Creu Senedd sy’n gweithio i Gymru: adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Cyhoeddwyd 12/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/02/2018

Mae angen mwy o Aelodau ar y Cynulliad Cenedlaethol wrth i’w bwerau gynyddu, er mwyn sicrhau ei fod yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn effeithiol ac yn cyflawni dros bobl a chymunedau Cymru.

Dyma rai o ganfyddiadau grŵp annibynnol o arbenigwyr etholiadol a seneddol a gafodd y dasg o drafod dyfodol y ddeddfwrfa. 


Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn argymell, yn dilyn dadansoddiad fforensig o dystiolaeth, bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol ar y Cynulliad. Byddai’r Aelodau hyn yn cael eu hethol drwy system etholiadol gydag atebolrwydd i etholwyr ac amrywiaeth yn ganolog iddo, fwy cyfrannol ac un sydd wedi’i seilio ar amrywiaeth. Mae’r panel hefyd yn argymell y dylid gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol i gynnwys pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed

 


Darllenwch yr adroddiad

Senedd sy'n Gweithio i Gymru

Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad (PDF, 8.52 MB)

Adroddiad cryno (PDF, 7.33 MB)

  



Deddfu a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif

Mae’r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad yn argymell, yn dilyn dadansoddiad fforensig o dystiolaeth, bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau ychwanegol ar y Cynulliad. Byddai’r Aelodau hyn yn cael eu hethol drwy system etholiadol gydag atebolrwydd i etholwyr ac atebolrwydd i etholwyr ac amrywiaeth yn ganolog iddo, fwy cyfrannol ac un sydd wedi’i seilio ar amrywiaeth. Mae’r panel hefyd yn argymell y dylid gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol i gynnwys pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed. 

Mae’r Cynulliad heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i’r un a sefydlwyd ym 1999. Ar y pryd, nid oedd ganddo unrhyw bwerau deddfu sylfaenol ac nid oedd wedi’i wahanu’n ffurfiol oddi wrth Lywodraeth Cymru. Erbyn hyn, mae’n gyfrifol am ddeddfu a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn rhai o’r meysydd sydd â’r effaith fwyaf ar fywydau pobl yng Nghymru. Cyn bo hir, bydd yn gweithredu ar sail model newydd o bwerau a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Cymru 2017, gyda chyfrifoldebau dros y trethi Cymreig cyntaf ers 800 mlynedd, gan gynnwys pwerau i amrywio treth incwm.

Mae adroddiad y Panel yn disgrifio rolau hanfodol Aelodau’r Cynulliad wrth hyrwyddo buddiannau eu hetholwyr a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy herio ei phenderfyniadau ar wariant, deddfwriaeth a pholisi. Gall cyflawni’r rolau hyn yn fwy effeithiol arbed arian ac arwain at fanteision go iawn i bobl a’u cymunedau. 

Ethol Aelodau’r Cynulliad

O ran ethol Aelodau’r Cynulliad, nododd y Panel egwyddorion allweddol y bu’n gwerthuso ystod eang o wahanol systemau yn eu herbyn. Yr opsiwn a ffefrir gan y Panel, os yw ei argymhelliad ar gyfer cwota rhyw integredig yn cael ei weithredu, yw’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Byddai Cynrychiolaeth Gyfrannol drwy Restr Hyblyg yn ddewis amgen posibl. Mae opsiwn sy’n seiliedig ar y system Aelodau Cymysg Cyfrannol (Aelod Ychwanegol) presennol, ac sy’n cynnig y newid lleiaf, wedi’i amlinellu hefyd, ond gyda’r cyfyngiad o uchafswm o 80 o Aelodau Cynulliad yn 2021.

Trafododd y Panel sut y gellid diogelu’r enw da sydd gan y Cynulliad ledled y byd o ran cynrychiolaeth lled gyfartal rhwng y rhywiau a sut y gallai’r trefniadau etholiadol annog mwy o amrywiaeth. 

Mae’r Panel yn argymell: 
  • dylid integreiddio cwota rhyw i drefniadau etholiadol y Cynulliad;

  • dylai’r Cynulliad ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi data ar amrywiaeth o ran yr ymgeiswyr y maent yn eu dewis;

  • dylid newid cyfraith etholiadol a gweithdrefnau’r Cynulliad i ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholiad ar sail trefniadau tryloyw ar gyfer rhannu swyddi, heb unrhyw gostau ychwanegol y tu hwnt i’r costau ar gyfer un Aelod Cynulliad. Byddai hyn yn helpu i gael gwared ar rwystrau sy’n gallu atal pobl sydd ag anableddau neu gyfrifoldebau gofalu rhag sefyll mewn etholiadau.

