Mae'r tîm cysylltiadau rhyngwladol yn edrych i adeiladu ar y gwaith o'r Pedwerydd Cynulliad, gan adlewyrchu Blaenoriaethau Strategol Comisiwn y Senedd. Wedi'i chynnwys o fewn y blaenoriaethau strategol mae amcan i hyrwyddo Cymru a democratiaeth Cymru i'r byd ehangach.
Drwy fod yn rhan o rwydweithiau rhyngwladol seneddol a thrwy ymgysylltu â rhaglenni a gweithgareddau pwrpasol, mae'r Senedd yn ceisio hyrwyddo a chyfnewid arferion seneddol gorau ar lwyfan ryngwladol, ac yn ceisio sicrhau bod y Senedd yn cael ei osod ar lwyfan y byd fel deddfwrfa ryngwladol unigryw, arloesol a blaengar.
Mae gan y Senedd DîmCysylltiadau Rhyngwladol sy'n cynorthwyo’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd ac Aelodau’r Senedd gyda’u gwaith rhyngwladol.
- Gweithgaredd Rhyngwladol;
- Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad - Cangen Cymru o'r CPA;
- Cynulliad Seneddol Prydain ac Iwerddon - BIPA;
- Cynhadledd Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarth Ewrop;
- Cysylltiadau â chyrff rhyngwladol eraill.
Fframwaith ar gyfer ymgysylltiad rhyngwladol y Senedd
Cysylltu â ni
Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Y Tîm Cysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Al Davies
Uwch-reolwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Phrotocol
0300 200 6255
Enfys Roberts
Rheolwr Swyddfa Brefiat - Rhyngwladol a Chyfathrebu
0300 200 6247
Byddwch yn ymwybodol bod y tîm cysylltiadau rhyngwladol yn ymwneud â ymweliadau Seneddol yn unig. Dylai pob grŵp arall sydd â diddordeb mewn trefnu ymweliad i’r Cynulliad gysylltu â’r Tîm Gwybodaeth i’r Cyhoedd.