Efallai na fydd ein gwefan ar gael ddydd Iau 29 Hydref oherwydd gwaith cynnal a chadw. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra.
Fframwaith Rhyngwladol - Diweddariadau Blaenorol
Fframwaith Rhyngwladol - Diweddariadau Blaenorol
Cytunwyd ar Fframwaith Rhyngwladol y Senedd ym mis Medi 2022 gan Gomisiwn y Senedd ac fe'i gweithredir gan swyddogion ar draws y sefydliad, gan gynnwys Swyddfa Breifat y Llywydd, Y Gwasanaeth Ymchwil a Phwyllgorau'r Senedd.
Mae gwybodaeth am weithgarwch rhyngwladol yn y 6ed Senedd i'w gweld isod ac yn y tabl hwn.
Diweddariadau Blaenorol
Fforwm Seneddwyr y Gymanwlad ag Anableddau (CPwD) cyntaf BIMR
Caeredin, Yr Alban – 20 Chwefror 2026
Roedd y fforwm yn cynnwys sesiynau ar "Archwiliadau Hygyrchedd; Hawliau Anabledd a Sut i annog mwy o bobl ag anableddaui sefyll mewn etholiad." Cynrychiolwyd y Senedd gan Mark Isherwood AS (yn rhithwir).
Mae erthygl Ysgrifenyddiaeth y CPA ar gael yma.
12fed Gynhadledd BIMR CWP
Belfast, Gogledd Iwerddon – Chwefror 2026
Gwnaeth Rhianon Passmore AS a Sioned Williams AS gynrychioli'r Senedd yng Nghynhadledd Ranbarthol Seneddwyr Benywaidd y Gymanwlad, a gynhaliwyd gan Gynulliad Gogledd Iwerddon yn Stormont. Thema'r Gynhadledd oedd “Pŵer a Heddwch: Diogelu Ein Hiechyd Meddwl mewn Bywyd Cyhoeddus”.
Mae erthygl Ysgrifenyddiaeth y CPA ar gael yma.
Cawcws Menywod Gogledd Iwerddon
Belfast, Gogledd Iwerddon – Chwefror 2026
Cynrychiolwyd y Senedd gan Joyce Watson AS (Cadeirydd Cawcws Menywod y Senedd) yn ogystal ag Aelodau’r Cawcws Julie Morgan AS, Siân Gwenllian AS, Rhianon Passmore AS a Jenny Rathbone AS.
Thema digwyddiad y Cawcws oedd “Cefnogi Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus”.
Cynhadledd Rôl Senedd wrth Lunio Dyfodol Deallusrwydd Artiffisial Cyfrifol
Kuala Lumpur - Tachwedd 2025
Mynychodd Hannah Blythyn AS ac Adam Price AS Gynhadledd a gynhaliwyd gan Senedd Malaysia, y CPA, yr Undeb Rhyng-seneddol,a Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig (UNDP). Amcanion y Gynhadledd oedd ehangu cydweithrediad rhyng-seneddol, deialog a chyfnewid gwybodaeth ar lywodraethu AI ac i gataleiddio ewyllys gwleidyddol ar gyfer adeiladu gallu cenedlaethol ar gyfer AI, gan gynnwys defnyddio AI o fewn sefydliadau seneddol.
Cynhadledd Ranbarthol 61ain Canada CPA
Dinas Québec, Québec - Gorffennaf 2025
Mynychodd y Dirprwy Lywydd y Gynhadledd Ranbarthol fel arsylwr rhyngwladol ar wahoddiad y Assemblée Nationale du Quebec. Cyflwynodd y Dirprwy Lywydd ddiweddariad llafar i gynrychiolwyr y gynhadledd ar ddatblygiadau cyfoes sy'n digwydd yn y Senedd. Roedd mynychu'r gynhadledd yn gyfle gwerthfawr i godi proffil y Senedd yng Nghanada, yn enwedig i Daleithiau Canada nad oedd ganddynt fawr o wybodaeth am Gymru ac nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r Senedd yn flaenorol.
54ain Cynhadledd BIMR
Senedd Cymru - Mehefin 2025
Cynhaliodd y Llywydd a Chadeirydd Senedd y CPA, Rhun ap Iorwerth AS, y 54ain Cynhadledd BIMR yng Nghaerdydd. Thema'r gynhadledd oedd "Mynd i'r afael ag anghenion Senedd Fodern". Edrychodd y gynhadledd ar y mesurau democrataidd sydd ar waith i ddiogelu cynrychiolaeth amrywiol mewn seneddau, yn ogystal â'r gefnogaeth a'r addysg sydd ar gael i seneddwyr eu hunain. Lansiwyd y Rhwydwaith LGBT+ rhanbarthol yn y gynhadledd hefyd.
Ymweliad swyddogol â'r Assemblée Nationale du Québec ar wahoddiad y Llefarydd Nathalie Roy.