Pleidleisio yn 16

Mae’r Panel wedi adolygu tystiolaeth ar oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, a daeth i’r casgliad y gallai rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 oed bleidleisio fod yn ffordd rymus o godi ymwybyddiaeth wleidyddol a chyfranogiad ymhlith pobl ifanc. Fodd bynnag, mae’n rhaid bod addysg wleidyddol ac addysg ddinasyddiaeth briodol yn cyd-fynd â hyn.​



Aelodau'r panel

 
(O'r chwith i'r dde: Rob Clements, yr Athro David Farrell, yr Athro Laura McAllister CBE, Syr Evan Paul Silk KCB, Dr Alan Renwick, yr Athro Rosie Campbell. Ddim yn y llun: yr Athro Sarah Childs.)

​​Rhyngddynt, mae gan y Panel gyfoeth o arbenigedd ym meysydd systemau etholiadol, capasiti a gwaith seneddol, sefyllfa gyfansoddiadol y Cynulliad Cenedlaethol, a materion ehangach o ran llywodraethu, gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymgysylltu.

Dysgu mwy am aelodau'r Panel


Dywedodd yr Athro Laura McAllister CBE, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, a Chadeirydd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: 

“Mae ein hargymhellion wedi’u cynllunio i sicrhau bod gan y Cynulliad y nifer o Aelodau sydd ei angen arno er mwyn iddo gynrychioli’n effeithiol y bobl a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a bod yn senedd sydd wirioneddol yn gweithio dros Gymru yn awr ac yn y dyfodol.

“Ym 1999, nid oedd gan Aelodau’r Cynulliad ddigon o bwerau i effeithio ar fywydau dyddiol pobl yng Nghymru. Heddiw, mae’r Aelodau’n gyfrifol am gyllideb o £15 biliwn, maent yn gwneud deddfau yng Nghymru mewn nifer o feysydd pwysig fel iechyd ac addysg, ac maent yn gallu newid y trethi a dalwn. Heddiw, dim ond chwe deg o Aelodau sydd gan y sefydliad o hyd, a  gyda’i bwerau cynyddol i effeithio ar fywydau pobl Cymru, nid oes ganddo’r capasiti sydd ei angen arno.  

“Mae hyn yn bwysig. Mae’r Cynulliad a’i Aelodau yn cael effaith wirioneddol, uniongyrchol a chadarnhaol ar fywydau pob un ohonom yng Nghymru. Mae galw am fwy o wleidyddion yn amhoblogaidd ond, mae’n rhaid i ni gyflwyno adroddiad ar sail y dystiolaeth. Mae’r Panel yn credu,  wrth i’w bwerau gynyddu, na all y Cynulliad barhau fel y mae heb beryglu ei allu i gyflawni’n effeithiol dros bobl Cymru. Mae achos cymhellol o blaid cynyddu nifer yr Aelodau i o leiaf 80, ac yn ddelfrydol yn agosach at 90. Nid oes unrhyw amser delfrydol i ddatrys hyn. Ond, os na chaiff ei wneud nawr, bydd y Cynulliad yn parhau i fod yn rhy fach, ac yn risg i’w allu i ddarparu ar gyfer y bobl y mae’n eu gwasanaethu.”


Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Yn 2015, daeth Comisiwn y Cynulliad blaenorol i’r casgliad bod Cynulliad Cenedlaethol sydd â dim ond 60 o Aelodau yn rhy wan a bod ei lwyth gwaith yn rhy feichus. Nid y Comisiwn oedd y cyntaf i ddod i’r casgliad hwnnw. Ers dros ddegawd, mae comisiynau annibynnol a gafodd y dasg o edrych ar gapasiti’r Cynulliad wedi dod i’r un casgliad. Ni fydd y diffyg capasiti hwn yn cael ei ddatrys heb gymryd camau blaengar, ac ni allwn fforddio anwybyddu’r mater hwn mwyach.  

 
“Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno dadansoddiad annibynnol a manwl o’r dystiolaeth ac atebion posibl i greu senedd fwy cynaliadwy sy’n gwasanaethu pobl Cymru ymhell i’r dyfodol. Rwy’n ddiolchgar i aelodau’r Panel am eu hamser, ac i’r Athro McAllister am ei harweinyddiaeth ac i’r Panel am wneud cyfraniad mor drylwyr at ddemocratiaeth yng Nghymru, a hynny wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn.  

“Bydd Comisiwn y Cynulliad yn trafod y cynigion yn fanwl yn ystod y misoedd nesaf ac yn ymgysylltu â phobl ledled y wlad ac ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Rwy’n gobeithio y gallwn gyrraedd consensws eang dros newid a darparu deddfwrfa gryfach, fwy cynhwysol a mwy blaengar sy’n gweithio i Gymru am flynyddoedd lawer i ddod.”
 
 
Darllenwch y datgania​d llawn gan Elin Jones AC / AM, Llywydd y Cynulliad​

​​​