Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Fframwaith Rhyngwladol
Cytunwyd ar Fframwaith Rhyngwladol y Senedd ym mis Medi 2022 gan Gomisiwn y Senedd ac fe'i gweithredir gan swyddogion ar draws y sefydliad, gan gynnwys Swyddfa Breifat y Llywydd, Y Gwasanaeth Ymchwil a Phwyllgorau'r Senedd.
Mae'r Fframwaith yn sicrhau atebolrwydd, eglurder a chyfeiriad mewn perthynas â gweithgarwch seneddol rhyngwladol a ariennir gan Gomisiwn y Senedd, ac mae’n seiliedig ar yr egwyddorion sydd ynghlwm wrth y ffaith y bydd ein gweithgareddau rhyngwladol:
- Yn canolbwyntio ar fusnes y Senedd, gan alluogi’r Senedd i gyflawni ei swyddogaeth graidd, sef cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, drwy wella’r broses o gyfnewid gwybodaeth, syniadau a phrofiad; ac
- Yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd meithrin enw da sefydliadol a rhyngwladol y Senedd drwy ymgysylltu a chydweithio, boed a yw’r gwaith hwnnw’n cael ei arwain gan Aelodau neu Bwyllgorau, neu a yw’n digwydd ar lefel swyddogion neu rhwng Seneddau.
Fframwaith Rhyngwladol y Chweched Senedd
Adolygiad Fframwaith Rhyngwladol 2026
Wrth weithredu'r Fframwaith, mae manylion gweithgareddau rhyngwladol, gan gynnwys adroddiadau a blogiau, yn cael eu rhannu'n rheolaidd ar y wefan hon. Mae diweddariadau ar gael yn y dolenni isod.
Diweddariadau
69ain Cyfarfod Llawn BIPA
Sheffield – Hydref 2026
Cynhaliwyd 69ain Cyfarfod Llawn BIPA yn Sheffield rhwng 18-20 Hydref. Thema’r cynhadledd oedd “Shared Futures: Democratic Partnership and Policy Success Across the British-Irish Isles”.
Dyma’r Cyfarfod Llawn cyntaf i ddirprwyaeth newydd y Senedd, wedi’i harwain gan Kerry Ferguson AS, y Dirprwy Lywydd. Darllennwch mwy
69ain Cynhadledd CPA CPC
Cape Town, De Affrica - Medi 2026
Cynrychiolodd Natasha Asghar AS a Shav Taj AS y Senedd yn 69ain Cynhadledd Seneddol y Gymanwlad, a gynhaliwyd gan Senedd De Affrica yn Cape Town. Adroddiad yma.
Ymweliad Dirprwyaeth Senedd Seland Newydd
Senedd Cymru – Gorffennaf 2026
Bu Llywydd Senedd Seland Newydd, Gerry Browntree MP, yn arwain dirprwyaeth drawsbleidiol i’r Senedd ym mis Gorffennaf 2026. Roedd eu rhaglen seneddol yn cynnwys sesiynau ar ddeallusrwydd artiffisial, busnes y Seithfed Senedd, a diogelwch aelodau.
Mae copi o’i rhaglen ar gael yma, a chlip o’r Llywydd ac aelod o’r dirprwyaeth, Tamatha Paul MP.