Trefnydd, Prif Chwip a
Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Fel Aelod o’r Senedd, mae Heledd wedi ymgyrchu ar nifer o bynciau amrywiol gan
gynnwys mwy o weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a chefnogaeth i gymunedau sy’n
wynebu risg parhaus o lifogydd; cau chwarel Craig yr Hesg; rhan mwy canolog i
ddiwylliant, hanes, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon yn rhaglenni’r
llywodraeth; dyfodol y Gymraeg; taclo tlodi; gwell cefnogaeth i ddysgwyr gyda
anghenion dysgu ychwanegol a trafnidiaeth Ysgol.
Hanes personol
Magwyd Heledd yn Ynys Mon, lle mynychodd Ysgol Gynradd y Talwn ac Ysgol
Uwchradd David Hughes. Astudiodd Hanes a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg y Drindod
yn Nulyn, gan ddod yn Swyddog Sabathol Addysg yn Undeb Myfyrwyr Coleg y Drindod
ac yna yn Swyddog Sabathol Addysg Undeb Myfyrwyr Iwerddon. Mae ganddi radd
meistr mewn Hanes Canol Oesoedd o Brifysgol Bangor. Mae Heledd yn byw ym
Mhontypridd gyda ei gwr, a’u mab.
Cefndir proffesiynol
Cyn cael ei hethol, roedd Heledd wedi bod yn gweithio ers deuddeg mlynedd i
Amgueddfa Cymru fel Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus gan arwain ar
lywodraethiant, strategaeth, cyfathrebu mewnol, cysylltiadau rhyngwladol a
ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Bu yn aelod o Fwrdd y Museums Association gan
gadeirio eu Pwyllgor Moeseg mewn Amgueddfeydd a’u Pwyllgor Cenhedloedd a’u
cynrychioli fel siaradwraig wadd mewn nifer o gynhadleddau rhyngwladol. Cyn
hynny, bu Heledd yn gweithio i grwp Plaid Cymru yn San Steffan.
Hanes gwleidyddol
Yn 2017, cafodd Heledd ei hethol i gynrychioli ward Tref Pontypridd ar
Gyngor Rhondda Cynon Taf a hefyd Cyngor Tref Pontypridd. Fel Cynghorydd, fe
wnaeth hi gefnogi nifer o ymgyrchoedd blaenllaw yn lleol gan gynnwys galw am
Ymchwiliad Annibynnol i lifogydd dinistriol 2020, achub yr Uned Damweiniau ac
Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn erbyn newidiadau i ysgolion
yn ardal Pontypridd.