Tiger Bay a’r Dociau: 1880au – 1950au

Cyhoeddwyd 04/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/03/2023   |   Amser darllen munudau

Dewch i weld arddangosfa newydd sy’n dathlu hanes a chymunedau Tiger Bay a’r dociau.

Ar y cyd â’r Heritage and Cultural Exchange (HCE), mae tair arddangosfa newydd wedi’i llunio yn y Pierhead i roi cipolwg ar fywyd ym Mhorth Teigr a’r dociau o’r 1880au i’r 1950au.

Dewiswyd rhai o hoff luniau y HCE o’r casgliad sydd ganddynt, yn ogystal ag archifau lleol eraill, i ddangos yr ardal yn y gorffennol a’r holl newidiadau ers hynny.

Byddwch yn gweld rhai o’r swyddi yr oedd pobl yn eu gwneud yn y dociau, sef ardal fasnachol ffyniannus Tiger Bay, yn ogystal â’r ystod eang o weithgareddau hamdden yr oedd trigolion y cymunedau lleol yn eu mwynhau.

 

“I mi, mae’n hanes sy’n ysbrydoledig i bob un ohonom ni. Mae’n cwmpasu cydlyniant cymunedol a’r ffordd y daeth pobl o bob cefndir, crefydd a diwylliant at ei gilydd i fyw a chydweithio’n llwyddiannus”.

– Gaynor Legall, Cadeirydd yr Heritage and Cultural Exchange

 

The Heritage and Cultural Exchange

 

Sefydliad cymunedol yw’r Heritage and Cultural Exchange (HCE), sydd â’r nod o gofnodi treftadaeth ac amrywiaeth ddiwylliannol Tiger Bay a Dociau Caerdydd a’u cyflwyno i’r byd.

Mae casgliad HCE yn cynnwys delweddau, hanesion llafar a deunyddiau eraill sy’n rhoi cipolwg ar fywyd yn Tiger Bay o ddechrau hyd at ganol y 1900au.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.tigerbay.org.uk.

 

Lluniau

1. Gweithwyr yn Nociau Caerdydd, 1900au © anhysbys OWLS000339-12

2. Portread stiwdio, dechrau’r 1990au © anhysbys, Hansen & Son OWLS000339-15

3. James Street, tua 1920 © anhysbys OWLS000339-4

4. Priodas Mohammed Hassan a Katie Link, tua 1920 © anhysbys OWLS000339-13

5. Ysgol Clarence Road, 1924/1925 © anhysbys OWLS000339-1

6. Clwb criced yng Ngerddi Sgwâr Loudoun, 1927 © anhysbys OWLS000339-21

7. Stryd Bute Isaf, 1937 © anhysbys OWLS000339-8

8. Gorymdaith pererindod Mecca, 1938 © anhysbys OWLS000339-18

9. Plant mewn parti stryd, tua 1953 © anhysbys OWLS000339-22