Sefydlwyd Corff Rhyngseneddol Prydain ac Iwerddon ym mis Chwefror 1990 ar gais Aelodau'r Oirechtas yn Nulyn a Senedd San Steffan, gyda chaniatad a chydweithrediad y ddwy Lywodraeth.
Mae rhagor o wybodaeth am BIPA ar wefan BIPA
Strwythur BIPA Cymru
Aelodau Llawn BIPA
- David Rees AS - Dirprwy Lywydd y Cynulliad - Arweinydd dirprwyaeth y Cynulliad
- Heledd Fychan AS
- Darren Millar AS
- Sarah Murphy AS
Swyddog y Senedd - Al Davies, Uwch Rheolwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Phrotocol
Cyfarfodydd Llawn
Mae BIPA yn cynnal Cyfarfod Llawn ddwywaith y flwyddyn, gan amrywio rhwng y DU ac Iwerddon. Mae pob Cyfarfod Llawn yn para diwrnod a hanner ac yn cael ei oruchwylio gan ddau gyd-Gadeirydd.
Adroddiadau Pwyllgor BIPA
Cyflwynir adroddiadau pwyllgor i'r Cyfarfod Llawn a gwneir sylwadau arnynt drwy benderfyniad fel arfer. Anfonir adroddiadau at y ddwy Lywodraeth a chorff gweithredol sydd wedyn yn ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion.
Caiff yr ymatebion hyn eu cyhoeddi a'u trafod gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.
Adroddiadau Pwyllgor Diweddaraf
Pwyllgor B (Materion Ewropeaidd)