cyfarfod Llawn Tŷ Hywel

Am 13.20 a 13.25 ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddisgwyl clywed sŵn y gloch sy'n galw'r Aelodau i'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae hefyd yn canu i alw Aelodau i bleidleisio. Os ydych yn sensitif iawn i sŵn, efallai y byddwch am gynllunio eich ymweliad i osgoi Cloch y Cyfarfod Llawn. Cliciwch ar y botwm isod i glywed sŵn y gloch.

 
I archebu copïau caled neu fformatau eraill megis print bras a Braille, cysylltwch â ni.