Mynd i Gyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munudau

Mae croeso cynnes i chi ddod i’r Senedd i eistedd yn yr Oriel Gyhoeddus a gwylio'r Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae'r Oriel Gyhoeddus yn lle cwbl hygyrch: mae lle ar gyfer cadeiriau olwyn, mae’r sesiwn yn cael ei darlledu’n fyw ar sgrin yn union o'ch blaen, a darperir clustffonau ar gyfer y ffrwd sain.

Y Cyfarfod Llawn yw cyfarfod o’r 60 Aelod o’r Senedd, ac fe’i cynhelir yn y Siambr ac ar-lein bob prynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher. Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13.30 ac yn gorffen am 18.00, ond gall hyn amrywio weithiau.

I weld beth sy’n cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, ewch i agenda'r Cyfarfod Llawn ar gyfer y diwrnod hwnnw. Bydd copïau ar gael ar y ddesg wybodaeth. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Ystyriaethau cyn ymweld 

  • Caniatewch tua 15 munud ar gyfer mynd drwy’r broses ddiogelwch  
  • peidiwch â dod â llawer o eiddo gyda chi, gan fod gennym ni system ddiogelwch debyg i faes awyr ac mae’r holl ymwelwyr ac eiddo yn cael eu sganio

Ar ôl cyrraedd bydd aelod o’n tîm yn rhoi esboniad byr i chi o'r hyn i'w ddisgwyl yn yr adeilad.

 

Eich ymddygiad yn ystod y Cyfarfod Llawn

Rhaid sicrhau bod pob dyfais electronig, fel ffonau symudol a gliniaduron, yn ddistaw.

Mae’n bosibl y cewch eich gwahardd o'r Oriel Gyhoeddus os byddwch chi'n ymddwyn mewn modd afreolus neu aflonyddgar, neu os byddwch chi'n tarfu ar fusnes y Senedd.

Pan ddewch i’r Cyfarfod Llawn, rhaid i chi beidio â:

  • bod dan ddylanwad alcohol na chyffuriau;
  • peri tramgwydd i ymwelwyr eraill;
  • siarad yn uchel na tharfu ar y cyfarfod mewn unrhyw ffordd;
  • dod â bwyd a diodydd i'r oriel;
  • defnyddio e-sigaréts yn ystod y cyfarfod;
  • tynnu lluniau yn ystod y cyfarfod.

 

Archebu seddi

Er nad yw'n angenrheidiol, awgrymwn eich bod yn archebu eich lle i wylio busnes cyn i chi ymweld.

I archebu tocyn: cysylltwch â ni dros y ffôn (08.30 a 17.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Os na allwch ddod ar y diwrnod mwyach, rhowch wybod i ni a gallwn ailddyrannu eich sedd/seddi. Gallwch hefyd wylio’r Cyfarfod Llawn yn fyw neu archif o'r cyfarfodydd ar Senedd.tv..