Llywydd

Rôl y Llyw​ydd yw'r un bwysicaf yn y Senedd​.​

Mae rôl Llywydd y Senedd yn adlewyrchu rolau Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd. Er y gall union gyfrifoldebau'r swydd amrywio o wlad i wlad, a bod gwahanol deitlau ganddynt, mae'r rôl yn debyg.

Y Llywydd sy'n cadeirio'r Cyfarfod Llawn​, gan aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Mae'r Llywydd yn chwarae rhan weithgar wrth gynrychioli buddiannau'r Senedd a buddiannau Cymru yn genedlaethol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae hefyd yn cadeirio Comisiwn y Senedd.

Y Llywydd presennol yw'r Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS.

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am y Llywydd drwy ddilyn @yLlywydd ar Twitter. Gallwch hefyd gysylltu â hi drwy e-bostio Llywydd@senedd.cymru.​​​

Elin Jones AS

y Diweddaraf