Québec, Canada - Mai 2025
Ymgymerodd y Llywydd ag ymweliad swyddogol â'r Assemblée Nationale du Quebec ar wahoddiad y Llywydd Nathalie Roy MNA. Roedd y gwahoddiad yn dilyn gohirio 2il Uwchgynhadledd y Llywyddion Menywod, a oedd i fod i'w chynnal ar yr un dyddiad, a gwahoddwyd y Llywydd i ymgymryd â'r ymweliad i gydnabod y bartneriaeth barhaus rhwng y ddwy ddeddfwrfa. Fel rhan o'r ymweliad, byddai'r ddau Lefarydd yn llofnodi MOU ac yn rhannu diweddariadau mewn nifer o feysydd o'n dwy senedd.
Dirprwyaeth Seneddol i Alþingi
Gwlad yr Iâ - Mawrth 2025
Fe wnaeth y Llywydd arwain dirprwyaeth o gadeiryddion pwyllgorau'r Senedd i Wlad yr Iâ rhwng 25 a 27 Mawrth 2025 ar gyfer rhaglen yn canolbwyntio ar gryfhau cysylltiadau seneddol a chyfnewid mewnwelediadau ar arferion seneddol, polisi cyhoeddus a diwylliant democrataidd. Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys cadeiryddion pwyllgor Llyr Gruffydd AS a Russell George AS. Daeth yr ymweliad i ben gyda galwad cwrteisi ar Arlywydd Gwlad yr Iâ, H.E. Ms. Halla Tómasdóttir, yn y breswylfa swyddogol, Bessastaðir.
Ymweliad Dirprwyaeth Traws-Bwyllgor i Stuttgart - Chwefror 2025
Arweiniodd y Dirprwy Lywydd ymweliad Traws-bwyllgor â Stuttgart rhwng 24-26 Chwefror. Croesawyd y Dirprwy Lywydd, Llyr Gruffydd AS, Hannah Blythyn AS, a Carolyn Thomas AS i Landtag Baden-Württemburg ar gyfer rhaglen seneddol swyddogol, y cyntaf o'r Senedd. Fe wnaeth yr aelodau hefyd ymgymryd ag ymweliadau safle a chyfarfod â rhanddeiliaid yn ystod eu hamser yn y ddinas.
Adroddiad Pwyllgor - Diwylliant a'r UE
Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, wedi cyhoeddi’i adroddiad Sioc Ddiwylliannol: Diwylliant ar Berthynas Newydd gydir Undeb Ewropeaidd, sy’n gwneud 14 argymhelliad. Lansiwyd yr adroddiad ym Mrwsel fel rhan o ymweliad y Pwyllgor yna ym mis Tachwedd 2024.
Model Newydd ar gyfer Ffiniau Masnach y DU
Wedi i’r DU ymadael â’r UE, cafodd cyfundrefn fewnforio newydd ei llunio gan lywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban a swyddogion o Ogledd Iwerddon, sef Model Gweithredu Targed y Ffin (BTOM). Cafodd ei gyhoeddi ym mis Awst 2023, ac roedd yn nodi amserlen ar gyfer cyflwyno rheolaethau masnach newydd ar ein holl fewnforion, gan gynnwys mewnforion o’r UE.
Mae rhagor o fanylion wedi’u cynnwys yn erthygl Ymchwil y Senedd, Cymru a’r model newydd ar gyfer ffiniau masnach y DU, a chyhoeddodd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig adroddiad cysylltiedig ym mis Hydref 2024, Model Gweithredu Targed y Ffin: Y darlun yng Nghymru
Ymweliad Dirprwyaeth Traws-Bwyllgor ag Iwerddon
Arewiniodd y Dirprwy Lywydd ddirprwyaeth traws-Bwyllgorol i Iwerddon ym mis Medi 2024. Ymunodd aelodau o’r Pwyllgorau Diwylliant, Cyfathrebu, yr iaith Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Pwyllgor Economi, Masnach, a Materion Gwledig, a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith â’r ymweliad i Ddulyn rhwng 18-20 Medi, llu buon nhw’n cyfarfod â chymheiriaid o’r Oireachtas ynghyd â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Adran Materion Tramor Llywodraeth Iwerddon, Cyngor Celfyddydau Iwerddon a phartneriaid allweddol eraill. Roedd trafodaethau’n cynnwys gweithdrefnau seneddol, chwaraeon, diwylliant, ynni adnewyddadwy a Masnach, yn ogystal â’r Cyd-ddatganiad a Chynllun Gwiethredu rhwng Iwerddon a Chymru.
Fel rhan o’r ymweliad, bu’r Dirprwy Lywydd yn cyfarfod â Dirprwy Lefarydd Steve Aiken ACD yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, yr ymweliad swyddogol cyntaf gan y Senedd i Stormont ers i’r Cynulliad ailddechrau.
Mae adroddiad o’r ymweliad wedi’i gyhoeddi, gydag awgrymiadau ar gyfer argymhellion i bob Pwyllgor.
Adroddiad Monitro – Cynllun Setliad yr UE
Fel rhan o’i gwaith monitro rheolaidd ar Gynllun Setliad yr UE, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol adroddiad monitro ym mis Medi 2024.
