Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol

Cyhoeddwyd 12/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/04/2022   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad* ei adroddiad ar 12 Rhagfyr 2017.

Cefndir

Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd y Comisiwn y byddai'n datblygu gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad [ar y pryd].

Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd y Llywydd y byddai Panel Arbenigol annibynnol ar Ddiwygio Etholiadol yn cael ei sefydlu i roi cyngor cadarn, gwleidyddol ddiduedd ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen er mwyn cynrychioli pobl Cymru yn effeithiol, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf.

Aelodaeth o'r Panel

Yr Athro Laura McAllister oedd Cadeirydd y Panel. Aelodau eraill y Panel oedd yr Athro Rosie Campbell, yr Athro Sarah Childs, Rob Clements, yr Athro David Farrell, Dr Alan Renwick a Syr Paul Silk.

(O’r chwith i’r dde yn y ddelwedd: Rob Clements, yr Athro Sarah Childs, yr Athro Laura McAllister, Syr Evan Paul Silk KCB, Dr Alan Renwick, yr Athro David Farrell)

Roedd gan y Panel arbenigedd helaeth ym meysydd systemau etholiadol, gwaith a chapasiti seneddol, sefyllfa gyfansoddiadol y Cynulliad Cenedlaethol, a materion ehangach o ran llywodraethu, gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymgysylltu.

*Ers i'r panel gyflwyno adroddiad, mae enw'r Cynulliad wedi newid i'r Senedd ond mae hen gyfeiriadau wedi'u cadw ar y dudalen hon.

Darllenwch fwy am rôl y Panel

Cyfarfodydd y Panel Arbenigol

14 Chwefror 2017

7 Mawrth 2017

21 Ebrill 2017

22 – 23 Mai 2017

12 Mehefin 2017

14 Gorffennaf 2017

22 Medi 2017

18 – 19 Hydref 2017

Tystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd

Gofynnodd y Panel Arbenigol am dystiolaeth ysgrifenedig ar: 

  • faterion sy'n ymwneud ag ardaloedd etholiadol, yn enwedig o ran cyd-ffinio ag etholaethau San Steffan;
  • yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad;
  • capasiti a maint y Cynulliad, a'r system etholiadol briodol ar gyfer ethol Aelodau.

Trafododd y Panel yr ymatebion a ganlyn:

Adroddiad

Cyflwynodd y Panel Arbenigol adroddiad ym mis Rhagfyr 2017 a bwriwyd ymlaen â nifer o'i argymhellion fel rhan o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 cyn etholiad y Senedd yn 2021.