Prif ddiddordebau
a chyflawniadau
Mae Elin wedi byw
yn Llanwnnen, Caerdydd, Aberystwyth a nawr Aberaeron. Mae hi'n mwynhau cerddoriaeth
a'r celfyddydau. Mae wedi canu mewn corau amrywiol a bu’n aelod o’r grŵp harmoni clos, Cwlwm, am flynyddoedd lawer.
Mae treftadaeth a diwylliant Cymru yn bwysig iawn i Elin. Bu'n helpu i gydlynu’r cerflun o Granogwen yn Llangrannog, helpu
i amddiffyn wal Cofiwch Dryweryn a bu'n rhan o Bwyllgor trefnu deiseb heddwch hanesyddol merched
Cymru. Elin oedd cadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 ac mae’n
parhau i wasanaethu ar Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn aelod o’r Orsedd.
Hanes personol
Ganed Elin ym 1966
ac fe’i magwyd ar fferm yn Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan. Aeth i Ysgol Gynradd
Llanwnnen ac Ysgol Uwchradd Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl derbyn gradd BSc mewn Economeg
o Brifysgol Caerdydd, dyfarnwyd gradd MSc mewn Economeg Wledig iddi o Brifysgol
Aberystwyth.
Cefndir proffesiynol
Fu Elin yn Swyddog
Datblygu Economaidd i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig, ac roedd yn gyfarwyddwr gyda
Radio Ceredigion a chwmni cynhyrchu teledu Wes Glei Cyf.
Bu Elin ar Gyngor
Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999 a hi oedd Maer ieuangaf Aberystwyth yn nhymor 1997-98.
Elin oedd Cadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru rhwng 2000 a 2002.
Hanes gwleidyddol
Fe'i hetholwyd i'r
Cynulliad ym mis Mai 1999 ac, yn nhymor cyntaf y Cynulliad, hi oedd Gweinidog yr
Wrthblaid dros Ddatblygiad Economaidd. Yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2003, llwyddodd
i ddal gafael ar y portffolio hwn tan 2006, pan ddaeth hi’n Weinidog yr Wrthblaid
dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad. Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth
Cymru’n Un a phenodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach,
enillodd Elin wobr Aelod Cynulliad y Flwyddyn, a gwobr ‘Pencampwr Ffermio’r DU’
y Farming Weekly.
Yn 2016, etholwyd
Elin yn Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ei rôl fel Llywydd, mae Elin wedi
arwain ar sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru, ymestyn yr etholfraint bleidleisio ar
gyfer etholiadau Cymru i bobl ifanc 16 a 17 oed, wedi newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol
i Senedd Cymru, ac wedi goruchwylio diwygio’r Senedd. Yn etholiad diwethaf y Senedd
yn 2021, etholwyd Elin am ail dymor i rôl Llywydd Senedd Cymru.