Cyhoeddodd y Pwyllgor yr ail adroddiad blynyddol ar ei waith monitro o’r cynllun ym mis Ebrill 2024.
Maes Awyr Caerdydd, Llywodraeth Cymru a'i Strategaeth Ryngwladol
Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd yr erthygl hon yn diweddar ar sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru ym Maes Awyr Caerdydd yn ymwneud â'i Strategaeth Ryngwladol. Mae'r erthygl hefyd yn edrych ar waith craffu'r Senedd ar y buddsoddiad hwn a Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.
Cynhadledd CPA - Deallusrwydd Artiffisial a Thwyllwybodaeth
Ym mis Mehefin 2024, mynychodd Lee Waters AS gynhadledd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad ar Ddeallusrwydd Artiffisial a Thwyllwybodaeth: 'Democratiaeth yn oes y deepfakes', a chyhoeddodd yr adroddiad hwn ar ôl iddo ddychwelyd.
Ymweliad – Llefarydd yr Assemblée Nationale du Québec
Ym mis Mehefin, croesawodd y Llywydd ddirprwyaeth o Assemblée Nationale du Québec, wedi’i arwain gan eu Llywydd yr Anrh. Nathalie Roy. Roedd rhaglen yr ymweliad yn cynnwys rhaglen diwrnod yn y Senedd ac ymweliad diwylliannol i St Fagan’s.
Blaenoriaethau Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Cyhoeddodd adran Ymchwil y Senedd yr erthygl yma yn ddiweddar, yn trafod Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru gan gynnwys perthnasoedd blaenoriaeth rhyngwladol y Llywodraeth, ei swyddfeydd tramor a’i chytundebau rhyngwladol dwyochrog, yn ogystal ag infograffeg ddefnyddiol newydd!
Adroddiad Monitro – Gweithgarwch Rhyngwladol y Gweinidogion
Fel rhan o’i waith monitro rheolaidd o’r Gweithgaredd Rhyngwladol a wneir gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, bu’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn trafod yr adroddiad monitro hwn.
Ym mis Mehefin, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda’r Brif Weinidog yn canolbwyntio ar Gysylltiadau Rhyngwladol y Llywodraeth. Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i ddiwylliant a’r berthynas rhwng y DU a'r UE.
66ain Cyfarfod Llawn BIPA - Wicklow, Iwerddon
Cynhaliwyd 66ain Cyfarfod Llawn BIPA yn Co. Wicklow ym mis Ebrill 2024, lle cynrychiolwyd y Senedd gan Heledd Fychan AS, Darren Millar MS, a Sarah Murphy AS. Cytunodd aelodau ar Adroddiad Blynyddol 2023 ac adroddiad Pwyllgor Economaidd BIPA ar Strategaeth Ynni y Llywodraeth a Pholisi Ynni Defnyddwyr.
Canolbwyntiodd y Cyfarfod Llawn hwn ar Dwristiaeth, ac fel rhan o’r rhaglen cafwyd anerchiadau gan Lysgenhadon Prydain ac Iwerddon yn ogystal â'r Taoiseach newydd Simon Harris TD. Bydd y Cyfarfod Llawn nesaf yn cael ei gynnal ym mis Medi ar y thema Amddiffyn a Diogelwch.
Seminar San Steffan - Rhaglen y Senedd
Ym mis Mawrth 2024, cynhaliwyd rhaglen undydd yn y Senedd fel rhan o Seminar San Steffan CPA UK, ar gyfer aelodau a chlercod o ddeddfwrfwydd bach ac is-genedlaethol o Ranbarthau'r Gymanwlad.
Ymweliad gan y Ceann Comhairle o Dáil Éireann
Ym mis Mawrth 2024, croesawyd Seán Ó Fearghaíl, y Ceann Comhairle i'r Senedd ar gyfer rhaglen un-diwrnod oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda'r Llywyddion ac aelodau.
Adroddiad Pwyllgor - Llywodraethu'r DU a'r UE
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi cwblhau eu hymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE. Fel rhan o'r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor ymweliad casglu tystiolaeth â Brwsel i gymryd tystiolaeth gan sefydliadau'r UE a rhanddeiliaid a chynhyrchu crynodeb o themâu allweddol yr ymweliad. Mae'r adroddiad wedi'i gyhoeddi a chynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Chwefror 2024.
Adroddiad Pwyllgor – Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon
Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. Fel rhan o'r ymchwiliad, cynhaliodd y Pwyllgor ymweliad casglu tystiolaeth â Dulyn, a bu'n adrodd ar yr ymweliad hwnnw yma. Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 29 Tachwedd 2023.
66ain Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad – Accra, Ghana
Cynhaliwyd 66fed Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad yn Accra, Ghana rhwng 2-5 Hydref 2023, ar y thema "Siarter y Gymanwlad 10 mlynedd yn ddiweddarach: Gwerthoedd ac Egwyddorion i Seneddau eu Cynnal". Cynrychiolwyd y Senedd gan Adam Price MS a Carolyn Thomas AS, ac mae eu myfyrdodau ar y gynhadledd ar gael i'w darllen yn yr adroddiad o’r gynhadledd.