Celf yn y Senedd

Pan agorodd adeilad y Senedd am y tro cyntaf, comisiynwyd pedwar artist i greu cerfluniau fel rhan o bensaernïaeth yr adeilad.

Yn fwy diweddar, comisiynwyd yr artist o Gymru Angharad Pearce Jones i greu dau gerflun ar gyfer prif fannau cyhoeddus y Senedd i alluogi pobl i gysylltu â’r Senedd a’r Aelodau sy’n eu cynrychioli, a dysgu amdanynt.