Rwy’n hynod falch
a diochgar am gael fy ethol i wasanaethu cymunedau ledied Gogledd Cymru fel
eich Aelod o’r Senedd. Byddaf yn
gweithio’n galed I ad-dalu’r ymddiriedaeth rydych chi wedi’i dangos ynof i. Os
gallaf wneud unrhyw beth I helpu, mae croes I chi anfon e-bost ataf yn Carolyn.Thomas@Senedd.Cymru
Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Fy mhrif
ddiddordebau yw'r amgylchedd naturiol, priffyrdd a chludiant, gwastraff ac
ailgylchu, plant a phobl ifanc, cyfiawnder cymdeithasol a thegwch.
Hanes personol
Rwy'n briod ac yn
fam i dri oedolyn ifanc, yn nain ac yn berchennog ci. Yn fy amser hamdden byddaf yn mwynhau
cerdded yng nghefn gwlad, crwydro o amgylch trefi hanesyddol ac yfed cwrw go
iawn.
Cefndir
proffesiynol
Rwyf wedi
gweithio mewn amrywiaeth o swyddi wrth fagu fy nheulu. Yn fy swydd ddiweddaraf,
roeddwn i’n gweithio fel postferch a, chyn hynny, fel clerc swyddfa’r
post. Yn ystod yn fy ugeiniau cynnar,
roeddwn i’n byw yn yr Eidal. Yn ystod y
deng mlynedd diwethaf, rwyf wedi trefnu digwyddiadau yn y gymuned a
digwyddiadau i godi arian i elusennau ac wedi cynhyrchu'r cylchlythyrau lleol.
Hanes
gwleidyddol
Cyn cael fy ethol
yn Aelod o’r Senedd, fi oedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac roeddwn i
hefyd yn Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Stryd a Chefn Gwlad. Rwyf wedi bod yn
Gynghorydd yng Nghyngor Sir y Fflint ers 2008 ac rwyf hefyd wedi cynrychioli
dwy ward fel cynghorydd tref a chymuned, sef Llanfynydd a Threuddyn. Rwyf wedi bod yn arweinydd grŵp gwleidyddol, yn Gadeirydd Pwyllgor ac yn
Arweinydd Dinesig (Cadeirydd / Maer) y Cyngor.
Ymunais â’r
blaid Lafur i ymladd yn erbyn mesurau cyni a’u heffaith ar wasanaethau cyhoeddus, ac
rwyf hefyd wedi tynnu sylw at effaith ddinistriol credyd cynhwysol ac
anghyfiawnder cymdeithasol.
Ymgyrchoedd
Fel Cynghorydd
Sir rwyf wedi ymgyrchu dros wasanaethau bysiau cyhoeddus, buddsoddi mewn cyllid
priffyrdd, y gwasanaeth cerdd, llefydd chwarae i blant, y blynyddoedd cynnar
a’r amgylchedd naturiol.
Asedau’r Cyfryngau