Cytunwyd ar Fframwaith Rhyngwladol y Senedd ym mis Medi 2022 gan Gomisiwn y Senedd ac fe'i gweithredir gan swyddogion ar draws y sefydliad, gan gynnwys Swyddfa Breifat y Llywydd, Y Gwasanaeth Ymchwil a Phwyllgorau'r Senedd.

Mae'r Fframwaith yn  sicrhau atebolrwydd, eglurder a chyfeiriad mewn perthynas â gweithgarwch seneddol rhyngwladol a ariennir gan Gomisiwn y Senedd, ac mae’n seiliedig ar yr egwyddorion sydd ynghlwm wrth y ffaith y bydd ein gweithgareddau rhyngwladol:

  1. Yn canolbwyntio ar fusnes y Senedd, gan alluogi’r Senedd i gyflawni ei swyddogaeth graidd, sef cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, drwy wella’r broses o gyfnewid gwybodaeth, syniadau a phrofiad; ac
  2. Yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd meithrin enw da sefydliadol a rhyngwladol y Senedd drwy ymgysylltu a chydweithio, boed a yw’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan Aelodau neu Bwyllgorau, neu a yw’n digwydd ar lefel swyddogion neu rhwng Seneddau.

Fframwaith Rhyngwladol y Chweched Senedd

Wrth weithredu'r Fframwaith, mae manylion gweithgareddau rhyngwladol, gan gynnwys adroddiadau a blogiau, yn cael eu rhannu'n rheolaidd ar y wefan hon. Mae diweddariadau ar gael yn y dolenni isod.

Llun o glôb

Diweddariadau

Cynhadledd Rôl Senedd wrth Lunio Dyfodol Deallusrwydd Artiffisial Cyfrifol

Kuala Lumpur - Tachwedd 2025

Mynychodd Hannah Blythyn AS ac Adam Price AS Gynhadledd a gynhaliwyd gan Senedd Malaysia, y CPA, yr Undeb Rhyng-seneddol,a Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP). Amcanion y Gynhadledd oedd ehangu cydweithrediad rhyng-seneddol, deialog a chyfnewid gwybodaeth ar lywodraethu AI ac i gataleiddio ewyllys gwleidyddol ar gyfer adeiladu gallu cenedlaethol ar gyfer AI, gan gynnwys defnyddio AI o fewn sefydliadau seneddol.

Darllenwch fwy yma. 

Cynhadledd Ranbarthol 61ain Canada CPA

Dinas Québec, Québec - Gorffennaf 2025

Mynychodd y Dirprwy Lywydd y Gynhadledd Ranbarthol fel arsylwr rhyngwladol ar wahoddiad y Assemblée Nationale du Quebec. Cyflwynodd y Dirprwy Lywydd ddiweddariad llafar i gynrychiolwyr y gynhadledd ar ddatblygiadau cyfoes sy'n digwydd yn y Senedd. Roedd mynychu'r gynhadledd yn gyfle gwerthfawr i godi proffil y Senedd yng Nghanada, yn enwedig i Daleithiau Canada nad oedd ganddynt fawr o wybodaeth am Gymru ac nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r Senedd yn flaenorol. 

Darllenwch fwy yma. 

54ain Cynhadledd BIMR

Senedd Cymru - Mehefin 2025

Cynhaliodd y Llywydd a Chadeirydd Senedd y CPA, Rhun ap Iorwerth AS, y 54ain Cynhadledd BIMR yng Nghaerdydd. Thema'r gynhadledd oedd "Mynd i'r afael ag anghenion Senedd Fodern". Edrychodd y gynhadledd ar y mesurau democrataidd sydd ar waith i ddiogelu cynrychiolaeth amrywiol mewn seneddau, yn ogystal â'r gefnogaeth a'r addysg sydd ar gael i seneddwyr eu hunain. Lansiwyd y Rhwydwaith LGBT+ rhanbarthol yn y gynhadledd hefyd. 

Ymweliad swyddogol â'r Assemblée Nationale du Québec ar wahoddiad y Llefarydd Nathalie Roy.

Québec, Canada - Mai 2025

Ymgymerodd y Llywydd ag ymweliad swyddogol â'r Assemblée Nationale du Quebec ar wahoddiad y Llywydd Nathalie Roy MNA. Roedd y gwahoddiad yn dilyn gohirio 2il Uwchgynhadledd y Llywyddion Menywod, a oedd i fod i'w chynnal ar yr un dyddiad, a gwahoddwyd y Llywydd i ymgymryd â'r ymweliad i gydnabod y bartneriaeth barhaus rhwng y ddwy ddeddfwrfa. Fel rhan o'r ymweliad, byddai'r ddau Lefarydd yn llofnodi MOU ac yn rhannu diweddariadau mewn nifer o feysydd o'n dwy senedd. 

Darllenwch fwy yma. 

Dirprwyaeth Seneddol i Alþingi

Gwlad yr Ia - Mawrth 2025

Fe wnaeth y Llywydd arwain dirprwyaeth o gadeiryddion pwyllgorau'r Senedd i Wlad yr Iâ rhwng 25 a 27 Mawrth 2025 ar gyfer rhaglen yn canolbwyntio ar gryfhau cysylltiadau seneddol a chyfnewid mewnwelediadau ar arferion seneddol, polisi cyhoeddus a diwylliant democrataidd. Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys cadeiryddion pwyllgor Llyr Gruffydd AS a Russell George AS. Daeth yr ymweliad i ben gyda galwad cwrteisi ar Arlywydd Gwlad yr Iâ, H.E. Ms. Halla Tómasdóttir, yn y breswylfa swyddogol, Bessastaðir. 

Darllenwch fwy yma

Ymweliad Dirprwyaeth Traws-Bwyllgor

Stuttgart – Chwefror 2025

Arweiniodd y Dirprwy Lywydd ymweliad Traws-bwyllgor â Stuttgart rhwng 24-26 Chwefror. Croesawyd y Dirprwy Lywydd, Llyr Gruffydd AS, Hannah Blythyn AS, a Carolyn Thomas AS i Landtag Baden-Württemburg ar gyfer rhaglen seneddol swyddogol, y cyntaf o'r Senedd. Fe wnaeth yr aelodau hefyd ymgymryd ag ymweliadau safle a chyfarfod â rhanddeiliaid yn ystod eu hamser yn y ddinas.

Darllenwch fwy yma.

Ein gwaith ni