Frasluniau cynnar Ivan Harbour ar gyfer y Senedd

Frasluniau cynnar Ivan Harbour ar gyfer y Senedd

Dylunio yn ganolog i’r Senedd

Cyhoeddwyd 25/04/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/04/2023   |   Amser darllen munudau

Agorwyd adeilad y Senedd gan y Frenhines Elizabeth II ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006. Fe’i cynlluniwyd gan Bartneriaeth Rogers, Stirk a Harbour, ac mae’n gwneud defnydd helaeth o ddeunyddiau Cymreig fel llechi a choed derw.

Yn yr arddangosfa hon gwelwn rai o frasluniau cynnar Ivan Harbour ar gyfer y Senedd, a chyflwynwn y gwerthoedd sy’n sail i’r Senedd, o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, tryloywder a natur agored.

Dewch draw i’r Pierhead i gael rhagor o wybodaeth.

 

‘Mewn senedd, mae busnes yn aml yn digwydd “y tu ôl i ddrysau caeedig”. Wrth ddylunio’r Senedd, fel democratiaeth fodern, cawsom wared ar y drysau hynny er mwyn gwneud gwaith y Senedd yn weladwy.’

- Ivan Harbour
Pensaer ac un o bartneriaid RSHP a oedd yn arwain prosiect y Senedd

 

Lluniau

©RSHP