Y Llywydd yn cyhoeddi panel arbenigol i gefnogi gwaith ar ddiwygio trefniadau etholiadol

Cyhoeddwyd 01/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/02/2017

​Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, wedi cyhoeddi heddiw (1 Chwefror) y bydd yr Athro Laura McAllister yn cadeirio Panel Arbenigol y Cynulliad ar Ddiwygio Etholiadol.
 
Pwrpas y Panel Arbenigol yw cynghori Comisiwn y Cynulliad ar dri mater craidd:

  • faint o Aelodau y mae ar y Cynulliad eu hangen;
  • y system etholiadol fwyaf addas i'w defnyddio ar gyfer eu hethol; a'r
  • oedran pleidleisio priodol ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Er y bydd y Panel Arbenigol yn cynnal rhywfaint o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth yn ystod ei waith, ei flaenoriaeth fydd cyflawni'r cylch gorchwyl a nodir isod.

Meddai'r Llywydd wrth gyhoeddi'r Panel:

"Trwy ddatganoli pwerau i'r Cynulliad a symud i fodel cadw pwerau, rhoddir sail gyfansoddiadol newydd i'r Cynulliad, â chyfrifoldebau newydd pwysig. O'r diwedd, mae gan y Cynulliad reolaeth dros ei faterion ei hun i helpu i wneud y sefydliad hwn yn ddeddfwrfa gryfach, fwy hygyrch, cynhwysol a blaengar sy'n cyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi Panel mor gymwys â gwybodaeth mor arbenigol. Rhyngddynt, mae ganddynt arbenigedd helaeth ym meysydd systemau etholiadol, gwaith a chapasiti Seneddau, sefyllfa gyfansoddiadol y Cynulliad Cenedlaethol, a materion ehangach yn ymwneud â llywodraethu, gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymgysylltu. Bydd eu gwaith yn hanfodol i ymdrechion y Comisiwn i ddiwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llywio dyfodol democratiaeth yng Nghymru.

Nid oes modd gwahanu materion cyfansoddiadol sylfaenol o'r fath yn llwyr oddi wrth wirioneddau gwleidyddol democratiaeth gynrychiadol yng Nghymru. Felly, byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Prif Weinidog a'r pleidiau gwleidyddol sydd â chynrychiolaeth yn y Cynulliad i feithrin a chynnal cefnogaeth drawsbleidiol eang."

Meddai'r Athro Laura McAllister, Cadeirydd y Panel Arbenigol:

"Mae capasiti'r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau hanfodol, sef dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi ar gyfer Cymru, a chynrychioli pobl Cymru wedi bod yn destun trafod ers amser. Mae'r Panel a minnau'n edrych ymlaen at archwilio'r dystiolaeth, a pharatoi argymhellion cadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth, i'r Llywydd a'r Comisiwn eu hystyried."

Dyma aelodau'r Panel:

  • Yr Athro Laura McAllister (Cadeirydd) - Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethiant Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru
  • Yr Athro Rosie Campbell - Athro Gwleidyddiaeth, Birkbeck, Prifysgol Llundain a'r Athro Sarah Childs - Athro Gwleidyddiaeth a Rhywedd ym Mhrifysgol Bryste (aelodaeth ar y cyd)
  • Rob Clements - cyn-Gyfarwyddwr Darparu Gwasanaethau yn Nhŷ'r Cyffredin
  • Yr Athro David Farrell - Athro Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Dulyn
  • Y Dr Alan Renwick - Dirprwy Gyfarwyddwr Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain
  • Syr Paul Silk - Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru rhwng 2011 a 2014, a chyn-Glerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd y Llywydd hefyd yn sefydlu ac yn cadeirio Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol. Caiff ei aelodau eu henwebu gan y pleidiau gwleidyddol sydd â chynrychiolaeth yn y Cynulliad.

Cynghori fydd rôl y Grŵp Cyfeirio. Bydd yn ystyried ac ymateb i ganfyddiadau'r Panel wrth iddynt ddod i'r amlwg, a bydd yn helpu'r Panel i sicrhau bod ei waith yn arwain at argymhellion ymarferol.

 

Cylch gorchwyl y Panel: 

  • Adolygu'r dystiolaeth a'r ymchwil bresennol sy'n ymwneud â maint a threfniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol, a'u hategu os oes angen;
  • Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth honno, ac er mwyn llywio'r gwaith o baratoi unrhyw ddeddfwriaeth angenrheidiol, gwneud argymhellion i Gomisiwn y Cynulliad ynglŷn â sawl Aelod ddylai fod gan y Cynulliad Cenedlaethol, y system etholiadol y dylid ei defnyddio i ethol ei Aelodau, a'r oed pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol;
  • Dylai'r Panel Arbenigol gyflwyno adroddiad erbyn hydref 2017 fel y gellid gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol mewn pryd ar gyfer etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2021, ar yr amod bod y gefnogaeth wleidyddol angenrheidiol yn bodoli.

 

Datganiad Ysgrifenedig: Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad